Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfrifo’n cyfrif at lwyddiant Prentis y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai

Mae cyfrifo wedi cyfrif tuag at lwyddiant Eleri Davies, enillydd y fedal aur mewn cyfrifo yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, sydd wedi ennill gwobr Prentis Cyffredinol y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai 2023.

Casglodd Eleri, sy’n gweithio i Archwilio Cymru, y wobr yn y seremoni a gynhaliwyd yn Venue Cymru ar 8fed Chwefror, gan ei hychwanegu at ei gwobr fel Prentis y Flwyddyn mewn Cyfrifeg, ar noson o ddathlu ar gyfer enillwyr y gwobrau dysgu yn y gweithle.

Wedi iddi ennill ei Phrentisiaeth Lefel 3 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) gyda rhagoriaeth, mae’n gweithio tuag at Ddiploma Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyfrifeg Proffesiynol erbyn hyn.

Roedd yn aelod o dîm Grŵp Llandrillo Menai a dderbyniodd fedal aur am eu sgiliau cyfrifo yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, gan fynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol WorldSkills y Deyrnas Unedig ym mis Tachwedd.

Mae Eleri hefyd yn cefnogi ei chyd-brentisiaid ar Gynllun Cyfaill yn y gwaith ac hefyd wedi gwirfoddoli i fod yn farsial tân ar gyfer clwstwr Gogledd-Orllewin Archwilio Cymru. Yn ei hamser sbâr, mae’n drysorydd i’r elusen Y Gorlan ac yn athrawes Ysgol Sul.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Adrian Crompton: “Rydyn ni i gyd yn hynod falch o Eleri. Mae derbyn y wobr am brentis y flwyddyn ar gyfer cyfrifo a’r wobr gyffredinol am brentis y flwyddyn yn gyflawniad gwych.

“Mae llwyddiant Eleri yn llwyr haeddiannol ac yn brawf i’w hegni, ei phenderfyniad a’i hymrwymiad. Mae Archwilio Cymru’n ymrwymedig i’r cymhwyster ATT ac i weithio mewn partneriaeth gyda Busnes@LlandrilloMenai i ddarparu beth sydd wedi profi i fod yn rhaglen lwyddiannus, sy’n cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol ein prentisiaid.”

Dywedodd Paul Bevan, cyfarwyddwr gweithredol datblygu busnes yn Busnes@LlandrilloMenai: “Llongyfarchiadau mawr i Eleri ar gael ei henwi’n Brentis Cyffredinol y Flwyddyn 2023 ac i enillwyr yr holl brentisiaethau a’u cyflogwyr. Hoffwn ddymuno’n dda i Eleri a’r holl enillwyr ar gyfer eu gyrfaoedd i’r dyfodol.

“Mae’n wych gallu nodi achlysur Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau drwy ddathlu’r prentisiaid gorau ar draws Gogledd Cymru, sydd oll wedi elwa o Raglen Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

“Bob blwyddyn, mae Consortiwm Dysgu yn y Gweithle Grŵp Llandrillo Menai yn cefnogi ystod eang o ddysgwyr prentis ar bob lefel. Nid yn unig rhai sydd newydd adael yr ysgol, ond rhai sy’n edrych i newid sectorau, a’r cyflogai a’r rheolwyr profiadol hynny sy’n dymuno datblygu eu gyrfaoedd ymhellach drwy raglenni prentisiaeth lefel uwch.

Dywedodd Emma McMillan, tiwtor AAT yn Busnes@LlandrilloMenai, fod: “Eleri yn ddysgwr rhagorol gyda natur ofalgar. Nid yn unig mae hi’n wynebu pob tasg gyda brwdfrydedd, mae hi hefyd yn cefnogi ei chyd-ddysgwyr.

“Mae hi wedi dod yn lysgennad ar gyfer cyfrifeg of fewn y Grŵp ac yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo AAT ac Archwilio Cymru, yn ogystal â chefnogi busnesau lleol a’i chydweithwyr.

“Mae bob amser yn edrych am y cyfle nesaf i ddatbygu. Mae’r datblygiad personol mae hi wedi ei arddangos ers iddi ddechrau ar yr AAT Lefel 2 yn rhagorol o safbwynt ei gwybodaeth, ei hyder a’i huan-gred. Mae ei phersonoliaeth bywiog wedi ein cyffwrdd ni i gyd ac mae’n anrhydedd i mi i fod yn rhan o’i thaith AAT ac edrychaf ymlaen i weld beth y bydd hi’n ei wneud nesaf.”

Enillwyr y gwobrau eraill oedd: Prentis y Flwyddyn y Diwydiannau Gwasanaeth: Kelly Ann Hawkes, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Prentis y Flwyddyn mewn Lletygarwch: Victoria Mylchreest-Jones, Coleg Myddleton, Dinbych. Prentis y Flwyddyn mewn Hyfforddiant Chwaraeon ac Addysg: Ryan Evans, Saltney Ferry County Primary School. Prentis y Flwyddyn mewn Gofal Plant: Malgorzata Bienko, School Lane Preschool, Llandudno. Prentis y Flwyddyn mewn Cyflogadwyedd: Harry Dootson. Prentis y Flwyddyn mewn Gweinyddu Busnes a Manwerthu: Mason Baker, Sports For Champions UK CIC. Prentis y Flwyddyn mewn Rheoli: David Wyn Edwards, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Alltwen. Prentis y Flwyddyn mewn Lletygarwch (Coleg Cymraeg Cenedlaethol): Jack Quinney, bwyty Sheeps and Leeks yng Nghaernarfon. Prentis y Flwyddyn yr Amgylchedd Adeiledig: Rebecca Jayne Hughes, Babcock Group. Prentis y Flwyddyn Diwydiannau’r Tir: Hannah Martland, Bodrwnsiwn Veterinary Practice.