Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BEng (Anrh) Peirianneg Sifil (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

  • Cod UCAS:
    H201
Gwnewch gais
×

BEng (Anrh) Peirianneg Sifil (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Rhan Amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n awyddus i roi hwb i'ch gyrfa ym maes peirianneg sifil? Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Radd mewn Peirianneg Sifil (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.Cynlluniwyd y cwrs i ddiwallu anghenion y diwydiant yn lleol, ac mae'n gyfle i chi wella'ch dewisiadau o ran gyrfa a'ch siawns o gael dyrchafiad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Deunyddiau ar gyfer astudio annibynnol, fel gliniadur neu gyfrifiadur pen desg
  • Gwerslyfrau sy'n cael eu hystyried yn ddarlleniad hanfodol
  • Ymweliadau allanol megis safleoedd adeiladu, canol dinasoedd, henebion, stadia, amgueddfeydd / orielau / arddangosfeydd
  • Meddalwedd i allu gweithio gartref
  • Offer Amddiffyn Personol (PPE), amcangyfrif cyllideb £30 - £150
  • Cyfrifiannell Gwyddonol
  • Apiau sydd am ddim yn gyffredinol ond sydd â chostau ar gyfer fersiynau wedi'u huwchraddio

Modiwlau

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion Academaidd

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Adeiladu neu Beirianneg Sifil yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr Gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithiol (Moodle )

Amserlen:

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 ddiwrnod yr wythnos ( fel arfer 9am-5pm)
  • Rhan-amser: 2 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am-5pm)

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Dave Roberto (Rhaglen Arweinydd): robert1d@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): eckers1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Traethawd hir

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs gradd BEng (Anrh), gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs ôl-radd neu gwrs proffesiynol arall, er mwyn ennill MEng neu MSc neu ddod yn Beiriannydd Siartredig.

Gallech hefyd wneud cais i ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau yn eich swydd bresennol. Bydd llawer o fyfyrwyr yn dilyn y cwrs hwn yn rhan amser, gan weithio fel hyfforddai gyda Rheolwyr. Wedi llwyddo ar y cwrs, mae'n bosib y cânt hwb i'w gyrfa a chael swydd fel rheolwr.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Nod y radd hon yw adeiladu ar yr arbenigedd y gwnaethoch ei feithrin wrth astudio at y Radd Sylfaen mewn Peirianneg Sifil.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu rhagor am beirianneg ac egwyddorion mathemategol, ynghyd ag adeiledd mecaneg pridd. Cewch hefyd feithrin gwybodaeth am gynaliadwyedd a chadwraeth yn y sector.

Amcan y cwrs yw canolbwyntio ar addysgu a hyfforddi peirianwyr sifil ar gyfer amrywiaeth o swyddi technegol. Y gobaith yw y bydd yn ateb y galw sydd ym maes peirianneg am staff cymwys, drwy adeiladu ar yr arbenigedd sydd gennych eisoes.

Yn ogystal â dysgu am agweddau damcaniaethol ar beirianneg, byddwch yn dod i ddeall sut i'w rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol yn y gweithle. Byddwch yn datrys problemau ac yn ymdrin â sefyllfaoedd na ellir eu rhagweld ym maes peirianneg, gan ddatblygu'ch gallu i ysgwyddo cyfrifoldebau rheolwr.

Ar y cwrs, cewch ddod i ddeall egwyddorion peirianneg a sut y cânt eu datblygu. Hefyd, cewch wella'ch sgiliau dadansoddi gwybodaeth a chyfleu dadleuon yn glir, ynghyd â'ch gallu i weithio'n annibynnol.

Lefel 6

Gwybodaeth am yr Unedau

Ar gyfer pob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Traethawd estynedig (40 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddewis un o destunau'u cwrs israddedig ar gyfer traethawd ymchwil. (Cyflwyniad 20%, Traethawd Estynedig 80%)

Rheoli Cynhyrchu (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gadarn o'r prosesau sydd ynghlwm â threfnu a rheoli adnoddau ar safleoedd adeiladu. (Cyflwyniad 25%, Adroddiad 75%)

Cynaliadwyedd ac Arloesi (20 credyd, gorfodol)

Bydd y modiwl hwn y trafod y cysyniad o gynaliadwyedd a'r ffordd mae gwahanol randdeiliaid yn ei ddehongli. (Adroddiad x 2 80%, Poster ymchwil 20%)

Mecaneg Pridd, Cadw Pridd ac Isadeiledd Pridd (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i fod yn hyderus wrth ddadansoddi pridd a gwybod beth yw'r paramedrau yn safonau a chodau ymarfer Prydain ac Ewrop ar gyfer dylunio elfennau adeileddol. (Astudiaeth Achos x 2 100%)

Manylion Adeileddol (20 credyd, gorfodol)

Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio'r wybodaeth a ddysgwyd ganddynt ar lefel 4 yn y modiwl Dadansoddi Adeileddol a'r modiwl Lefel 5, Peirianneg Mathemateg ac Adeileddau i ddylunio elfennau adeileddol adeiladau ac isadeileddau go iawn. (Astudiaeth Achos 50%, Ymarferol 50%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'

Sefydliad dyfarnu