Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Lefel 6 mewn Goruchwylio ym maes Cwnsela Therapiwtig (TCSU-L6)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Oriau dysgu o dan arweiniad - 90 awr (lleiafswm). Bydd addysgu bob pythefnos a bydd yn cynnwys wythnos yn y coleg ac wythnos ar-lein.

Cofrestrwch
×

Tystysgrif Lefel 6 mewn Goruchwylio ym maes Cwnsela Therapiwtig (TCSU-L6)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau i ddysgwyr i ddarparu goruchwyliaeth glinigol i ymarferwyr cwnsela. Mae'n addas ar gyfer cwnselwyr sydd wedi cael digon o brofiad o weithio gyda chleientiaid i ystyried symud i swydd oruchwylio glinigol.

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn fel sylfaen i rôl goruchwyliwr cwnsela clinigol mewn asiantaeth gwnsela neu mewn practis annibynnol. Mae goruchwyliaeth yn ofyniad proffesiynol parhaus ar gyfer pob cwnselydd sy'n ymarfer ac mae'r rhai sydd â chymhwyster cydnabyddedig yn fwy tebygol o ddod o hyd i waith.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk

Ceir gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs’.

Ffioedd

Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac fe’i heglurir i chi yn eich cyfweliad.

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Goruchwyliaeth ar gyfer gwaith goruchwylio.
  • Aelodaeth BACP
  • Yswiriant
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Dyddiad cychwyn

Medi

Adborth

Pan fo hynny'n berthnasol, caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol. Mae adborth effeithiol yn cynnwys gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu
perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gallant wella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i adfyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau,
pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu gwella cyn eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er
mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r deilliannau dysgu.

Gofynion mynediad

  • Rhaid bod wedi cwblhau cymhwyster CBT Lefel 5 CPCAB a meddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad ôl-gymhwyso o wneud gwaith
    cleient dan oruchwyliaeth.

Neu

  • Rhaid bod wedi cwblhau cymhwyster CBT Lefel 4 CPCAB neu gymhwyster cyfatebol a meddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwyso o wneud gwaith cleient dan oruchwyliaeth.

A

  • Bod â chwnselwyr y gallant eu goruchwylio dan oruchwyliaeth.
  • Bod yn gweithio'n fel cwnselydd dan oruchwyliaeth

Cyflwyniad

Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.

Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Gweithio mewn grwpiau bach
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau

Asesiad

Asesiad mewnol: portffolio'r ymgeisydd yn cael ei asesu gan y tiwtor. Asesiad allanol: astudiaeth achos sy'n cael ei asesu'n allanol (3,000-3,500 gair)

Hyfedrusrwydd (Llwyddo) / Diffyg Hyfedrusrwydd (Methu) - rhaid i
ymgeiswyr ddangos hyfedrusrwydd yn yr asesiad allanol a mewnol i gael y cymhwyster.

Dilyniant

BA (Anrh) mewn Cwnsela

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Dwyieithog:

Yn dibynnu ar y campws, mae'n bosib y gellir darparu rhai o'r deunyddiau dysgu'n ddwyieithog er mwyn i fyfyrwyr allu dilyn elfennau o'r rhaglen yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cewch fanylion yn y cyfweliad.

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela