Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Cymru a Bangladesh yn Uno i Fynd i'r Afael gyda Newid Hinsawdd

Mae myfyrwyr iaith ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli wedi ymuno gyda myfyrwyr o Bangladesh i fynd i'r afael gyda phrosiect newydd a chyffrous ar newid hinsawdd.

Mae Connecting Classrooms - a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig - yn brosiect arloesol sy'n anelu at ddod â myfyrwyr o wahanol rannau o'r byd at ei gilydd, fel y medrant drafod yr argyfwng hinsawdd mewn modd agored a holistig.

I ddynodi dechrau'r prosiect, cafodd myfyrwyr ar gampws Pwllheli y cyfle i gymryd rhan mewn cynhadledd hinsawdd COP-26 bach ar-lein ar 9 Tachwedd.

Cafodd myfyrwyr o'r DU a Bangladesh y cyfle i drafod y cwestiynau canlynol yn ystod y gynhadledd:

· Faint mae ein gwlad yn cyfrannu at newid hinsawdd? Beth yw'r prif ffynonellau o nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir yn y wlad / ardal hon?

· Beth allwn ni fel gwlad ei wneud i leihau ein allyriadau sy'n newid hinsawdd?

· Pa effeithiau a welwn yn y wlad hon o ganlyniad i newid hinsawdd?

· Beth allwn ni fel gwlad ei wneud i addasu i newid hinsawdd?

· Beth allwn ni fel unigolion - neu grwpiau bychan - ei wneud i ymladd newid hinsawdd?

Yn dilyn y gynhadledd, cynhaliwyd seremoni plannu coed ar y campws i ddynodi parhad yn y bartneriaeth rhwng y myfyrwyr a'u cyfoedion yn Bangladesh. Rhoddwyd glasbren gan y Woodland Tryst ar gyfer yr achlysur.

Dywedodd Helen McFarlane, tiwtor Ffrangeg Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli: "Dwi wrth fy modd fod ein myfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect mor ysgogol. Fel athrawes, mae bob amser wedi fy synnu faint rydym yn dysgu gan ein pobl ifanc.

"Gyda'r gynhadledd COP 26 y CU yn Glasgow yn dirwyn i ben, gobeithio fod y rhai mewn pŵer yn dilyn esiampl y bobl ifanc ryfeddol yna ac yn gweld y gall yr argyfwng hinsawdd ond cael ei drin drwy gydweithrediad a chyfeillgarwch rhyngwladol.

"Gobeithiwn ddyfnhau ein cyfeillgarwch gyda ein ffrindiau yn Bangladesh dros y blynyddoedd i ddod, a gweithio'n agos gyda nhw ar brosiectau tebyg yn y dyfodol agos."

“Mae Ymddiriedolaeth y Coetir wedi rhoi 15 glasbren i ni hyd yn hyn ac mae 30 yn rhagor yn cyrraedd yn nhymor y gwanwyn, 2022, fel rhan o'r rhaglen Coed Am Ddim i Ysgolion a Cholegau i blannu dros filiwn o goed i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. ”

Dywedodd Bryn Hughes-Parry, pennaeth cynorthwyol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: "Mae ymgysylltu a chaniatau i'n myfyrwyr gymryd yr arweiniad ar faterion o'r fath yn rhan ganolog o holl ethos Coleg Meirion-Dwyfor. Bydd y math hwn o waith ond yn cryfhau ein hymrwymiad i weithredu Nodau Datblygu Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig 13 (Gweithredu ynglŷn â'r Hinsawdd) a 3 (hybu Iechyd i Bawb) yn y coleg.

"Gobeithio bydd y glasbren a blannwyd ym Mhwllheli yn gyntaf o lawer, a bydd yn dyst i waith caled ein myfyrwyr yng Nghymru a'u cyfoedion ym Mangladesh."