Myfyriwr Peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor yn cipio gwobr prentisiaeth genedlaethol
Mae’r coleg yn hynod o falch o gyhoeddi bod Laurie Zehetmayr, myfyriwr yn adran peirianneg yn Nolgellau wedi cipio’r wobr “Dyfarniad Prentis Myfyriwr sydd wedi Gwella Fwyaf” gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol yn ddiweddar.
Mae Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn darparu cyfleoedd dysgu gydol oes ar gyfer ein 115,000 o aelodau, a bydd llawer ohonynt yn cyflawni statws cofrestredig proffesiynol.
Rhoddwyd enw Laurie ymlaen ar gyfer y wobr hon oherwydd yr holl waith caled y mae wedi’i gyflawni tra yma yn y coleg yn Nolgellau.
Cwblhaodd Laurie y cymhwyster PEO L2 ac yna symudodd ymlaen i Dystysgrif Mec Tec L3 a phasiodd y saith uned gyda Rhagoriaeth glir.
Dywedodd Marius Jones - RhMRh Adeiladwaith a Pheirianneg - Dolgellau a Pwllheli
“Mae Laurie yn enghraifft wych o'r hyn y gall merched ei gyflawni yn y byd Peirianneg. Mae Laurie yn cael ei chyflogi yn Rheilffordd Ffestiniog ac mae'n debyg y bydd yn symud ymlaen i bethau uwch yn y dyfodol. Gweithiodd Laurie yn galed iawn yn ystod y pandemig Covid a mynychodd yr holl sesiynau ar-lein yn ystod yr amser caled hwn. Dyma pam rydyn ni'n teimlo bod Laurie yn haeddu'r wobr hon.”
Wrth astudio yn y coleg, mi roedd Laurie yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol i gwmni Rheilffordd Ffestiniog. Rheilffordd Ffestiniog yw rheilffordd gul hynaf y byd gyda bron i 200 mlynedd o hanes, Mae Rheilffordd Ffestiniog a’i seilwaith bellach yn rhan annatod o Safle Treftadaeth y Byd “Tirwedd Llechi Gogledd Cymru” UNESCO.
Os hoffet ti ddilyn llwyddiant Laurie, clica ar y linc isod i ddysgu mwy am ein cyrsiau peirianneg.