Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Buddsoddiad o filiynau o bunnoedd yn nyfodol Coleg Glynllifon

Mae’r camau nesaf mewn cyfres o brosiectau cyffrous newydd yng Ngholeg Glynllifon wedi’u datgelu gan Grŵp Llandrillo Menai, wrth iddo geisio adeiladu ar ei lwyddiannau diweddar a chyfnerthu ei safle ar flaen y gad ym maes dysgu amaethyddol a’r economi wledig.

Mae’r tri phrosiect, sydd wedi’u clustnodi i’w datblygu ar ei safle ger Caernarfon, yn cynrychioli buddsoddiad pellach o £16miliwn yn economi’r rhanbarth gan gynnwys darparu Hwb Economi Wledig Glynllifon, sy’n rhan o raglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth Bargen Twf Gogledd Cymru.

Yn ogystal â rhoi hwb enfawr i economi gogledd Cymru, mae’r arian hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysgol ei fyfyrwyr. Bydd y prosiectau newydd yn darparu ystod o gyfleusterau modern i helpu i feithrin mwy o ddysgu, entrepreneuriaeth, arloesi, trosglwyddo gwybodaeth a datblygu menter.

Mae’r cyhoeddiad am fuddsoddiad newydd sylweddol yn dilyn llwyddiannau diweddar i’r coleg, gan gynnwys ei fferm yn ennill y fuches Procross ganolig orau yn y DU, gan Viking Genetics, a’r adran goedwigaeth yn ennill Gwobrau Rhagoriaeth Addysg a Dysgu gan y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol. Hefyd, cafodd y rhaglen gyfalaf ddiweddar gwerth £2.1miliwn i ail-bwrpasu adeiladau fferm a adeiladwyd yn 1850 i fod yn ganolfan gofal anifeiliaid i arwain y sector ei chydnabod yn y Green Apple ​Environment Award​s yn Llundain, gan ennill cyfres o anrhydeddau, gan gynnwys gwobr Aur yn y categori prosiectau trawsnewid.

Gyda dros 750 erw o dir amaethyddol cymysg, mae campws Coleg Glynllifon yn adnodd unigryw sy’n darparu amgylchedd dysgu ysgogol i bobl ifanc a rhaglen gynhwysfawr o gyrsiau i wasanaethu anghenion economi leol y tir. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys fferm arloesi, cyfleusterau addysgol sy'n addysgu dros 600 o ddysgwyr bob blwyddyn a chanolfan menter sefydledig, sy'n cyflwyno dros 200 o gyrsiau byr diwydiannau'r tir bob blwyddyn.

Gan adeiladu ar y cyfleusterau presennol hyn mae cynlluniau ar gyfer buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu cynhyrchiant a seilwaith llaeth, a fydd yn helpu i hyrwyddo lles anifeiliaid, cynaliadwyedd a thwf gwyrdd.

Gyda datgarboneiddio a symud i ddyfodol sero net wrth galon dogfen weledigaeth Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, mae’r prosiect yn gyfle gwych i Goleg Glynllifon fod ar flaen y gad ym maes ffermio llaeth carbon isel. Gyda chynlluniau’n cynnwys defnyddio technolegau fel roboteg, camerâu wedi’u galluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial a rheolaethau awtomataidd lles ac amgylchedd, bydd myfyrwyr a’r diwydiant amaethyddol ehangach yn gallu gwneud defnydd llawn o’r cyfleusterau newydd i ddod o hyd i atebion arloesol i heriau sy’n wynebu’r diwydiant yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r ganolfan cynhyrchu llaeth newydd, mae cynlluniau hefyd i ddatblygu cyfleuster godro gwerth £1.3m ar y safle.

Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys parlwr godro ac unedau trin defaid ac yn gaffaeliad amhrisiadwy i’r diwydiant defaid a llaeth wrth iddo weithio gyda phartneriaid ehangach i hybu trosglwyddo gwybodaeth o fewn y sector a sefydlu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu llaeth dafad yn Cymru.

Yn sail i ddadorchuddio’r ddau ddatblygiad newydd o fewn y diwydiant llaeth a defaid mae Hwb Economi Wledig Glynllifon, sy’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol i ffyniant economaidd economi gogledd Cymru yn y dyfodol.

Mae’r prosiect yn rhan annatod o Fargen Twf Gogledd Cymru, ac yn cynnwys cynlluniau ar gyfer Unedau Deori Bwyd, a fydd yn cynnwys unedau gradd bwyd hyblyg wedi’u cynllunio i ddenu busnesau bach a chanolig newydd a rhai sy’n tyfu. Yn ogystal â hyn bydd Canolfan Wybodaeth a fydd yn creu cronfa o wybodaeth a phrofiad ymarferol i ysgogi arloesedd, twf menter a datblygiad gwledig ar draws pob sector, er enghraifft arddangos ynni cynaliadwy, roboteg a thelathrebu.

Mae’r cynlluniau ar gyfer Hwb Economi Wledig nodedig o safon fyd-eang yn rhoi cyfle trawsnewidiol i economi’r rhanbarth. Bydd yn helpu i ysgogi twf yn y sector bwyd a diod a diwydiannau ehangach drwy ddarparu llwyfan ar gyfer arloesi a’r buddsoddiad cynyddol mewn seilwaith digidol.

Mae rhai o amcanion cychwynnol allweddol y prosiect yn cynnwys cynhyrchu £50 miliwn o GYC ychwanegol i economi gogledd Cymru, creu dros 100 o swyddi newydd a chefnogi 200 o fusnesau bob blwyddyn i leihau eu hôl troed carbon ac ymateb i gyfleoedd newydd.

Fodd bynnag, nid economi’r rhanbarth yn unig fydd yn elwa o’r cyfleusterau blaengar newydd. Bydd y tri phrosiect newydd hefyd yn gwella a chyfoethogi profiad dysgwyr a staff Coleg Glynllifon yn fawr.

Wrth sôn am ei gyffro ynghylch y cyfleoedd i ddysgwyr a ddaw gyda’r datblygiadau newydd, dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, “Mae’r prosiectau hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ein gweledigaeth ar gyfer Coleg Glynllifon i sicrhau ei rôl fel y prif ddarparwr gwybodaeth ac addysg amaethyddol yng Nghymru a'r DU.

“Byddant yn gweld Coleg Glynllifon nid yn unig yn parhau i ddysgu sgiliau newydd i bobl ifanc, ond hefyd yn rhoi cyfle trawsnewidiol i economi wledig gyfan gogledd Cymru ddod at ei gilydd a chyfnewid gwybodaeth, arloesi, a chael mynediad at gefnogaeth ehangach.”

Mae Bargen Twf Gogledd Cymru yn cynrychioli buddsoddiad o £240m i adeiladu economi mwy bywiog, cynaliadwy a gwydn ar draws y rhanbarth. Wrth gymryd i ystyriaeth ffrydiau ariannu ychwanegol drwy'r sector cyhoeddus a phreifat, bydd cyfanswm y buddsoddiad dros £1biliwn. Y nod yw adeiladu ar gryfderau presennol a hybu cynhyrchiant, wrth fynd i’r afael â heriau hirdymor a rhwystrau economaidd i sicrhau twf cynhwysol ar draws pob sector.

Wrth siarad am y buddsoddiad yn yr Hwb Economi Wledig arfaethedig, dywedodd Alwen Williams, Cyfarfwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, “Hwb Economi Wledig Coleg Glynllifon yw un o’r prosiectau cyntaf i symud ymlaen drwy’r Fargen Twf, a bydd y datblygiad arfaethedig yn dod â chryn dipyn o fanteision hirdymor i ogledd Cymru gyfan.

“Wrth i ni i gyd brofi cost gynyddol bwyd, ni fu pwysigrwydd cynhyrchion cynaliadwy o ansawdd uchel, sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol erioed yn fwy. Mae’r Hwb yn gyfle enfawr i’r diwydiant bwyd a diod yng ngogledd Cymru, a bydd yn helpu i ysgogi twf drwy gefnogi busnesau bwyd newydd a rhai sy’n datblygu, creu cyfleoedd gwaith newydd, cryfhau’r gadwyn gyflenwi a dod â mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat i’r rhanbarth.”