Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) yn y Celfyddydau Coginio

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amswer: 1 flwyddyn NEU rhan-amser: 2 flynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.

  • Cod UCAS:
    D600
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) yn y Celfyddydau Coginio

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Gan fod y cyrsiau hyn yn y broses o gael eu datblygu maent yn amodol ar ddilysiad a chymeradwyaeth ar gyfer mis Medi 2024. Gall y cynnwys a'r modiwlau newid.

Hoffech chi gael gyrfa gyffrous yn y Celfyddydau Coginio? Ydych chi'n gweithio yn y sector yn barod, ac eisiau gwella eich sgiliau, eich rhagolygon gwaith neu eich busnes?

Os ydych eisoes wedi cwblhau Gradd Sylfaen neu HND yn y Celfyddydau Coginio (neu gymhwyster cyfwerth), mae'r cwrs hwn yn gyfle ichi gwblhau gradd BA (Anrh) lawn. Gallech wella eich rhagolygon gwaith mewn gwahanol fusnesau ar draws y celfyddydau coginio a'r diwydiannau lletygarwch.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Materion Cyfoes mewn Lletygarwch a Thwristiaeth
  • Creu Profiadau Bwyd a Diod
  • Moeseg y Celfyddydau Coginio
  • Arloesi a Newid Gastronomegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Gradd Sylfaen (FdA) yn y Celfyddydau Coginio; neu
  • HND mewn Rheolaeth Lletygarwch (Celfyddydau Coginio)

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Gofynion Iaith:

  • Yn rhugl yn y Gymraeg/Saesneg, gyda chymhwyster cyfwerth â TGAU gradd C/4 neu'n uwch
  • Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Sesiynau tiwtorial
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Dillad gwyn gogyddion ac offer coginio fel cyllyll cogyddion, clorian digidol, cyllido tua £100 am hyn.
  • Ymweliadau astudio, cyllido tua £150 ar gyfer hyn
  • Mae cymwysterau ychwanegol ar gael fel Dyfarniad BIIAB i Ddeiliaid Trwydded Bersonol, Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd, cost nodweddiadol yw £60 i £80 y cymhwyster
  • mae aelodaeth i'r Sefydliad Lletygarwch yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Amserlen

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Cyswllt

Michael Garner (Rhaglen Arweinydd): garner1m@gllm.ac.uk

Jo Reid (Gweinyddiaeth): reid1j@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Dyddiadur dysgu
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Adroddiadau grŵp
  • Traethawd hir

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Os ydych yn gweithio'n barod yn y sector coginio, bydd eich gradd BA (Anrh) yn rhoi cyfle ichi gael mwy o gyfrifoldebau a statws uwch. Gall graddedigion eraill symud ymlaen at astudiaethau is-raddedig neu broffesiynol eraill, neu gychwyn gyrfa mewn ystod o feysydd lletygarwch a chelfyddydau coginio.

Mae'r cwrs hwn yn fodd i chi barhau â'ch datblygiad proffesiynol. Cewch ddilyn modiwlau unigol sy'n rhan o'r rhaglen, gan ehangu'ch gwybodaeth. Daw hyn â manteision posibl i sefydliadau yn ogystal ag i unigolion.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad cwrs

Mae'r rhaglen hon wedi'i dyfeisio i ddatblygu eich dealltwriaeth o Gelfyddydau Coginio a Lletygarwch, gan wella ar y wybodaeth a'r sgiliau a ddysgoch ar Lefel 4 a Lefel 5. Bydd yn gyfle ichi ennill arbenigedd ac i wella eich sgiliau ymarferol, tra'n ennill gradd academaidd lawn ar yr un pryd.

Wrth ichi barhau i ddysgu mwy am y Celfyddydau Coginio, byddwch yn gallu astudio pynciau mwy arbenigol a chynhwysfawr. Byddwch yn dysgu mwy am faes amrywiol gastronomeg artistig, a bydd gennych gyfle i ganolbwyntio ar greu profiadau bwyd a diod.

Byddwch yn dadansoddi materion cyfoes yn y diwydiannau coginio a lletygarwch, ac yn dod i ddeall creadigrwydd a datblygu cynnyrch yn well. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar bynciau fel moeseg ac arloesi gastronomegol.

Byddwch yn dysgu am yr amgylchedd busnes a'i effaith ar y diwydiannau coginio a lletygarwch, ac yn ennill dealltwriaeth o sut y mae'r diwydiant lletygarwch yn cyfrannu at economi'r byd.

Defnyddir siaradwyr gwadd yn gyson drwy gydol y rhaglen hon, ac mae eu mewnbwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar agweddau ymarferol neu 'fyd go iawn' y celfyddydau coginio. Byddwch yn gallu elwa o arbenigedd y siaradwyr gwadd hyn a hefyd yn cael syniad o'r cyfleoedd sydd ar gael ichi yn y sector coginio.

Gwybodaeth uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Lefel 6:

Materion Cyfoes mewn Lletygarwch a Thwristiaeth (20 credyd, gorfodol)
Bydd hwn yn edrych ar y sialensau mewnol ac allanol sy'n wynebu Lletygarwch a Thwristiaeth. Byddwch yn dysgu am y tueddiadau cyfoes yn y sector tra'n cynnig atebion i broblemau. (Traethawd 40%, Astudiaeth achos 60%)

Creu Profiadau Bwyd a Diod (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y syniad o economi brofiad, ac yn edrych ar sut y crëir profiadau bwyd a diod i ennyn emosiwn. Byddwch yn gallu creu profiad bwyd a diod gwreiddiol. (Traethawd 50%, Cynnig / cynllun busnes 30%, Cyflwyniad 20%)

Traethawd Hir (40 credyd, gorfodol)
Yn y traethawd byddwch yn gwneud ymchwil i bwnc sydd o ddiddordeb ichi. Ar ôl cynnig teitl ac adolygu'r llenyddiaeth, byddwch yn rhoi darn o waith at ei gilydd sy'n rhannol seiliedig ar eich darganfyddiadau chi eich hun. (Cynnig ymchwil 10%, Traethawd Hir 90%)

Moeseg y Celfyddydau Coginio (20 credyd, gorfodol)
Mae hwn yn edrych ar amrywiol theorïau ac egwyddorion moesegol, gan ofyn sut y maent yn berthnasol i'r Celfyddydau Coginio. Byddwch yn trafod amrywiol bynciau gan gynnwys moeseg cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ôl-troed carbon, milltiroedd bwyd a bwydydd GM. (Traethawd 50%, Papur seminar 30%, Cyflwyniad 20%)

Arloesi a Newid Gastronomegol (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar y syniadau a'r technegau mewn arloesi gastronomegol ac yn trafod pynciau fel cyfuno'r celfyddydau coginio gyda gwyddor bwyd. Bydd myfyrwyr yn dylunio profiad bwyd moethus torfol sy'n cynnwys y tueddiadau diweddaraf mewn gastronomeg. (Traethawd 50%, Cyflwyniad 50%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin

Sefydliad dyfarnu