Myfyriwr celf o Wcráin yn dathlu diwylliant gweledol ei gwlad
Mae myfyriwr Celf a Dylunio ar safle Dolgellau wedi creu cyfres o luniau trawiadol sydd yn dathlu celf werinol a thraddodiadol y wlad.
Daw Daryna Bandurka o’r Wcráin, lle y bu rhaid iddi ddianc o erchyllterau'r rhyfel yno, a setlo yn ddiweddar yng Nghymru.
Dywedodd Iolo Tudur Lewis, sydd yn ddarlithydd Celf a Dylunio yn Nolgellau.
“Rydym fel adran Gelf a Dylunio yn falch iawn o lwyddiant ysgubol Daryna. Mae’r corff yma o waith nid yn unig yn drawiadol, yn amserol ond hefyd yn unigryw.”
Ychwanegodd
“Mae Daryna wedi llwyddo i ymateb mewn ffordd gadarnhaol i waith celf werinol a thraddodiadol ei gwlad. Rydym yn falch o fedru dangos ein cefnogaeth iddi hi drwy osod y gwaith, yn nerbynfa Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, lle maw modd prynu’r gwaith.”
Bydd unrhyw elw o’r gwaith yn cael ei anfon i elusennau dyngarol yn Wcráin.
Dywedodd Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor, Aled Jones-Griffith
"Mae'r gwaith yma o'r safon uchaf ac yn adlewyrchu diwylliant Wcrain. Mae'n waith cwbl ddirdynol ac yn llawn lliwiau llachar a bywiog sydd yn gwrthgfyferbynu yn llwyr gyda'r sefyllfa yn Wcrain heddiw. Mae'r gweithiau wedi fy nghyffwrdd yn bersonol ac rywf yn hyderus y bydd y gwaith i gyd yn gwerthu yn fuan. Mae'n llongyfrachiadau i Darnya yn fawr, ac mae'n edmygedd i o'i angerdd at ei gwaith mewn amser mor anodd iddi yn fwy byth."