Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BSc (Anrh) mewn Rheoli Adeiladwaith (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

  • Cod UCAS:
    K221
Gwnewch gais
×

BSc (Anrh) mewn Rheoli Adeiladwaith (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi am symud ymlaen yn eich gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith? Os ydych chi eisoes wedi cwblhau'r Radd Sylfaen (FdSc) mewn Adeiladwaith (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn. Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio'n unol ag anghenion diwydiant lleol ac yn rhoi cyfle ichi wella eich opsiynau o ran gyrfa a chael dyrchafiad.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Traethawd estynedig
  • Rheoli Cynhyrchu
  • Cynaliadwyedd ac Arloesi
  • Rheoli Cynhyrchu
  • Rheoli Contractau

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion Academaidd

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Adeiladu neu Beirianneg Sifil yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Sesiynau tiwtorial
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen:

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 ddiwrnod yr wythnos ( fel arfer 9am-5pm)
  • Rhan-amser: 2 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am-5pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Deunyddiau ar gyfer astudio'n annibynnol, fel gliniadur neu gyfrifiadur pen desg
  • Gwerslyfrau sy'n cael eu hystyried yn ddarlleniad hanfodol
  • Ymweliadau allanol megis safleoedd adeiladu, canol dinasoedd, henebion, stadia, amgueddfeydd / orielau / arddangosfeydd.
  • Meddalwedd i allu gweithio gartref
  • Offer Amddiffyn Personol (PPE), amcangyfrif cyllideb £30 - £150
  • Cyfrifiannell Gwyddonol
  • Apiau sydd am ddim yn gyffredinol ond sydd â chostau ar gyfer fersiynau wedi'u huwchraddio

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Gwybodaeth am fodiwlau

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Gwybodaeth am y Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Dave Roberto (Rhaglen Arweinydd): robert1d@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): eckers1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Traethawd hir

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ol cwblhau'r radd BSc (Anrh) lawn, gallwch symud ymlaen at astudiaeth is-raddedig a phroffesiynol, gan ennill MSc neu ddod yn weithiwr Proffesiynol Siartredig. Gallech hefyd ofyn am fwy o gyfrifoldebau yn eich swydd bresennol.

Mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn y cwrs hwn yn rhan amser tra'n gweithio o dan hyfforddiant gyda Rheolwr. Ar ôl cwblhau'r cwrs, medrant ddatblygu eu gyrfa a symud ymlaen at rôl llawn.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar eich gwybodaeth a'ch sgiliau presennol i roi cymhwyster academaidd gwerthfawr ichi. Mae'n ymdrin yn fanwl ag ystod o bynciau a chysyniadau a hefyd yn eich helpu i gymhwyso eich dysgu i sefyllfaoedd gwaith ymarferol.

Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio gyda chymorth gan grwpiau ffocws diwydiannol a'r prif gorff dyfarnu, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), felly mae cynnwys y cwrs a'r sgiliau a ddysgir wedi eu cymeradwyo gan ddiwydiant lleol a sefydliad rhyngwladol.

Mae'r diwydiant adeiladwaith wedi dechrau cyfuno rôl y Rheolwr Contractau gyda rôl y Syrfëwr Meintiau, sy'n golygu bod angen Rheolwyr Contractau gyda gwybodaeth ariannol gynhwysfawr. Mae'r cwrs hwn yn cyfuno'r ddwy elfen yma, ac yn rhoi cyfle ichi ennill y sgiliau i gwrdd ag anghenion y diwydiant.

Gwybodaeth Uned

Ar gyfer pob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Lefel 6

Traethawd estynedig (40 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddewis un o destunau'u cwrs israddedig ar gyfer traethawd ymchwil. (Cyflwyniad 20%, Traethawd Estynedig 80%)

Rheoli Cynhyrchu (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gadarn o'r prosesau sydd ynghlwm â threfnu a rheoli adnoddau ar safleoedd adeiladu. (Cyflwyniad 25%, Adroddiad 75%)

Cynaliadwyedd ac Arloesi (20 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn y trafod y cysyniad o gynaliadwyedd a'r ffordd mae gwahanol randdeiliaid yn ei ddehongli. (Adroddiad x 2 80%, Poster ymchwil 20%)

Rheoli Cynhyrchu (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o'r agweddau ariannol ac economaidd sydd ynghlwm â'r amgylchedd adeiledig trwy ddadansoddi, cymharu a chyfiawnhau ystod o dechnegau rheoli, cyllido a rheoli cyllid. (Adroddiad 40%, Astudiaeth Achos 60%)

Rheoli Contractau (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw cymharu a chyferbynnu'r mathau gwahanol o gontractau a ddefnyddir mewn prosiectau adeiladu. Edrychir ar sut i reoli contractau ac ar wahanol gamau'r broses reoli ynghyd ag anghydfodau a all godi ynghylch contractau a sut i'w datrys. (Traethawd 50% Astudiaeth Achos)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu