Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canlyniadau Rhagorol i Ddysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor

Unwaith eto eleni mae dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau Lefel A rhagorol.

Mae cyfradd lwyddo gyffredinol 2022 yn ardderchog, gyda 87% o'r dysgwyr yn cael graddau A* i C a 41% yn llwyddo i gael graddau A* ac A!

Ar gampws Pwllheli, cafodd y myfyrwyr a oedd yn astudio pynciau gwyddonol ganlyniadau eithriadol o dda. Cafodd 77.8% raddau A* neu A mewn Cemeg, cafodd 69.2% yr un graddau mewn Bioleg, ac roedd y ddau ffigur yn llawer uwch na'r cymharydd cenedlaethol.

Ar gampws Dolgellau, cafodd 83.3% o'r dysgwyr oedd yn astudio Mathemateg raddau A* neu A a chafodd 87.5% yr un graddau mewn Ffiseg. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos llwyddiant academaidd a chyflawniad personol rhagorol a byddant yn galluogi ein dysgwyr i symud ymlaen i brifysgol, cwrs prentisiaeth neu gyflogaeth.

Roedd Alaw Jones o Chwilog oedd yn astudio ei phynciau Lefel A ar gampws Pwllheli ar ben ei digon gyda'i phedair A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Hanes. Dywedodd Alaw ei bod wedi gwirioneddol fwynhau ei hamser yn y coleg ac y buasai'n annog eraill i fynd i Goleg Meirion-Dwyfor i ddilyn eu cyrsiau Lefel A.

Cafodd Ffion Wood o Abersoch A* mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg a bydd yn awr yn mynd i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, tra cafodd Rhys Jones o Benrhyndeudraeth A* mewn Bioleg, Ffiseg a Mathemateg.

Cafodd y darpar astroffisegwr, Daniel Rowe o Fachynlleth A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg. Dywedodd Daniel: "Rydw i wrth fy modd gyda'r canlyniadau ac mi fydda i'n mynd ymlaen rŵan i astudio Astroffiseg ym Mhrifysgol Lancaster."

Mae dwy ganolfan Chweched Dosbarth Coleg Meirion-Dwyfor – Chweched Meirionnydd a Chweched Dwyfor – yn gam nesaf delfrydol i chi os ydych yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol neu i waith ar ôl dilyn eich cyrsiau Lefel A. Yn y ddwy ganolfan ceir cyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy'n adlewyrchu'r byd go iawn.

Yn yr adrannau Gwyddoniaeth, agorwyd labordai newydd ar gampysau Dolgellau a Phwllheli. Mae hyn yn rhan o brosiect £1.9 miliwn i wella ymhellach y cyfleusterau ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i fyfyrwyr y coleg. Ar ben hyn, ar gampws Dolgellau yn y Marian, bydd labordy arall yn cael ei agor ar gyfer darparu cyfleusterau ym maes roboteg a pheirianneg drydanol.

Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn cynnig dros 20 o bynciau Lefel A a gyflwynir gan diwtoriaid profiadol a chymwys dros ben. Yn ogystal, mae'r coleg yn rhan o gynllun Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi'r rhai mwyaf galluog i wireddu eu potensial academaidd yn llawn ac i gael lle yn y prifysgolion gorau.

Mae Coleg Meirion-Dwyfor hefyd yn cynnig rhaglen sy'n cefnogi'r dysgwyr sydd am wneud cais am gyrsiau meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth, yn ogystal â'r rhai sydd am wneud cais i Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Canmolodd Sam Bower, a gafodd A* mewn Bioleg a Chemeg, y gefnogaeth a gafodd gan ddarlithwyr y coleg i wneud cais llwyddiannus i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Yn ogystal, canmolodd y labordai newydd a'r cyfleoedd a gafodd i ddefnyddio'r offer gorau yn y sector i feithrin profiad ychwanegol wrth gynnal arbrofion ymarferol.

Roedd Fflur Rees Jones, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai, wrth ei bodd â'r canlyniadau rhagorol. Ar ôl blwyddyn heriol arall, roeddent yn dysteb i waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr a'r staff. Bydd y labordai a'r offer newydd yn rhoi cyfleoedd newydd a chyffrous i ddysgwyr a fydd yn mynd â nhw y tu hwnt i'r cwricwlwm ac yn eu hymestyn a'u herio ymhellach.

Yn y coleg, cewch gyfleoedd gwych i wneud ffrindiau newydd, i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i gael ychydig o annibyniaeth. Gallwch hefyd fod yn dawel eich meddwl y cewch bob gofal tra byddwch chi gyda ni.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i ddechrau yn y coleg y mis Medi hwn. Anfonwch neges e-bost i generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01758 701 385 i siarad ag un o gynghorwyr cyfeillgar y Gwasanaethau i Ddysgwyr.

www.gllm.ac.uk