Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Adeiladwaith

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    2-4 blynedd

  • Cod UCAS:
    K220
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Adeiladwaith

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi am symud ymlaen yn eich gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith? Mae'r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant academaidd ac ymarferol i bobl sy'n gweithio mewn amryw o wahanol swyddi adeiladwaith technegol. Byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig ac yn gwella eich siawns o symud ymlaen yn eich gyrfa.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Gweithrediadau ar Safle Adeiladwaith
  • Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig
  • Tirfesur Safleoedd
  • Dysgu gyda Chyflogwr
  • Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau
  • Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
  • Gweithdrefnau'n owned â'r Gyfraith, Contractau a Chaffael
  • Egwyddorion Rheoli

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Gwasanaethau Adeiladu
  • Technoleg Adeiladwaith
  • Technegau Tirfesur
  • Datblygiad yr Amgylchedd Adeiledig
  • Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM)
  • Gweithdrefnau Rheoli
  • Addasu Adeiladau
  • Tendro ac Amcangyfrif

Gwybodaeth am fodiwlau

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

  • o leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, yn cynnwys gradd llwyddo, neu radd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.

Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Mae enghreifftiau o ofynion mynediad derbynion yn cynnwys:

  • Dwy lefel A, gyda gradd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc A2 perthnasol. Graddau D yw'r isafswm a dderbynnir. Mae'r enghreifftiau o bynciau Lefel A sy'n addas ar gyfer y cwrs yn cynnwys: Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Economeg, Busnes.
  • Neu Ddiploma Estynedig BTEC neu gymhwyster cyfwerth (T, Ll, Ll neu uwch).
  • Neu Ddiploma BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T, T) gyda dwy flynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu Ddiploma Atodol BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T neu uwch) gyda thair blynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu bum mlynedd neu ragor o brofiad mewn diwydiant sy'n dangos arbenigedd a gallu i reoli.

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Bydd dilyniant uniongyrchol i lefel 5 y Radd Sylfaen mewn Adeiladu neu Beirianneg Sifil yn GLlM yn cael ei ystyried yn achos y myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r Dystysgrif Addysg Uwch briodol, neu 120 o gredydau o Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn pwnc perthnasol.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Tystysgrif Addysg Uwch, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Sesiynau tiwtorial
  • Modiwlau seiliedig ar gyflogaeth
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen:

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 ddiwrnod yr wythnos ( fel arfer 9am-5pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am-5pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Deunyddiau ar gyfer astudio'n annibynnol, fel gliniadur neu gyfrifiadur pen desg
  • Gwerslyfrau sy'n cael eu hystyried yn ddarllen hanfodol
  • Ymweliadau allanol megis safleoedd adeiladu, canol dinasoedd, henebion, stadia, amgueddfeydd / orielau / arddangosfeydd.
  • Meddalwedd i allu gweithio gartref
  • Offer Amddiffyn Personol (PPE), amcangyfrif cyllideb £30 - £150
  • Cyfrifiannell Gwyddonol
  • Apiau sydd am ddim yn gyffredinol ond sydd â chostau ar gyfer fersiynau wedi'u huwchraddio

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Dave Roberto (Rhaglen Arweinydd): robert1d@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): eckers1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethodau ac adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau amser-benodol (llyfr agored a chaeedig)
  • Cyflwyniadau grwp

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gallwch ddewis symud ymlaen at Lefel 6 yng Ngholeg Llandrillo a chwblhau'r Radd BSc (Anrh) lawn mewn Rheoli Adeiladu Masnachol. Neu gallech ddewis o blith ystod eang o raddau Amgylchedd Adeiledig mewn prifysgolion a cholegau eraill. Gall graddedigion eraill symud ymlaen at swyddi newydd yn y diwydiant adeiladu neu ennill mwy o gyfrifoldeb a statws gyda'u cyflogwr presennol.

Mae graddedigion blaenorol y cwrs hwn wedi symud ymlaen i weithio fel Syrfewyr Meintiau, Technegwyr Pensaernol a Pheirianyddol, Swyddogion Rheoli Adeiladu a Swyddogion Gwasanaethau Amgylcheddol, ymhlith rolau eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r Radd Sylfaen mewn Adeiladwaith wedi'i dyfeisio i'ch paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd technegol, proffesiynol a rheoli yn y diwydiant adeiladwaith. Mae'n rhoi'r wybodaeth, sgiliau a'r cymhwyster ichi fedru gweithio mewn amryw o wahanol fusnesau yn y sector yma.

Mae'r cwrs yn rhoi gwybodaeth eang ichi am sector yr amgylchedd adeiledig, ac yn trafod prif gysyniadau ac egwyddorion adeiladwaith a thirfesur. Byddwch yn dysgu am y problemau diweddaraf sy'n wynebu'r diwydiant adeiladwaith ac yn edrych ar y berthynas rhwng adeiladwaith a disgyblaethau cysylltiedig. Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar feysydd adeiladwaith mwy penodol ac yn ennill yr arbenigedd angenrheidiol i gael gyrfa fel rheolwr.

Byddwch yn edrych ar wahanol gyd-destunau rheoli adeiladwaith, gan gynnwys y systemau rheoleiddio sy'n effeithio arnynt. Byddwch hefyd yn dod yn gyfarwydd â'r meddalwedd sy'n cynnal swyddogaethau adeiladwaith. Yn ogystal ag ennill gwybodaeth am y diwydiant, byddwch yn dysgu'r sgiliau dadansoddi a galwedigaethol sydd eu hangen ar ystod o wahanol fusnesau. Byddwch yn gallu cynhyrchu adroddiadau proffesiynol, deall dogfennau cyfreithiol ac eraill, a chasglu gwybodaeth berthnasol i gyflwyno dadleuon clir.

Mae'r cwrs yn integreiddio elfennau academaidd ac ymarferol, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau i'ch helpu i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol a chenedlaethol.

Gwybodaeth Uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Gweithrediadau ar Safle Adeiladwaith (20 credyd, craidd):
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i'r agweddau sylfaenol o ddatblygu a gweithredu gweithrediad safle adeiladu. (Adroddiad 75%, Cyflwyniad / cynnig / poster 25%)

Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd, craidd):
Nod y modiwl hwn yw codi hyder myfyrwyr ym maes rhifedd a mathemateg trwy adolygu ac atgyfnerthu sgiliau rhifedd sylfaenol fel y gallant drosi a datrys hafaliaid yn algebraidd a'n graffigol. (Arholiad 40%, Arholiad 60%)

Tirfesur Safleoedd (10 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl ymarferol hwn wedi'i gynllunio i roi'r gallu i'r myfyriwr ddefnyddio offer arolygu modern ac i ymgymryd ag amrywiaeth o weithdrefnau arolygu safleoedd sy'n nodweddiadol o ddiwydiant adeiladu heddiw. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Dysgu gyda Chyflogwr (10 credyd, gorfodol)
Mae newidiadau mewn technoleg, deunyddiau, prosesau, deddfwriaethau ac arferion yn golygu bod y diwydiant adeiladu'n newid yn gyson hefyd. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i adfyfyrio a rhoi'r hyn a ddysgant o weithio yn y diwydiant mewn cyd-destun er mwyn asesu eu hanghenion dysgu unigol a chynllunio at y dyfodol. (Portffolio 100%)

Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau (20 credyd, gorfodol)
Mae'r uned hon yn cefnogi'r myfyrwyr i ddewis a gwerthuso'r deunyddiau maent yn eu defnyddio i gyflawni briff. Trwy hyn gallant weld a yw deunyddiau'n addas i bwrpas ar sail safonau a nodweddion profi, ac a ydynt yn bodloni'r gofynion o ran cyfforddusrwydd. Byddant yn dysgu am gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol deunyddiau, ac am y gofynion iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. (Cyflwyniad / cynnig / poster 40%, Astudiaeth achos 60%)

Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) (10 credyd, gorfodol)
Mae hwn yn un o'r modiwlau Dysgu gyda Chyflogwr. Y nod yw galluogi'r myfyrwyr i feithrin eu dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeiladau domestig isel trwy gyfrwng y sgiliau braslunio â llaw a braslunio technegol sy'n addas ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid ar y safle yn ystod camau 0 i 1 Cynllun Gwaith RIBA. (Cyflwyniad / cynnig / poster 100%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)
Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, ac i roi amrediad o ddulliau ymchwil ar waith i chwilio am wybodaeth. (Portffolio 100%)

Gweithdrefnau'n ymwneud â'r Gyfraith, Contractau a Chaffael (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o'r system gyfreithiol genedlaethol a'r agweddau arni sy'n berthnasol i'r diwydiant adeiladu. (Traethawd 100%)

Egwyddorion Rheoli (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw cysylltu egwyddorion sy'n ymwneud â rheoli yn yr amgylchedd adeiledig â theorïau cyfoes a hanesyddol arferion cenedlaethol a rhyngwladol. Gwneir hyn drwy edrych ar rôl y rheolwr yn y diwydiant adeiladu mewn perthynas â theorïau rheoli. (Cyflwyniad / cynnig / poster 50%, Traethawd 50%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Gwasanaethau Adeiladu (10 credyd, gorfodol):
Mae hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ddylunio, swyddogaeth a chymhwyso gwasanaethau adeiladu. Byddwch yn gallu asesu perfformiad gwasanaethau adeiladu a dod o hyd i atebion i ofynion domestig a masnachol. (Adroddiad 40%, Adroddiad 60%)

Technoleg Adeiladwaith (20 credyd, craidd):
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y deunyddiau a ddefnyddir mewn adeiladwaith ac yn eu cymhwyso i adeiladau masnachol, diwydiannol ac aml-lawr. Byddwch hefyd yn edrych ar dechnegau adeiladwaith cynaliadwy a gwahanol systemau o gynllunio dyluniad mewnol adeilad. (Portffolio 100%)

Technegau Tirfesur (10 credyd, gorfodol)
Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Datblygiad yr Amgylchedd Adeiledig (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi i'r myfyrwyr ddealltwriaeth o'r amgylchedd adeiledig, ei ddatblygiad hanesyddol a'i gyd-destun mewn cymdeithas fodern. (Cyflwyniad 50%, Traethawd 50%)

Prosiect Grŵp (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i greu cynllun datblygu personol cynhwysfawr a pherthnasol drwy nodi amrediad o anghenion datblygu academaidd ac arbenigol. (Cyflwyniad grŵp 50%, Traethawd 50%)

Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) (10 credyd, gorfodol)
Bydd y myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd BIM i greu model llawn data y gellir ei ddefnyddio i lunio dogfennau adeiladu safonol a chael gwybodaeth am y rhaglen waith. (Adroddiad 30%, Cyflwyniad 70%)

Gweithdrefnau Rheoli (10 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar drefniadaeth fewnol sefydliadau ac ar effaith eu penderfyniadau strategol ar eu safle yn y farchnad. (Adroddiad 100%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio 2 (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw cadarnhau, datblygu ymhellach ac ymestyn gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn briodol yn nisgyblaeth yr Amgylchedd Adeiledig. (Portffolio 100%)

Addasu Adeiladau (10 credyd, gorfodol)
Yn yr uned hon bydd y myfyrwyr yn edrych ar ddichonoldeb addasu adeiladau i ddibenion penodol ac yn meithrin sgiliau i allu cynhyrchu'r dogfennau sydd eu hangen i addasu adeiladau gan ddefnyddio briff a gytunwyd â'r tiwtor. (Prosiect grŵp 100%)

Tendro ac Amcangyfrif (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn meithrin eu dealltwriaeth o fesur, amcangyfrif a thendro ym maes adeiladu. (Traethawd 100%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser