Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cogydd ifanc yn ennill Gwobr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ymroddiad i ddefnyddio’r Gymraeg

Enillodd Jack Quinney, sy'n brentis Coginio Proffesiynol Lefel 3, Wobr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei ymroddiad i’r Gymraeg yn ei weithle, ei astudiaethau, ac am helpu ei asesydd i feithrin sgiliau Cymraeg.

Mae Jack bum mis i mewn i'w NVQ Lefel 3, a chyn hynny cwblhaodd NVQ Lefel 2 18 mis mewn Coginio Proffesiynol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae hefyd wedi bod yn Llysgennad Prentis i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn gynharach yn mis Chwefror eleni, enillodd Jack Wobr Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn seremoni Gwobrau Prentisiaeth Gogledd Cymru, a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, am ei ymroddiad i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu dwyieithrwydd yn y gweithle, ‘Sheeps & Leeks’ yng Nghaernarfon, ac yn ei astudiaethau.

⁠Meddai Haf Everiss, Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae Jack yn ei ail flwyddyn o fod yn llysgennad prentisiaethau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae wedi gwneud llawer o ymdrech i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg. Mae'n parhau i lwyddo i hyrwyddo dwyieithrwydd yn y coleg ac yn y gweithle. Llongyfarchiadau! Rydyn ni'n dymuno pob lwc iddo yn ei yrfa".

Ychwanegodd Jack:

"Dw i'n hynod o falch o dderbyn y wobr hon. Mae defnyddio fy Nghymraeg yn y gweithle yn bwysig iawn i mi, ac mae gen i ddigon o gyfle i ymarfer trwy siarad â fy nghydweithwyr a fy asesydd. Byddwn yn annog pawb sy’n gwneud prentisiaeth i fanteisio ar unrhyw gyfle i ddefnyddio eu Cymraeg; fyddan nhw ddim yn difaru”.

Mae Jack yn hynod angerddol am Gymru ac am y Gymraeg, a phenderfynodd gwblhau ei astudiaethau’n ddwyieithog er mwyn datblygu ei Gymraeg ymhellach. Wrth wneud hynny, fe wellodd ei sgiliau Cymraeg ei hun, yn ogystal â chynorthwyo ei asesydd, Tony Fitzmaurice i ymarfer, a magu mwy o hyder wrth sgwrsio yn Gymraeg. Mae gwaith ymarferol a theori Jack yn cael eu cyflwyno a’u cwblhau’n ddwyieithog, ac mae’n parhau i lwyddo i hyrwyddo dwyieithrwydd yn ei weithle ac yn y coleg.

Meddai Tony Fitzmaurice, asesydd Jack:

“Rwyf wedi adnabod Jack ers rhai blynyddoedd bellach ac o’r funud gyntaf roeddwn yn gwybod y byddai’n fyfyriwr da iawn. Roedd bob amser yn gofyn cwestiynau, yn awyddus i ymestyn a herio ei hun ac yn gogydd ifanc o’r radd flaenaf’

Cynyddodd ei angerdd wrth iddo symud ymlaen drwy ei NVQ Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol. Mae Jack yn siŵr o fynd yn bell, ac nid oedd yn syndod i mi pan gafodd ei ddewis i fod yn Llysgennad y Gymraeg i'r Grŵp, fe wnaeth les i mi hefyd.

⁠Rwyf fi yn wreiddiol o Ynys Môn, fodd bynnag, gadawais Ogledd Cymru i ymuno â'r Fyddin pan oeddwn yn 17, felly doeddwn i ddim yn defnyddio'r Gymraeg ac roedd fy sgiliau'n pylu.

Gyda Jack yn llysgennad a minnau’n awyddus i allu cyfathrebu yn Gymraeg eto, byddem yn cynnal yr asesiadau’n ddwyieithog er budd y ddau ohonom.

Rwyf bellach yn hollol gysurus yn sgwrsio yn Gymraeg ac yn ceisio cyflwyno'r cymwysterau yn ddwyieithog cymaint â phosib, ac mae hyn yn rhannol oherwydd Jack.

Mae Jack yn fyfyriwr delfrydol, sydd â dyfodol disglair. Rwy'n credu'n gryf y bydd yn rhedeg ei fwyty ciniawa coeth ei hun ac yn cyflogi ei brentisiaid ei hun rhyw ddydd”.