Llwyddiant Ysgubol i Fyfyrwyr Lletygarwch mewn Cystadleuaeth Goginio Genedlaethol
Wythnos diwethaf, enillodd myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch Coleg Llandrillo dros 20 o fedalau ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru a gynhaliwyd ar gampws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.
Roedd cogyddion o bob rhan o Gymru yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau yn y Pencampwriaethau a noddwyd gan sefydliadau megis ‘Bwyd a Diod Cymru’ Llywodraeth Cymru, a busnesau lleol fel Castell Howell a Chwmni Hyfforddiant Cambrian.
Cipiodd myfyrwyr Coleg Llandrillo 7 medal aur mewn cystadlaethau yn amrywio o Sgiliau Cyllyll i wneud Cawl.
Dyfarnwyd 13 o fedalau arian hefyd i ddysgwyr o’r Coleg mewn cystadlaethau gan gynnwys Sgiliau Bwyty, Coginio Pwdin Flambe, Pwdin Modern, a Chreu, Paratoi a Choginio Cyw Iâr ar gyfer Saute.
Llwyddodd y dysgwyr o gampws Llandrillo-yn-rhos hefyd i ennill gwobrau efydd a theilyngdod mewn Creu Pryd Cregynbysgod a Bwyd Môr, yn ogystal â Thorri Ffrwythau.
Cafodd Yuliia Batrak, sy'n ffoadur o Wcráin, sgôr perffaith o 100% mewn dwy gystadleuaeth sgiliau, a phenderfynwyd mai hi oedd y ‘Gorau yn y Dosbarth’ am dorri llysiau a ffrwythau yn y gystadleuaeth ‘Sgiliau Cyllell’.
Roedd Bryn Jones ac Ameria Milner hefyd y ‘Gorau yn y Dosbarth’ am ‘Baratoi a Choginio Cyw Iâr ar gyfer Saute’, yn ogystal â Ceinwen Lloyd a wobrwywyd am ei Phwdin Oer godidog.
Cynhaliwyd Cinio’r Gwobrau yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno, lle bu cydnabyddiaeth bellach i'r cystadleuwyr gan y beirniaid a Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Arwyn Watkins OBE.
Enillodd Jay Rees, myfyriwr FdA Celfyddydau Coginio, wobr 'Cogydd Iau Gorau' yng Ngwobr Cogydd Cenedlaethol ac Iau Cymru, a dyfarnwyd gwobr fawreddog y ‘Coleg Gorau’ i Goleg Llandrillo.
Cafodd myfyrwyr Coleg Llandrillo hefyd eu cydnabod am safon hylendid drwy gydol y cystadlaethau, gan ennill gwobr ‘Hylendid Cyffredinol Gorau’ Ecolab.
Dywedodd Glenydd Hughes, Tiwtor Lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo:
“Roedd y myfyrwyr a gymerodd ran yn y Pencampwriaethau Coginio yn wych ac roeddent wedi gweithio’n galed iawn i baratoi – rydyn ni'n falch iawn ohonynt! Mae’r gystadleuaeth yn rhoi profiad gwych i’r dysgwyr, ac yn rhoi cyfle iddynt i fagu hyder ac i fireinio eu sgiliau yn y gegin a’r bwyty”.