Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Adran Goedwigaeth Coleg Glynllifon yn cael eu dewis fel y gorau o’r goreuon gan y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.

Mae adran Goedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad Coleg Glynllifon wedi ennill gwobr arbennig gan y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.

Yn dilyn pum mlynedd o gystadlaethau rhanbarthol mewn rhagoriaeth yn y maes, aeth yr enillwyr mewn pum categori gwahanol benben yn erbyn eu gilydd eleni.

Ers 140 o flynyddoedd, mae'r Gymdeithas wedi ymroi i rannu gwybodaeth am gelfyddyd a gwyddor rheoli coetir fel bod doethineb a phrofiad cronedig tirfeddianwyr, coedwigwyr, coedwyr ac eraill yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall.

Dewiswyd Coleg Glynllifon fel un o’r sefydliadau addysg a dysgu gorau drwy’r holl wlad i gynnig cyrsiau coedwigaeth a rheolaeth cefn gwlad.

Dywedodd Jeff Jones, Pennaeth adran Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad o Goleg Glynllifon:

“Mae Adran Goedwigaeth Coleg Glynllifon yn hynod o falch o dderbyn y wobr hon.

“Mae gan Goleg Glynllifon stad wych gyda fferm weithiol a thros 110ha o goetir cymysg, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn rheoli’r coetir ac yn cael profiad gwerthfawr o ddydd i ddydd.

“Mae myfyrwyr yn cael ystod mor eang â phosibl o weithgareddau ymarferol o ddefnyddio ein melin lifio Mebor statig i brosesu pren ar yr ystâd gan ddefnyddio technoleg newydd fel offer mesur Hagloff.

“Mae gweithio gyda diwydiant yn rhan bwysig o brofiad y myfyrwyr, rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gawn gan gwmnïau lleol ar gyfer darparu lleoliadau profiad gwaith gwerthfawr a chaniatáu i ymweliadau myfyrwyr ddysgu am y sector coedwigaeth a chefn gwlad.”

Os hoffet ti wybod mwy am gyrsiau Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad sydd a’r gael yn y coleg, clicia YMA.