Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Adeiladwaith

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser a Rhan-amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 ddiwrnod yr wythnos am 1 flwyddyn neu ran-amser: 1 diwrnod yr wythnos am 2 flynedd. Dim nosweithiau.

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Adeiladwaith

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cyrsiau wedi cael eu dylunio i ddarparu llwybr ar gyfer datblygiad proffesiynol o fewn y Diwydiant Adeiladu a'i broffesiynau perthynol. Fe'i ystyrir fel y gofyniad isafswm i unrhyw un sydd eisiau gweithio yn y diwydiant fel rheolwr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol:

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Deunyddiau ar gyfer astudio'n annibynnol, fel gliniadur neu gyfrifiadur pen desg
  • Gwerslyfrau sy'n cael eu hystyried yn ddarlleniad hanfodol
  • Ymweliadau allanol megis safleoedd adeiladu, canol dinasoedd, henebion, stadia, amgueddfeydd / orielau / arddangosfeydd.
  • Meddalwedd i allu gweithio gartref
  • Offer Amddiffyn Personol (PPE), amcangyfrif cyllideb £ 30 - £ 150
  • Cyfrifiannell Gwyddonol
  • Apiau sydd am ddim yn gyffredinol ond sydd â chostau ar gyfer fersiynau wedi'u huwchraddio

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Gwybodaeth am fodiwlau

Mae gwybodaeth fanylach ar fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Campws Ychwanegol / Gwybodaeth am y Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

  • o leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, yn cynnwys gradd llwyddo, neu radd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth.

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.

Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Mae enghreifftiau o ofynion mynediad derbynion yn cynnwys:

  • Dwy lefel A, gyda gradd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc A2 perthnasol. Graddau D yw'r isafswm a dderbynnir. Mae'r enghreifftiau o bynciau Lefel A sy'n addas ar gyfer y cwrs yn cynnwys: Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Economeg, Busnes.
  • Neu Ddiploma Estynedig BTEC neu gymhwyster cyfwerth (T, Ll, Ll neu uwch).
  • Neu Ddiploma BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T, T) gyda dwy flynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu Ddiploma Atodol BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T neu uwch) gyda thair blynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu bum mlynedd neu ragor o brofiad mewn diwydiant sy'n dangos arbenigedd a gallu i reoli.

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Sesiynau tiwtorial
  • Modiwlau seiliedig ar gyflogaeth
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen:

  • 2 flynedd (1 dydd a noson yr wythnos)

Cyswllt:

Ar gyfer ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Campws Llangefni:

Campws Llandrillo-yn-Rhos

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae dulliau o asesu yn anelu i ddatblygu gallu a hyder myfyrwyr wrth ddatrys problemau a chyflwyniad.

Mae pob modiwl angen cyflwyniad a phasio aseiniadau ysgrifenedig ac, mewn rhai modiwlau penodol mae angen cyflwyniadau, gwaith grŵp a phrosiectau.

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ol cwblhau'r cwrs, gallwch ddewis symud ymlaen at Lefel 6 yng Ngholeg Llandrillo a chwblhau'r Radd BSc (Anrh) lawn mewn Rheoli Adeiladu Masnachol. Neu gallech ddewis o blith ystod eang o raddau Amgylchedd Adeiledig mewn prifysgolion a cholegau eraill. Gall graddedigion eraill symud ymlaen at swyddi newydd yn y diwydiant adeiladu neu ennill mwy o gyfrifoldeb a statws gyda'u cyflogwr presennol.

Mae graddedigion blaenorol y cwrs hwn wedi symud ymlaen i weithio fel Syrfewyr Meintiau, Technegwyr Pensaernol a Pheirianyddol, Swyddogion Rheoli Adeiladu a Swyddogion Gwasanaethau Amgylcheddol, ymhlith rolau eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Gwybodaeth campws Llangefni

Mae'r cyrsiau wedi cael eu dylunio i ddarparu llwybr ar gyfer datblygiad proffesiynol o fewn y Diwydiant Adeiladu a'i broffesiynau perthynol. Fe'i ystyrir fel y gofyniad isafswm i unrhyw un sydd eisiau gweithio yn y diwydiant fel rheolwr.

Ar gyfer pob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Lefel 4:

Dysgu gyda Chyflogwr (10 credyd, gorfodol)

Mae newidiadau mewn technoleg, deunyddiau, prosesau, deddfwriaethau ac arferion yn golygu bod y diwydiant adeiladu'n newid yn gyson hefyd. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i adfyfyrio a rhoi'r hyn a ddysgant o weithio yn y diwydiant mewn cyd-destun er mwyn asesu eu hanghenion dysgu unigol a chynllunio at y dyfodol. (Portffolio 100%)

Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau (20 credyd, gorfodol)

Mae'r uned hon yn cefnogi'r dysgwyr i ddewis a gwerthuso'r deunyddiau maent yn eu defnyddio i gyflawni briff. Trwy hyn gallant weld a yw deunyddiau'n addas i bwrpas ar sail safonau a nodweddion profi, ac a ydynt yn bodloni'r gofynion o ran cyfforddusrwydd. Byddant yn dysgu am gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol deunyddiau, ac am y gofynion iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. (Adroddiad / cynnig / poster 40%, Astudiaeth achos 60%)

Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi'r dysgwyr i feithrin eu dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeiladau domestig isel trwy gyfrwng y sgiliau braslunio â llaw a braslunio technegol sy'n addas ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid ar y safle yn ystod camau 0 i 1 Cynllun Gwaith RIBA. (Cyflwyniad / cynnig / poster 100%)

Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd, craidd)

Nod y modiwl hwn yw codi hyder y myfyrwyr ym maes rhifedd a mathemateg trwy adolygu ac atgyfnerthu sgiliau rhifedd sylfaenol fel y gallant ddefnyddio algebra a graffiau i drosi a datrys hafaliaid. (Arholiad 40%, Arholiad 60%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)

Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, ac i roi amrediad o ddulliau ymchwil ar waith i chwilio am wybodaeth. (Portffolio 100%)

Tirfesur Safleoedd (10 credyd, gorfodol)

Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Gweithrediadau ar Safleoedd Peirianneg Sifil (20 credyd, craidd)

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i hanfodion datblygu a gweithredu prosiect ar safle adeiladu. (Adroddiad 75%, Cyflwyniad / cynnig / poster 25%)

Gweithdrefnau'n ymwneud â'r Gyfraith, Contractau a Chaffael (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r system gyfreithiol genedlaethol a'r agweddau arni sy'n berthnasol i'r diwydiant adeiladu. (Traethawd 100%)

Egwyddorion Rheoli (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw cysylltu egwyddorion sy'n ymwneud â rheoli yn yr amgylchedd adeiledig â theorïau cyfoes a hanesyddol arferion cenedlaethol a rhyngwladol. Gwneir hyn drwy edrych ar rôl y rheolwr yn y diwydiant adeiladu mewn perthynas â theorïau rheoli. (Cyflwyniad / cynnig / poster 50%, Traethawd 50%)

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu