Gradd Sylfaen (FdSc) Theori Cwnsela
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024, fel arfer rhwng 9.30am-3.30pm
Rhan-amser: 4 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, yn nodweddiadol rhwng 9.30am-3.30pm
DYDDIAD DECHRAU: 10 Medi 2024
Gradd Sylfaen (FdSc) Theori CwnselaGraddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Disgrifiad o'r Cwrs
*Yn amodol ar ddilysu yng Ngwanwyn 2024. Gall cynnwys a modiwlau newid
Newydd ar gyfer Medi 2024.
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddilysu a'i ddyfarnu gan Brifysgol Bangor felly gallwch fod yn sicr o radd o ansawdd uchel.
. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wireddu eu potensial academaidd ac yn gwella’u cyfleoedd gwaith ym maes Cwnsela.
Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol a phersonol er mwyn gallu bod yn gwnselwyr annibynnol sy'n gweithio'n unol â fframwaith moesegol ac arferion da BACP (British Association of Counselling and Psychotherapy). Mae'r cwrs yn bodloni'r gofynion ar gyfer bod yn gymwys am achrediad BACP. Mae'r cwrs yn hyblyg a gellir ei deilwra i gyd-fynd ag ymrwymiadau eraill myfyrwyr. Felly ceir cyfleoedd i astudio'n rhan-amser neu'n llawn amser i unigolion sydd un ai'n dychwelyd i addysg neu'n gweithio ym maes cwnsela ac yn awyddus i wella'u cymwysterau a'u statws neu gyfleoedd cyflogaeth.
Mae'r modiwlau'n cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4):
Datblygiad Proffesiynol
Sgiliau Cwnsela Sylfaenol
Cwnsela Dyneiddiol
Cwnsela Cynhwysol
Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela:
Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio
Arfer Proffesiynol a Moeseg
**I’r rhai sydd wedi astudio ac wedi ennill Lefel 4 mewn Cwnsela, gallwn RPL i gyd ar Lefel 4 fel eich bod yn ymuno â’r rhaglen yn uniongyrchol ar Lefel 5.
Blwyddyn 2 (Lefel 5):
Hyrwyddo Sgiliau Cwnsela
Ymchwil a Dysgu Uwch
Ymlyniad ac Adfyd
Iechyd Meddwl a Lles
Grŵp Datblygiad Personol
Cwnsela Seicodynamig
Gweithio Ar Draws Oes
Gwybodaeth Ychwanegol
Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.
Gofynion mynediad
Mae'r radd hon yn cynnig meini prawf mynediad hyblyg heb fod angen cymwysterau academaidd.
64 Pwyntiau UCAS
Ar gyfer unigolion nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod:
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir uchod, byddem yn dal i'ch annog i wneud cais am y cwrs oherwydd efallai y byddwn yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu hystyried o blith y rhai sy'n gweithio yn y sector Iechyd, Gofal Cymdeithasol, addysg lles neu'r trydydd sector, gydag o leiaf blwyddyn o brofiad galwedigaethol.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad anffurfiol, a fydd yn pennu addasrwydd ar gyfer y cwrs ac yn sicrhau bod gofynion y rhaglen a'r ymrwymiad sydd eu hangen yn cael eu deall yn llawn.
Caiff ymgeiswyr eu derbyn ar sail eu cymwysterau academaidd blaenorol, y gwaith a'r profiad gwaith perthnasol a gawsant, a'u haddasrwydd o ran lleoliadau gwaith ac astudiaethau academaidd.
Sylwch y gallai fod angen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gyda chliriad manylach er mwyn ymgymryd â'r oriau lleoliad cwrs gofynnol.
Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 5
Mae dilyniant uniongyrchol ar gael i ddysgwyr sydd wedi astudio ac wedi ennill Tystysgrif Cwnsela AU Lefel 4, cymhwyster CPCAB Lefel 4.
Ar gyfer unigolion nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod:
Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol gyda rheoliadau a pholisïau GLLM.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd.
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gweithdai
- Tiwtorialau
- Modiwlau cyflogaeth
- Siaradwyr gwadd
- Gall siaradwyr gynnwys amrywiaeth o arbenigwyr o sefydliadau partner, asiantaethau a sefydliadau cwnsela
Amserlen:
- Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024, fel arfer rhwng 9.30am-3.30pm
- Rhan-amser: 4 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, yn nodweddiadol rhwng 9.30am-3.30pm
Dyddiad dechrau: 10 Medi 2024
Gofal bugeiliol
Mae’r system Tiwtorial Personol yn nodwedd bwysig o gymorth myfyrwyr ac mae sesiynau tiwtorial yn gyfle i drafod ystod o faterion gan gynnwys cynnydd, dilyniant, cymorth lleoliad gwaith ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Costau ychwanegol
Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac fe’i heglurir i chi yn eich cyfweliad.
Gallai hyn gynnwys aelodaeth BACP, yswiriant, goruchwyliaeth a DBS.
Bydd angen i fyfyrwyr ystyried costau'r adnoddau a'r deunyddiau y bydd arnynt eu hangen i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg e.e. cyfrifiadur personol/gliniadur, mynediad i'r rhyngrwyd, meddalwedd, deunyddiau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol, a llyfrau/cyfnodolion yr hoffent eu prynu yn hytrach na'u benthyg, neu gostau ychwanegol am wneud cais am fenthyg cyhoeddiadau nad ydynt ar gael drwy'r gwasanaeth llyfrgell. Gall myfyrwyr ddefnyddio llyfrgelloedd y coleg a gwasanaethau benthyg llyfrau, ond rhaid iddynt dalu dirwy am lyfrau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr neu'n cael eu colli.
Cyswllt:
Gillian Clark clark1g@gllm.ac.uk
Fiona Roberts counsellingapplications@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae ein hasesiadau yn caniatáu i ddysgu gael ei gymhwyso yn seiliedig ar eich diddordebau sylfaenol, profiad galwedigaethol a lleoliadau. Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.
Y mathau o asesiadau yn cynnwys:
- portffolios unigol
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Arholiad cwestiynau amlddewis
- Prosiect Grŵp
- Trafodaeth broffesiynol
- Cyflwyno
- Cynnig ymchwil
- Astudiaethau achos
Dilyniant
Ble gall y cwrs hwn fynd â mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol?
Wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr lleol, bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau diweddaraf sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae rolau mewn addysg, y trydydd sector, lles, ac iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn feysydd blaenoriaeth ar gyfer Gogledd Cymru, ac rydym ar fin gweld cynnydd parhaus yn y galw am rolau cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.
Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau dilyniant o ran addysg a chyflogaeth:
Rolau uwch mewn ystod o sectorau a chyd-destunau gwaith,.
Symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni PCE/TAR GLlM i hyfforddi i fod yn ddarlithydd cymwysedig mewn Addysg Bellach. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma. TAR GLIM
Symud ymlaen yn uniongyrchol i raddau BA (Anrh) GLlM, gan gynnwys Arweinyddiaeth Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol, sy'n eich galluogi i gwblhau gradd er anrhydedd lawn.
Yn dilyn gradd BA, gallech symud ymlaen i wahanol raddau meistr ôl-raddedig yn rhanbarth Gogledd Cymru. Er enghraifft:
MA Addysg
MA Gwaith cymdeithasol
MA Troseddeg a Chymdeithaseg
MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
MA Cymdeithaseg
MA Polisïau Cymdeithasol
MSc Nyrsio Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl
MSc Cwnsela
MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles
MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd
Drwy gydol y flwyddyn, caiff myfyrwyr AU GLlM y wybodaeth ddiweddaraf am ffeiriau recriwtio graddedigion a gynhelir yn lleol a thu hwnt e.e. yn Lerpwl a Manceinion. Mae'r Arweinwyr Rhaglenni yn rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau ac yn gweithio gyda Gyrfa Cymru.
Mae GLlM hefyd wedi cyflwyno Dyfodol Myfyrwyr fel rhan o'r strategaeth AU bresennol, a fydd yn gwella datblygiad cyflogadwyedd dysgwyr. Llwyddodd cyn-raddedigion o GLlM i gael gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ar amrywiol brosiectau yn cynnwys Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a gwasanaethau i boblogaethau arbennig. Cafodd graddedigion eu recriwtio hefyd gan elusennau lleol a chenedlaethol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, diogelu plant a chamddefnyddio sylweddau.
I’r rhai sy’n astudio er mwyn datblygu yn eu proffesiwn presennol, bydd meddu ar radd sylfaen lawn yn dangos sgiliau lefel uchel a all arwain at fwy o ddewisiadau gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau sector cyhoeddus a sector preifat, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Cwnsela
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/a