Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Glynllifon ar flaen y gad o ran ymchwil amaethyddol

Cafodd tractorau yng Ngholeg Glynllifon eu hôl-ffitio ag electroleiddiwr hydrogen er mwyn archwilio ffyrdd o ddod o hyd i danwydd gwyrddach ar gyfer y dyfodol

Mae Coleg Glynllifon yn chwarae ei ran i ddod o hyd i danwydd y dyfodol yn dilyn treialu pŵer hydrogen mewn tractorau.

Roedd y treial yn cynnwys defnyddio electroleiddiwr hydrogen i bweru hen dractorau, i asesu a allai hyn leihau'r defnydd o ddisel coch a lleihau allyriadau.

Hydrogen yw un o’r tanwyddau amgen mwyaf addawol mewn dyfodol carbon-niwtral. Fodd bynnag, gall ollwng o gynwysyddion storio metel cyffredin, gan achosi problem o ran ei ddefnyddio fel dewis arall yn lle disel coch ar ffermydd.

Mae'r electroleiddiwr yn system sy'n defnyddio trydan i dorri dŵr i lawr i hydrogen ac ocsigen. Mae'n dod mewn blwch tua maint cês bach ac mae'n opsiwn cymharol rad.

Mae ôl-ffitio hen dractor ag electroleiddiwr yn golygu y gall y cerbyd redeg ar gyfuniad o ddisel a hydrogen.

Felly, nod treial Glynllifon oedd asesu a ellid defnyddio electroleiddiwr i bweru tractorau â thanwydd gwyrddach, tra’n mynd o gwmpas y broblem o storio hydrogen.

Cynhaliodd dau o dractorau'r fferm y prawf, a chasglwyd data dros gyfnod o amser cyn, ac ar ôl gosod yr electroleiddiwr hydrogen.

Fodd bynnag, cafodd y treialon ganlyniadau annisgwyl, gyda'r electroleiddiwr yn cael effaith gyfyngedig ar ddefnydd tanwydd y tractorau ac allyriadau nwyon llosg.

Roedd hyn yn dangos bod heriau i’w goresgyn o hyd os yw hydrogen am gael ei ddefnyddio yn lle disel - sef, y cwestiwn o sut i storio’r hydrogen yn ddiogel fel nwy ar ffermydd, a sut i gael cyflenwad rheolaidd o danwydd hydrogen am bris cystadleuol o’i gymharu â disel gwyn a choch.

Gan fod hydrogen yn cyfrif am ddim ond 5% o gyflenwad ynni’r byd ar hyn o bryd, a'r 95% arall yn cael ei gynhyrchu o danwydd ffosil neu nwy naturiol sy’n achosi allyriadau carbon enfawr, mae caffael cyflenwad rheolaidd o nwy hydrogen gwyrdd o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn anodd ac yn ddrud ar hyn o bryd.

Dywedodd Gerwyn Williams, Rheolwr Maes Rhaglen Diwydiannau'r Tir, Coleg Glynllifon: “Mae’r treialon yng Nglynllifon wedi profi’n werthfawr gan eu bod yn dangos bod ffynonellau tanwydd eraill yn fwy ffafriol o bosib – er enghraifft biomethan, olew llysiau wedi’i drin â dŵr (HVO) neu fiodiesel – fel tanwydd amgen mewn hen dractorau.

“Mae hyn oherwydd y gellir eu defnyddio gyda'r peiriannau presennol heb fawr o addasiadau, ac mae eu hargaeledd yn gwella’n raddol.”

Roedd y treial, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2021, yn bartneriaeth rhwng Cyswllt Ffermio a Choleg Glynllifon, a ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon, gan gynnwys y coetir, yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac astudiaethau amaethyddol. I gael rhagor o wybodaeth am y dewis o gyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.