Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Charlie’n Gapten ar y tîm E-gampau!

Mae myfyrwraig o'r adran Datblygu Gemau yn gapten ar dîm coleg sy'n cystadlu mewn cynghrair genedlaethol â'r nod o hyrwyddo un o'r campau mwyaf poblogaidd yn y byd!

Penodwyd Charlie Donovan 20 oed o Landudno yn gapten ar un o'r chwe thîm e-gampau sy'n cystadlu dros Goleg Llandrillo ym Mhencampwriaeth E-gampau Myfyrwyr Prydain. Mae hi'n astudio ar y cwrs 'Datblygu Gemau Lefel 3' ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae Charlie yn gapten ar dîm Hydras (tîm 2) - sy'n cynnwys bechgyn a merched, ac mae hi'n hyfforddi aelodau ei thîm dair gwaith yr wythnos. Bydd ei thîm yn chwarae Valorant - gêm boblogaidd Riot Games sy'n canolbwyntio ar gymeriadau ac sy'n addas i nifer o chwaraewyr - yn erbyn myfyrwyr o bob cwr o Brydain. Cynhelir gêm gyntaf y tymor yn ystod yr wythnos hon.

Y tu allan i ymrwymiadau coleg mae Charlie yn aelod o grŵp o ferched sy'n dysgu sut i fod yn gyflwynwyr e-gampau. Mae hi a'r grŵp yn arsylwi ac yn sylwebu ar gystadlaethau e-gampau yn rheolaidd er mwyn paratoi ar gyfer hynny.

Y timau fydd yn cystadlu yn y cynghrair yw: 2 dîm Hydras yn chwarae Valorant; 2 dîm Basilisks (Rocket League); Drakes (Overwatch) a Wyvern (League of Legends). Mae pob un o'r myfyrwyr yn dilyn cyrsiau Cyfrifiadura neu Gelf Greadigol.

Mae Pencampwriaeth E-gampau Myfyrwyr Prydain yn gyfres o dwrnameintiau fideo i fyfyrwyr ysgol a cholegau dros 12 oed. Mae'r bencampwriaeth yn weithgaredd allgyrsiol i dimau sy'n cynnwys ystod eang o bobl ifanc ac yn cynnig cyfle i ysbrydoli a chymell myfyrwyr.

Cadarnhaodd British Esports yn ddiweddar y byddai rownd derfynol y bencampwriaeth yn cael ei threfnu ar y cyd eto â Confetti Institue of Creative Technologies - adran e-gampau newydd Prifysgol Nottingham Trent. Cynhelir y digwyddiad byw ar 18 ac 19 Mehefin 2022.

Dywedodd tiwtor Datblygu Gemau Coleg Llandrillo Rob Griffiths a enillodd 'Wobr Academaidd Addysg Bellach' eleni am ei waith arloesol ym maes cyfrifiadura a datblygu gemau, ac sydd wedi cael ei benodi'n un o gyfarwyddwyr anweithredol Esports Wales, y corff cenedlaethol ar gyfer e-gampau yng Nghymru.

He said: “"Mae'n braf cael gweld cymaint o fyfyrwyr yn dangos diddordeb mewn e-gampau, ac yn ymuno â thimau i gynrychioli'r coleg ar lefel genedlaethol. Mae'n galonogol i weld cymaint o ferched yn cymryd rhan ac yn dangos nad oes rhwystrau ar sail rhyw ym maes cystadlu ar gemau cyfrifiadurol.

O ganlyniad i alw aruthrol, cyhoeddodd Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar y bydd yn cynnig cymhwyster tebyg i Lefel A ym maes E-chwaraeon! Bydd dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ystafell realiti rhithwir o'r radd flaenaf werth £120,000 ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae E-chwaraeon yn rhan o ddiwydiant byd-eang sydd werth biliynau o bunnoedd heb unrhyw rwystrau corfforol. Gallai'r cymhwyster hwn agor nifer o ddrysau o ran gyrfa ym marchnad gynyddol Prydain, yn ogystal â chyfleoedd yn niwydiannau byd-eang yn yr Unol Daleithiau, Asia ac Ewrop! Mae hyd yn oed David Beckham wedi troi at y maes fel cydberchennog newydd busnes E-chwaraeon!

Mae adran Datblygu Gemau Coleg Llandrillo wedi cael llwyddiant anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf gan sicrhau partneriaethau gyda rhai o frandiau electroneg a gemau mwyaf llwyddiannus y byd. Cafodd ei chofrestru'n ddatblygwr i gwmnïau Xbox a Nintendo – yr adran gyntaf o bosibl mewn unrhyw brifysgol neu goleg yn y Deyrnas Unedig i gael braint o'r fath! Ar ben hyn, mae'r coleg hefyd yn rhan o raglen academaidd fyd-eang Sony Interactive Entertainment - PlayStation®First.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Datblygu Gemau, neu gyrsiau Cyfrifiadura, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk