Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Lefel A yn cael ei dewis o 1000au i fynychu Cwrs Preswyl Prifysgol Caergrawnt

Dewiswyd Shauna Lloyd, 17 oed o Llwyngwril ger Dolgellau - sy'n astudio ar gyfer ei Safon Uwch ar gampws Dolgellau y coleg - fel un o ddim ond 40 o fyfyrwyr allan o filoedd a wnaeth gais i fynd i Goleg Downing Prifysgol Caergrawnt am ddeuddydd ar gwrs preswyl.

Yn gynharach yn yr haf cymerodd Shaun ran yn nifer o raglenni ysgolion haf prifysgol gorau'r DU yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau Covid. Yn wreiddiol, mynychodd Shauna ysgol haf Seicoleg Prifysgol Lancaster, ac yna ysgol haf ar-lein a drefnwyd gan yr adran Gwyddoniaeth Fiolegol yng Ngholeg Magdalene, Prifysgol Caergrawnt.

Meddai Shauna: “Roeddwn yn hapus iawn i gael fy newis allan o filoedd o ymgeiswyr i gymryd rhan yn ysgol haf Coleg Downing. Mwynheais yn arbennig y gweithdai Meddwl yn Feirniadol a'r gweithdai i'ch helpu i wneud cais llwyddiannus i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt.

“Ni roddwyd yr holl amser i ymdrechion academaidd: roedd y barbeciw ar lawnt Coleg Downing ar ôl taith gerdded pedair milltir o amgylch Caergrawnt yn un o’r uchafbwyntiau, a byddaf bob amser yn cofio’r daith pyntio o amgylch pensaernïaeth a cholegau enwog Caergrawnt. . ”

Os nad oedd hyn i gyd yn ddigon i Shauna, cafodd gyfle hefyd i deithio i Surrey i gymryd rhan yn ysgol haf Seicoleg Prifysgol Surrey ychydig ddyddiau ar ôl dychwelyd o Gaergrawnt.

Ychwnaegodd Shauna: “Rwyf wedi cael amser anhygoel yr haf hwn. Roedd pob un o'r ysgolion haf yn rhad ac am ddim, a byddwn yn argymell fy holl gyd-fyfyrwyr i wneud cais am y flwyddyn nesaf. Mae ceisiadau fel arfer ar agor rhwng Mawrth a Mai felly cadwch olwg allan; mae'n gyfle gwych. ”

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am unrhyw gyrsiau ar gampws Dolgellau, ewch i adran cyrsiau ein gwefan yn www.gllm.ac.uk neu ffoniwch ein llinell cyngor cyrsiau ar 01341 422 827.