Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr o Goleg Llandrillo yn cipio gwobr Cogydd Iau Cymru

Myfyriwr o adran Lletygarwch ac Arlwyo ydy Cogydd Iau newydd Cymru wedi iddo ennill rownd terfynol yn erbyn pedwar arall ym Mhencampwriaethau Arlwyo Rhyngwladol Cymru (WICC), a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo.

Yn ogystal â chipio'r teitl arobryn a Thlws y Ddraig, bydd Dalton Weir 22 o Landudno, prif gogydd Watson's Bistro, Conwy yn awr yn mynd ar ymweliad i'r Worldchefs Congress 2022 yn Abu Dhabi gyda chriw Chymdeithas Coginio Cymru rhwng 30 Mai a 2 Mehefin.

Derbyniodd Dalton y tlws gan y Gweinidog Lesley Griffiths mewn noson wobrwyo yn Llandudno a gynhaliwyd rhai oriau wedi diwedd y bencampwriaeth. Cymerodd Dalton flwyddyn allan o addysg y llynedd ac mae'n bwriadu cwblhau ei Radd mewn Celfyddydau Coginio yn y coleg ym mis Medi.

Enillodd le hefyd yn rownd gynderfynol Cogydd Cenedlaethol Ifanc y Flwyddyn, Craft Guild of Chefs a bydd yn derbyn cefnogaeth gan Dîm Arlwyo Iau Cymru. Cafodd wobr arall hefyd sef casgliad o gyllyll gan Friedr Dick a £100 o nwyddau gan Churchill.

"Rydw i wedi gwirioni, roedd hi'n gystadleuaeth anodd iawn a doeddwn i ddim yn disgwyl ennill," meddai Dalton. "Roeddwn i eisiau cystadlu ers rhai blynyddoedd ac eleni oedd fy nghyfle olaf i wneud hynny oherwydd f'oedran.

Mae ennill y gystadleuaeth yn golygu llawer i mi, mi fydd yn arwain at gyfleoedd yn y dyfodol."

Yn ail yn y gystadleuaeth, ac enillydd y fedal arian oedd Falon Bailie, 17 oed o Foyles od Glasbury, Galsbury ac enillwyr y fedal efydd oedd Stephanie Belcher 21 oed o'r Fenni, sous chef yn Peterstone Court Hotel, Llanhamlech, Aberhonddy, Cai Morris 21 oed o Landegfan, chef de partie yn The Bull, Biwmaris a Katie Duffy 17 oed a phrentis yn Stradey Park Hotel, Llanelli.

Pryd cyntaf Dalton Weir oedd tarten langwstîn wedi'i botsio mewn miso, gyda haen tsili a phupur coch, salad moron a Nori ac afocado. Y prif gwrs oedd ffiled o gig eidion Cymreig, wystrysen y coed, pomme souffle, seleriac wedi'i garameleiddio, dresin syfi a wasabi, madarch shimeji wedi'i biclo a phort.

Rhiwbob a chwstard oedd i bwdin: cacen gwstard poeth, sorbet Lapsang Soychong a rhiwbob, rhiwbob wedi'i botsio mewn fanila, pridd siocled gwyn a siocled rhuddem wedi'i dymheru.

Mae Dalton yn disgrifio ei ddull coginio fel un clasurol gyda gogwydd modern ac mae'n dweud mai damcaniaeth Marco Pierre White sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa hyd yma. Hoffai deithio fel cogydd a gweithio mewn cegin ryngwladol o safon.

Trefnwyd y gystadleuaeth WICC a gynhaliwyd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos rhwng 22 a 24 Chwefror, gan Gymdeithas Coginio Cymru a phrif noddwyr y digwyddiad oedd Bwyd a Diod Cymru, adran Llywodraeth Cymru sy'n cynrychioli'r diwydiant bwyd a diod.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Colin Gray, rheolwr gyfarwyddwr Capital Cuisine, Carffili, Graham Tinsley, prif gogydd Carden Park ger Caer, a Lee Corke, rheolwr arlwyo Clare College, Caergrawnt.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Carwyn Gray: "Roedd y rownd derfynol yn agos iawn ond elwodd Dalton o'i brofiad blaenorol o gystadlu i ddod i'r brig. Roedd nifer o'r cystadleuwyr yn cystadlu am y tro cyntaf ac roedd eu prydau bwyd o safon. Mae hi'n braf iawn gweld bod Cymru'n dal i gynhyrchu chefs ifanc disglair sydd eisiau cystadlu, yn enwedig o feddwl ein bod ni'n dal i chwilio am aelodau ar gyfer tîm Arlwyo Iau Cymru."

Rhoddwyd tair awr iddynt baratoi a choginio pryd tri chwrs ar gyfer pedwar o bobl yn defnyddio cynhwysion o Gymru, pryd cyntaf o fwyd môr gyda phrif gwrs yn defnyddio cig eidion o Gymru a phwdin tymhorol i orffen y pryd gydag un elfen boeth iddo.

Yn yr arolygiad Estyn diweddar gan y llywodraeth, dyfarnwyd bod darpariaeth lletygarwch ac arlwyo'r coleg yn ardderchog.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, neu ar unrhyw un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y Coleg ar 01492 542 338.

Email: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk

Web: www.gllm.ac.uk