Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ffoadur o Wcráin yn cael sgôr berffaith ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru

Ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru'n ddiweddar cafodd ffoadur 17 oed o Wcráin sgôr berffaith o gant mewn dwy gystadleuaeth sgiliau.

Flwyddyn yn ôl, pan ymosododd Rwsia ar eu gwlad, dihangodd Yuliia Batrak, ei mam Liudmyla a'i chwaer Alona sy'n saith oed o'u cartref yn Kiev ac ers naw mis bellach maen nhw wedi bod yn byw ym Mae Colwyn.

Cofrestrodd Yuliia ar y cwrs Gweini Bwyd a Diod Lefel 1 yng Ngholeg Llandrillo a'i thiwtor, Glenydd Hughes, a'i hanogodd i gystadlu yn y Pencampwriaethau Coginio. Enillodd Yuliia fedalau aur gan na chollodd yr un pwynt yn y categori gwneud cawl na'r categori defnyddio cyllyll i dorri ffrwythau a llysiau. ⁠ ⁠ ⁠

Ar ben hyn, yng nghinio'r Pencampwriaethau cyflwynwyd iddi'r wobr gyffredinol i'r cystadleuydd gorau ym mhob categori.

Meddai Arwyn Watkins OBE, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru: "Yn ystod fy holl flynyddoedd yn y diwydiant, dydw i erioed o'r blaen wedi gweld cystadleuydd yn cael marciau llawn yn y categorïau sgiliau."

Roedd Yuliia wedi gwirioni ac meddai: "Rydw i wrth fy modd oherwydd do'n i ddim wedi disgwyl ennill y wobr. Pan benderfynais i gystadlu, roedd yn rhaid i mi gael y medalau aur am fy mod i wedi gweithio mor galed. Rhaid i mi ddiolch i Glen, fy nhiwtor – roedd ganddo fo ffydd yn fy ngallu o'r diwrnod cyntaf un."

Mae tad a brawd Yuliia yn dal yn Kyiv, ac roedd hi am ddiolch i bobl Cymru am groesawu ei theulu.

Meddai: "Mae pawb wedi bod mor groesawgar a chefnogol er bod Wcráin 1,000 cilometr o Brydain." Ychwanegodd, "Mae'r bobl yma mor garedig."

Roedd Glenydd yn falch iawn o lwyddiant Yuliia. Dywedodd: "Mi wnes i gyfweld Yuliia pan gyrhaeddodd hi yma ac mi rois i gyfle iddi. Mi ddangosodd botensial mawr o'r dechrau un trwy aros i ymarfer ar ôl i'r gwersi orffen."

Meddai Samantha McIlvogue, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Yuliia wedi cael dwy sgôr berffaith, yn enwedig gan fod neb wedi gwneud hynny o'r blaen ers i'r Pencampwriaethau ddechrau 30 mlynedd yn ôl."

“Mae'r cystadlaethau hyn yn helpu ein dysgwyr i feithrin sgiliau a magu hyder. Maen nhw'n dysteb i'r hyfforddiant gwych a ddarperir gan ein staff. Rydym yn neilltuol o falch o lwyddiant ein dysgwyr sydd hefyd wedi ennill y wobr orau yn y categori Hylendid, y categori Is-gogydd a gwobr Coleg Gorau 2023."