Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Callum ar daith gyda Lauren Spencer-Smith ar ôl gweithio gyda Dua Lipa

Ers astudio Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Menai, mae'r peiriannydd sain Callum Lloyd-Williams wedi teithio'r byd gyda cherddorion fel Zara Larsson a Clean Bandit.

Mae'r cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, Callum Lloyd-Williams wedi gweithio gyda rhai o brif artistiaid cyfoes y byd cerdd – gan gynnwys Dua Lipa, Clean Bandit a Zara Larsson.

Ar hyn o bryd, mae'r peiriannydd sain yn teithio'r byd gyda'r gantores Lauren Spencer-Smith sydd wedi cael ei chymharu â Taylor Swift ac Olivia Rodrigo ac a gafodd lwyddiant ysgubol yn 2022 gyda'r gân ‘Fingers Crossed’.

Gan fod eu taith yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r Unol Daleithiau bellach wedi dod i ben, bydd Callum yn awr yn treulio’r hydref yn Awstralia a Seland Newydd yn gweithio gyda’r canwr-gyfansoddwr o Ganada.

Dyma’r antur ddiweddaraf yng ngyrfa gyffrous y gŵr o Ynys Môn, sydd wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn teithio'r byd gyda’r gantores boblogaidd Dua Lipa sydd wedi ennill sawl gwobr Grammy.

“Roedd teithio gyda Dua yn wych,” meddai Callum, a fu’n gweithio fel peiriannydd sain a rhaglennydd sioe i’r gantores o 2019 tan yn gynharach eleni.

Llun: Henry Arres

“Roedd hi'n gyfeillgar iawn gyda'r tîm ac yn gwbl ddi-lol bob amser. Roedd hi'n gwybod beth oedd enw pawb ac yn cymryd diddordeb gwirioneddol yn yr hyn roedden ni'n ei wneud.

“Mae hynny i gyd yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Dyna sut mae bod mor llwyddiannus â hi – drwy roi sylw gwirioneddol i'r manylion. Rydw i'n hollol sicr y bydd hi'n cael ei hadnabod fel un o artistiaid benywaidd mwyaf a gorau ei chenhedlaeth.”

Un o uchafbwyntiau ei gyfnod yn gweithio gyda Dua Lipa oedd ei pherfformiad cofiadwy yng Ngwobrau Brit 2021, oedd yn agor gyda darn a recordiwyd ymlaen llaw mewn gorsaf yn un o orsafoedd trenau tanddaearol Llundain ac yna'n torri i'r gantores yn perfformio'n fyw yn yr O2 Arena.

“Roedd y Brits y flwyddyn honno'n arbennig iawn!” meddai Callum, a fu’n astudio Technoleg Cerddoriaeth ar gampws Coleg Menai ym Mangor rhwng 2010 a 2012.

“Dyma'r sioe fawr gyntaf mewn arena ers cyfnod Covid, felly roedd yn wych cael bod gyda thorf yn ôl yn yr O2 Arena.

“Roedd y perfformiad yn un arbennig, ac yn dechrau ar drên tanddaearol yn Llundain ac yna'n trosglwyddo i lwyfan yr O2. Roedd hwnnw'n berfformiad byw ar yr awyr, felly rydach chi bob amser ychydig yn fwy nerfus cyn y rheini!”

Cafodd Callum hefyd fynd gyda Dua Lipa i ddigwyddiad Sefydliad AIDS Elton John, a disgrifiodd hynny fel profiad, “arbennig iawn”.

“Mae'n rhywbeth gofia i am weddill fy ngyrfa,” ychwanegodd. “Oherwydd Covid roedd system bandiau arddwrn yn cael ei gweithredu i reoli pa mor agos roedd pobl yn cael mynd at Elton John, ond mi ges i gyfarfod ei dîm, a chyfarfod y dyn ei hun o bell, ac roedd hynny’n fraint fawr.”

Ar ôl cwblhau ei gwrs yng Ngholeg Menai, astudiodd Callum yn y School of Sound Recording ym Manceinion (a elwir bellach yn Spirit Studios) cyn dychwelyd i ogledd Cymru i weithio i gwmnïau llogi offer sain lleol.

Yn raddol, gwnaeth gysylltiadau yn y diwydiant cerddoriaeth, gan fynd ymlaen i weithio gydag artistiaid fel Escala, Marc Almond, The Lightning Seeds a Cast.

Yn 2019, aeth ar daith gyda Zara Larsson yn cefnogi Ed Sheeran ar y Divide Tour, a dorrodd record U2 ar y pryd am y daith oedd wedi gwneud yr incwm mwyaf.

Meddai Callum: “Roedd bod yn rhan o’r daith yn brofiad gwych, ac roedd y sioeau’n enfawr. Mae Ed yn hen foi iawn, yn hynod gyfeillgar ac yn llawer o hwyl.”

Ers hynny mae wedi gweithio gyda Christine and the Queens, ac erbyn hyn mae'n mwynhau pennod nesaf ei yrfa gyda Lauren Spencer-Smith.

“Mae Lauren yn hynod dalentog ac wedi cyflawni cymaint yn barod o ystyried mai dim ond ugain oed ydi hi. Mae pob sioe yn gwerthu allan ac mae ei chefnogwyr yn hurt o swnllyd.

“Mae gweithio efo hi'n wych, ac mae’n fraint cael cymysgu ei llais bob dydd. Cyn pen ychydig o flynyddoedd mi fydd hi'n sicr yn enw cyfarwydd iawn.”

Mae Callum wrth ei fodd yn cael gweld y byd yn sgil ei waith, ac ymhlith ei hoff wledydd mae Awstralia, yr Unol Daleithiau a Japan.

“Rydw i wrth fy modd yn Awstralia,” meddai. “Fel arfer mae'n ddiwedd ein haf ni ac yn ddechrau eu haf nhw pan fydda i yno. Rydw i’n hoffi'r ffordd maen nhw'n gwneud pethau yno – mae popeth yn digwydd yn yr awyr agored.

“Rydw i’n hoffi mynd i America a theithio yno, gan weld darnau o'r wlad nad ydych chi efallai'n eu gweld fel arfer, fel y parciau gwych. Rydw i bob amser yn mwynhau Japan, ac mae canolbarth Ewrop yn arbennig.

“Rydw i wrth fy modd yn cael gweld diwylliannau gwahanol a sut mae pobl yn byw eu bywydau, a'r gwahanol fwydydd maen nhw'n eu bwyta. Mae’n rhan o'r gwaith – os na fyddech chi'n mwynhau teithio'r byd, fyddech chi ddim yn mwynhau'r gwaith.”

O Landegfan y daw Callum yn wreiddiol ac mae'n dychwelyd yn rheolaidd i’w gartref yng ngogledd Cymru lle mae’n rhedeg ei gwmni ei hun, CLW Touring and Broadcast. Pam nad yw ar daith mae'n dal i weithio'n lleol ac yn cynhyrchu sain ar gyfer rhaglenni S4C a'r sîn gerddoriaeth Gymraeg.

“Rydw i wrth fy modd yn dod yn ôl adref,” meddai. “Pan ddes i'n ôl i ogledd Cymru ar ôl bod yn y brifysgol fe wnes i weithio'n lleol am bedair neu bum mlynedd.

“Yn araf bach dechreuais i gyfarfod â mwy a mwy o bobl oedd yn mynd ar deithiau cerddorol, a dechrau gweithio ymhellach i ffwrdd. Ro’n i’n gweithio i lawer o artistiaid o Lerpwl fel The Lightning Seeds a Cast, felly mi ges i droedle yn y gogledd-orllewin a chyfarfod mwy o bobl oedd yn teithio'n llawn amser.”

Llun: Henry Arres

Ychwanegodd: “Mae'n braf bod yn rhan o'r sîn leol. ⁠Drwy weithio gyda bandiau Cymraeg wnes i ddysgu sut i gymysgu band – dyna sut wnes i ddysgu fy nghrefft. I'r diwydiant lleol mae'r diolch am hynny – fel arall faswn i ddim wedi cael yr holl gyfleoedd.”

Yn ogystal â'r sîn leol, mae Callum yn fawr ei ddiolch i Goleg Menai hefyd am roi hwb iddo yn ei yrfa. Meddai: “Ro’n i’n gwybod am y cwrs yng Ngholeg Menai pan o’n i yn yr ysgol, a gan ei fod am ddim hefyd roedd y dewis yn syml.

“Ro'n i wedi penderfynu'n 14 oed mai dyma'r gwaith i mi, a hynny ar ôl mynd i gigs a gweld sut roedd y bobl y tu ôl i’r ddesg sain yn gweithio. Cyn gynted ag y cyrhaeddais i Goleg Menai ro'n i'n gwybod mai'r hyn ro'n i am ei wneud oedd bod yn ‘foi sain’.

“Roedd y cwrs yn un ymarferol, ac roedd y cyfleoedd yno – y gigs, y cyfleusterau, y tripiau. Roedd y cwrs yn berffaith i mi.”

Mae Callum yn dychwelyd i’r coleg yn rheolaidd i siarad â'r myfyrwyr, ac meddai: “Rydw i'n trio pwysleisio cwrs mor dda ydi o, ac y dylai'r myfyrwyr ei ddefnyddio i gael troedle yn y diwydiant. Mi ddylen nhw hefyd wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau – aros ar ôl yn y coleg neu ddefnyddio'r cyfleusterau yn eu hawr ginio i weithio ar eu sgiliau.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 yn agor fis Tachwedd.