Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

HND Peirianneg

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs yn addas i'r sawl sy'n gweithio mewn diwydiannau sy'n ymwneud â pheirianneg fecanyddol, electronig a thrydanol mewn meysydd fel dylunio systemau, gweithgynhyrchu, cynnal a chadw a gwasanaethau technegol. Mae hefyd yn addas os ydych wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 ac yn dymuno gwella eich sgiliau ymhellach er mwyn gweithio yn y diwydiant peirianneg.

Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) yw'r cam nesaf i'r sawl sydd wedi cwblhau'r Dystysgrif Genedlaethol Uwch yn llwyddiannus. Bydd y cwrs lefel 5 yn rhoi dealltwriaeth gadarn i fyfyrwyr o egwyddorion cyffredinol astudio peirianneg, a chyfle hefyd i roi'r egwyddorion hynny ar waith yn ehangach. Trwy hyn bydd myfyrwyr yn dysgu gwerthuso pa mor briodol yw defnyddio gwahanol ddulliau i ddatrys problemau. Byddant yn gallu perfformio'n effeithiol yn y maes peirianneg cyffredinol maent wedi'i ddewis ac yn meithrin y priodweddau sydd eu hangen mewn sefyllfaoedd gwaith sy'n gofyn am allu i gymryd cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

Teithio'n ôl ac ymlaen i'r coleg a lleoliadau profiad gwaith, ymweliadau allanol, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/profiad gwaith, argraffu dros ben y lwfans, cofion bach, deunyddiau swyddfa eraill

Er nad yw'n ofynnol, gallai fod yn ddefnyddiol i chi brynu peth o'r meddalwedd amrywiol sy'n cael ei ddefnyddio ar y cwrs. Byddwn yn trafod hyn â chi yn ystod y broses gyfweld.

Ar adegau byddwn yn trefnu ymweliadau allanol â chwmnïau, digwyddiadau, sioeau ac ati a dylai myfyrwyr gyllido ar gyfer hyn.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Mynediad uniongyrchol i'r cwrs HND:

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi llwyddo i ennill y cymhwyster HNC neu gredydau sy'n gyfwerth â 120 credyd AU Lefel 4. Fe all hyn olygu gwneud cais am gael Cydnabod Dysgu Blaenorol (APL).

Gall myfyrwyr sydd wedi ennill cymhwyster HNC lefel 4 BTEC Pearson mewn Peirianneg Gyffredinol yn GLlM fynd ymlaen i astudio am gymhwyster HND lefel 5 BTEC Pearson yn GLlM.

Os yw'r cymhwyster lefel 4 wedi cael ei astudio mewn sefydliad ar wahân i GLlM, bydd rhaid i'r dilyniant gael ei ystyried trwy broses o Gydnabod Dysgu Blaenorol (APL), yn unol â pholisïau GLlM.

TGAU Mathemateg/Rhifedd, gradd C/4 neu uwch, neu lefel gyfatebol Sgìl Allweddol/Hanfodol.

Ar gyfer ymgeiswyr heb y cymwysterau hyn, bydd angen dangos tystiolaeth o sgiliau llythrennedd ar lefel addas i fodloni gofynion y rhaglen yn llwyddiannus.

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Tiwtorialau
  • Gweithdai
  • Gwaith labordy
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

Rhan-amser: 2 flwyddyn, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer, prynhawn a gyda'r nos)

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Steve Ryan (Rhaglen Arweinydd): ryan1s@gllm.ac.uk

Grace Gregson (Gweinyddiaeth): gregso1g@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg
  • Cyflwyniadau
  • Aseiniadau ymarferol
  • Portffolio

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Datblygwyd Diplomau Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol fel eu bod yn cynnig datblygiad gyrfaol ac yn cael eu cydnabod gan gyrff proffesiynol.

Gellid ystyried astudiaeth bellach mewn man arall i barhau i Radd Anrhydedd lawn.

Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cael y budd mwyaf o'u rhaglen astudio. Datblygwyd y cymhwyster ar sail trafodaethau/cyhoeddiadau perthnasol yr Enginneering Council UK (EC (UK)) a SEMTA (Science, Engineering and Manufacturing Technologies Alliance).

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Rhaglen astudio arbenigol yn gysylltiedig â byd gwaith yw'r cwrs HND mewn Peirianneg Gyffredinol, ac mae'n ymdrin â'r wybodaeth allweddol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector peirianneg. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar faes arbenigol drwy ddewis unedau penodol. Fel arfer caiff y cymwysterau eu cwblhau gan ddysgwyr rhan-amser sy'n astudio dros gyfnod o ddwy flynedd. Mewn rhai sectorau ceir cyfleoedd i gwblhau rhaglen astudio ddwys dros gyfnod llai o amser. Ceir cyfleoedd ariannu eraill ar gyfer y cwrs hwn os ydych yn cael eich cyflogi am dros 16 awr yr wythnos mewn lleoliad galwedigaethol perthnasol.

Lefel 5:

Prosiect Ymchwil (15 credyd, craidd)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau sydd eu hangen i gyflwyno prosiect ymchwil cymhleth ac annibynnol mewn cyd-destun peirianegol. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Rheoli ym maes Peirianneg Broffesiynol (15 credyd, craidd)

Nod yr uned yw parhau i adeiladu ar y wybodaeth a gafodd ei meithrin yn y modiwl Uned 4: Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol. Bydd yn rhoi safonau proffesiynol i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar beirianwyr proffesiynol. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Mathemateg Bellach (15 credyd, craidd)

Bydd yr uned yn paratoi myfyrwyr at ddefnyddio technegau mathemateg i ddadansoddi a modelu sefyllfaoedd peirianneg. Ymysg y pynciau sy'n rhan o'r uned hon mae: theorïau rhif, rhifau cymhlyg, theori matrics, hafaliadau llinol, integru rhifiadol, differu rhifiadol, a chynrychioliadau graffigol ar gyfer cromliniau yng nghyd-destun peirianneg. Yn olaf, bydd myfyrwyr yn ehangu eu gwybodaeth o'r calcwlws i ddysgu sut i fodelu a datrys problemau mathemategol trwy ddefnyddio hafaliadau differol trefn un a threfn dau. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg)

Gweithgynhyrchu Darbodus (15 credyd, craidd)

Nod yr uned hon yw cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion a phrosesau gweithgynhyrchu darbodus, fel eu bod yn gallu dilyn yr egwyddorion hynny mewn modd effeithiol ac ymroddedig ym mha bynnag sector o'r diwydiant maent yn gweithio ynddo. I wneud hyn, bydd yr uned yn edrych ar yr offer a'r technegau a ddefnyddir gan sefydliadau sy'n gweithio'n ddarbodus. Bydd myfyrwyr yn ystyried y manteision a'r heriau sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu darbodus, ac yn dod i wybod digon i allu defnyddio'r offer a'r technegau prosesu pwysicaf. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Egwyddorion Mecanyddol (15 credyd, gorfodol)

Nod yr uned hon yw parhau i drafod y pynciau a drafodwyd yn Uned 9: Egwyddorion Mecanyddol. Bydd yr uned hon yn rhoi i fyfyrwyr wybodaeth fwy arbenigol o'r theorïau mecanyddol sy'n gysylltiedig â gweithrediadau peirianyddol. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy Pellach (PLCs) (15 credyd, gorfodol)

Nod yr uned hon yw datblygu sgiliau myfyrwyr ymhellach o ran defnyddio PLCs a'u defnyddioldeb penodol ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu. Ymysg y pynciau sy'n rhan o'r uned hon mae: dulliau defnyddio rhyngwyneb dyfeisiau, prosesu signalau PLCs a chyfathrebiadau â dyfeisiau eraill, dulliau rhaglennu PLCs a dyfeisiau rheoli rhaglenadwy eraill. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Egwyddorion Trydanol, Electronig a Digidol (15 credyd, gorfodol)

Bydd pwyslais yr uned hon ar ddatblygu dulliau strwythuredig o ddadansoddi cylchedweithiau ynni cerrynt eiledol sengl a thri cham. Bydd hyn yn helpu i gael y datrysiad mwyaf effeithiol, a'r tebygolrwydd mwyaf o fod yn gywir. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i'r defnydd cynyddol o gyfrifiaduron, ac yn defnyddio meddalwedd arbenigol i ddatrys cylchedau trydanol, electronig a digidol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu hyder a gallu mewn pedwar maes allweddol sef technegau mathemategol, dadansoddi cylchedau, efelychu cylchedau a gwaith ymarferol mewn labordy. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Technoleg Gweithgynhyrchu Uwch (15 credyd, gorfodol)

Mae gallu cwmnïau llwyddiannus i fodloni galwadau cynyddol cwsmeriaid wedi'i ddylanwadu gan ddatblygiad technolegau gweithgynhyrchu uwch. Mae cwsmeriaid yn disgwyl cynnyrch cymhleth, ar alw ac sy'n cynnwys elfen gynyddol o gael eu teilwra. Trwy ddefnyddio technolegau gweithgynhyrchu uwch bydd cwmnïau llwyddiannus yn sicrhau bod cynnyrch newydd yn cyrraedd y farchnad ynghynt, yn gwella cynnyrch a phrosesau, yn defnyddio deunyddiau newydd, cynaliadwy ac yn teilwra cynnyrch i fodloni anghenion cwsmeriaid. Mae peirianneg systemau gweithgynhyrchu yn greiddiol i'r datblygiad hwn. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • International

Sefydliad dyfarnu: Edexcel

Dwyieithog:

n/a

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith

Sefydliad dyfarnu