Prentisiaid ym maes Tyrbinau Gwynt y Coleg yn gweithio ar y môr am y Tro Cyntaf
Gweithiodd carfan ddiweddaraf Cymru o dechnegwyr prentis ym maes Tyrbinau Gwynt yng Nghymru ar y môr am y tro cyntaf yr haf hwn. Roedd hynny yn dilyn cwblhau yn llwyddiannus flwyddyn gyntaf yr hyfforddiant yn y coleg yn unig Ganolfan Hyfforddi Tyrbinau Gwynt Cymru, wedi ei lleoli ar gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo.
Gweithiodd carfan ddiweddaraf Cymru o dechnegwyr prentis ym maes Tyrbinau Gwynt yng Nghymru ar y môr am y tro cyntaf yr haf hwn. Roedd hynny yn dilyn cwblhau yn llwyddiannus flwyddyn gyntaf yr hyfforddiant yn y coleg yn unig Ganolfan Hyfforddi Tyrbinau Gwynt Cymru, wedi ei lleoli ar gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo.
Cwblhaodd y myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai ran academaidd eu cwrs tair blynedd yn y Ganolfan Hyfforddi Arbenigol ym maes Tyrbinau Gwynt cyn cael profiad o dyrbinau gwynt ar y môr - ffynhonnell adnewyddadwy fwyaf Cymru - gan weithio gyda'u darpar gyflogwyr mewn dau leoliad gwahanol.
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae'r ganolfan hyfforddi wedi croesawu wyth prentis RWE Renewables: pedwar wedi eu lleoli yn Triton Knoll yn Swydd Lincoln a phedwar o Fae Lerpwl. Wedi blwyddyn yn unig, maent wedi ennill Diploma Atodol Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg a C&G NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg.
Wrth fynd i mewn i'w hail flwyddyn, byddant nawr yn gwneud Diploma C&G mewn Cynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt (Gwybodaeth Dechnegol) ac unedau ychwanegol i'r NVQ Lefel 2.
Yn dilyn datblygiad rhaglen brentisiaeth hynod lwyddiannus yn y coleg, mae RWE Renewables wedi cyhoeddi, o'r mis hwn (Medi), y bydd 11 mwy o'i brentisiaid o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn dechrau eu hyfforddiant yn y coleg.
Dywedodd hyfforddwr ac aseswr Tyrbinau Gwynt Coleg Llandrillo Marc McDonough: "Rydym yn falch iawn i barhau i weithio mewn partneriaeth gyda RWE Renewables i hyfforddi pobl ifanc yn y diwydiant pŵer adnewyddadwy sydd ar ei dwf. Mae gennym raglen brentisiaeth lwyddiannus wedi ei phrofi ar gyfer pwer hydro, ar y môr, ac ar y tir ac yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o weithio gyda RWE Renewables."
Dechreuodd y grŵp cyntaf o dechnegwyr dan hyfforddiant ym maes tyrbinau gwynt, a ddewiswyd o dros 660 ymgeisydd yn dilyn proses ddethol lem a barodd sawl mis, eu hyfforddiant ar gampws Llandrillo-yn-Rhos fis Medi 2012.
I gael rhagor o wybodaeth am y Prentisiaethau ym maes Tyrbinau Gwynt a gynigir yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.
Gwefan: www.gllm.ac.uk
E-bost: generalenquiries@gllm.ac.uk