Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo yn cynnal twrnamaint pêl-droed i ferched gyda'r Urdd

Ysgol Awel y Mynydd oedd yn fuddugol wrth i fwy na 190 o ferched o bob rhan o sir Conwy gystadlu ar y caeau 3G ar gampws Llandrillo-yn-Rhos

Cynhaliwyd twrnamaint pêl-droed blynyddol Urdd Conwy i ysgolion cynradd gan Goleg Llandrillo, gydag Ysgol Awel y Mynydd, Cyffordd Llandudno, wedi dod i'r brig.

Cynhaliwyd y twrnamaint saith bob ochr i ferched blynyddoedd 4, 5 a 6, a drefnwyd gan Urdd Gobaith Cymru, ar gaeau 3G ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg.

Chwaraeodd 15 tîm o 13 o ysgolion ar draws y sir yn y gystadleuaeth, gyda mwy na 190 o blant yn cael y cyfle i fwynhau pêl-droed wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Chwaraeodd pob tîm gyfres o gemau cam grŵp, gyda'r wyth tîm gorau yn symud ymlaen i rownd yr wyth olaf.

Llwyddodd Ysgol Awel y Mynydd i guro Ysgol Llandrillo-yn-Rhos 3-2 mewn gêm derfynol gyffrous, gyda goliau o'r safon uchaf gan y ddau dîm. Bydd y disgyblion o Gyffordd Llandudno nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Conwy yn y rowndiau terfynol cenedlaethol yng Ngŵyl Ysgolion Cynradd yr Urdd yn Aberystwyth fis Mai nesaf.

Dywedodd Nia Rowlands, athrawes yn Ysgol Awel y Mynydd: “Roedd yn ardderchog! Roedd trefniadau'r digwyddiad yn dda iawn.

“Mae’n wych gweld cymaint o dimau merched yn cymryd rhan. Roedd ein merched ni wrth eu boddau.”

Roedd y digwyddiad hwn yn dilyn twrnamaint pêl-droed timau cymysg Urdd Conwy i ysgolion cynradd yng Ngholeg Llandrillo, gydag Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn, yn fuddugol.

Fel gyda’r twrnamaint blaenorol, bu myfyrwyr chwaraeon o Goleg Llandrillo yn helpu gyda dyfarnu, cadw amser a threfnu’r timau i helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant.

Dywedodd Amy Thomson, Rheolwr y Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Llandrillo: “Unwaith eto, bu'n bleser cynnal cystadleuaeth pêl-droed yr Urdd i ferched cynradd Conwy yma yng Ngholeg Llandrillo.

“Roedd yn wych gweld cymaint o ferched y sir yn cymryd rhan mewn pêl-droed tra hefyd yn rhoi cyfle i’n dysgwyr BTEC Lefel 3 Chwaraeon Blwyddyn 1 ddatblygu eu sgiliau arwain a’r Gymraeg fel rhan o’u cwrs Bagloriaeth Cymru a'u cwrs Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol. Rydym yn dymuno'r gorau i Ysgol Awel y Mynydd yn y rownd nesaf."

Dywedodd Osian Llywelyn Woodward, myfyriwr blwyddyn gyntaf Gwyddor Chwaraeon Lefel 3: “Mae rhai ohonom ni ar y cwrs wedi bod yn dyfarnu, yn cadw cofnod o’r sgôr ac yn helpu gyda threfnu a datrys problemau i’r timau. Mae wedi bod yn hwyl a hefyd yn heriol oherwydd ei fod yn newydd i ni.

“Roedd yn braf gweld yr holl blant yma yn mwynhau pêl-droed, a bod y merched yn cael y cyfle i chwarae mewn twrnamaint mor fawr.”

Dywedodd Guto Williams, Hwylusydd y Gymraeg yng Ngholeg Llandrillo: “Mae’n ddiwrnod gwych arall i’r myfyrwyr sy’n cael profiad gwirfoddoli gwerthfawr trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n wych gweld cymaint o ferched yn chwarae pêl-droed.

“Mae pêl-droed merched wedi datblygu cymaint yn ddiweddar, sy’n wych, ac mae’r awyrgylch heddiw wedi bod yn rhagorol. Mae’r merched wedi mwynhau'n fawr.”

Meddai Gwion John Williams, Uwch Swyddog Datblygu Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru: “Roedd yn bleser gweld cymaint yn cymryd rhan yn ein cystadleuaeth unwaith eto.

“Rydyn ni fel mudiad yn ceisio sicrhau bod pawb yn cael cynnig cyfle i chwarae, ac roedd yn wych gweld cymaint o ferched yn chwarae pêl-droed o safon mor uchel.

“Hoffwn ddiolch i Goleg Llandrillo am eu parodrwydd i helpu ac am gael defnyddio’r cyfleusterau. Edrychwn ymlaen at gydweithio yn y dyfodol agos a gweld y Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau chwaraeon ac addysg awyr agored a gynigir gan Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 yn agor fis Tachwedd.