Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 2 flynedd (1 diwrnod yr wythnos). Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.

Cofrestru
×

BA (Anrh) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Atodol)

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi Radd Sylfaen ac ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor?

Mae'r rhaglen yn ddelfrydol i'r rhai sy'n awyddus i symud ymlaen o'r cwrs Gradd Sylfaen (FdA) mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth i gwrs gradd llawn.

Mae'n adeiladu ar eich gwybodaeth a'ch sgiliau presennol gan eu datblygu mewn ystod o feysydd proffesiynol sy'n gysylltiedig â rheoli llyfrgelloedd a gwybodaeth.

Bydd yn datblygu arferion beirniadol a strategaethau dysgu annibynnol gan alluogi myfyrwyr i ddefnyddio'r dulliau ymchwilio a'r technolegau digidol diweddaraf ac i ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am eu dysgu a'u datblygiad proffesiynol eich hunain.

Amcan y rhaglen yw gwella rhagolygon gyrfaol unigolion sy'n dymuno cael swyddi proffesiynol fel arweinwyr yn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth.

Mae'n archwilio themâu cyfoes amrywiol fel goblygiadau moesegol defnyddio technolegau digidol, ymddygiadau digidol cynaliadwy, profiadau defnyddwyr, technegau ymchwilio seiliedig ar dystiolaeth a chymharu arferion cyfredol gwahanol sectorau.

Caiff y cwrs hwn ei achredu gan CILIP (Chartered Institute of Library and Information Professionals).Mae achrediad darparwyr dysgu CILIP wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddewis rhaglenni ym maes gwybodaeth, llyfrgelloedd ac archifau sy'n cwmpasu sgiliau a gwybodaeth hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd, ac sydd wedi cael eu hasesu'n drylwyr.

Mae'r modiwlau'n cynnwys:

  • Dulliau Cymharol o Reoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
  • Llythrennedd Digidol
  • Rheoli a Threfnu Gwybodaeth Ddigidol
  • Profiad Defnyddwyr o Lyfrgelloedd a Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Traethawd Estynedig

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd

  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill credydau sy'n cyfateb i 120 credyd AU Lefel 4 a 120 credyd AU Lefel 5. I gael mynediad uniongyrchol, gall myfyrwyr symud ymlaen o'r Radd Sylfaen i gwrs BA (Anrh) mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth. I wneud hyn rhaid bod wedi sicrhau teilyngdod fan leiaf, neu gymhwyster cyfwerth. Rhaid i ymgeiswyr a gafodd farc llwyddo da yn y radd sylfaen gwblhau cyfweliad boddhaol.

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi cael eu haddysgu a’u hasesu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Tiwtorialau
  • Seminarau
  • Cyflwyniadau
  • Astudiaethau achos
  • Trafodaethau grŵp
  • Tasgau dan arweiniad
  • Siaradwyr gwadd
  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Moodle)
  • Sgiliau Adfyfyrio

Cyflwynir yn bennaf drwy fideo gynadledda i ddysgu dysgwyr o bell.

Amserlen

Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (feel arfer 9.30 am - 3.30 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Mynediad at ddyfais PC / gliniadur / offer symudol gyda rhyngrwyd yn ogystal â chlustffon a chamera ar gyfer sesiynau fideo-gynadledda.
  • Aelodaeth myfyrwyr CILIP er mwyn cael mynediad i'w hadnoddau ar-lein amhrisiadwy.

Dyddiad cychwyn

Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Ceri Powell (Rhaglen Arweinydd): c.powell@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu yn cynnwys traethodau, traethawd hir (cynnig a chyflwyniad), gweithgaredd ymarferol, adroddiadau, gweithgareddau grŵp, a sgiliau adfyfyrio.

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gan fod y cwrs yn un amlddisgyblaethol, bydd y graddedigion yn gallu mynd ymlaen i amrywiaeth o amgylcheddau gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys llyfrgelloedd, lleoliadau rheoli gwybodaeth a lleoliadau rheoli cofnodion.⁠

Amcan y rhaglen yw gwella rhagolygon gyrfaol unigolion sy'n dymuno gweithio yn y sector, a chynnal eu gwybodaeth a'u sgiliau'n gyfredol drwy eu gallu i weithio'n feirniadol ac yn adfyfyriol, wrth werthfawrogi pwysigrwydd dysgu gydol oes.

Gall graddedigion y cwrs BA (Anrh.) mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth fynd ymlaen i gwrs meistr mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth mewn sefydliad arall neu gofrestru am Siarteriaeth CILIP.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Dulliau Cymharol o Reoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn rhoi darlun cyfoes ac eang o reoli llyfrgelloedd. Edrychir ar ystod o ddamcaniaethau a modelau'n gysylltiedig â'r arferion sydd ar waith mewn llyfrgelloedd modern, gan ddefnyddio dull cymharol o ymchwilio i faterion ar draws sectorau amrywiol. Canolbwyntia'r modiwl ar lythrennedd ar draws sectorau, fel llythrennedd gwybodaeth, llythrennedd digidol a datblygiad darllenwyr, tra hefyd yn tynnu sylw at yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol ar draws sectorau llyfrgell a gwybodaeth. (Cynllun traethawd 20%, Traethawd 80%)

Llythrennedd Digidol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi’r dysgwyr i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ddadansoddi eu cymhelliant digidol eu hunain, i werthuso goblygiadau technolegau digidol, i astudio effaith cymdeithasol llyfrgelloedd lle cynhelir gweithgareddau llythrennedd digidol, i hyrwyddo arferion teg a chynhwysol ac i ddeall eu rôl o ran meithrin dinasyddion sy'n weithgar yn ddigidol. Mae hefyd yn ategu ymrwymiad i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus ym maes llythrennedd digidol i ddefnyddwyr y gwasanaeth, i gydweithwyr ac iddynt hwy eu hunain. (Blog adfyfyriol 25%, Adroddiad 50%, Adfyfyrdod 25%)

Rheoli a Threfnu Gwybodaeth Ddigidol (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau ymarferol ac yn dysgu am y theori sydd y tu ôl i greu, rheoli, trefnu a chyflwyno gwybodaeth yn foesegol mewn ecosystem gymhleth. Yn ogystal, bydd yn darparu trosolwg defnyddiol o'r egwyddorion sy'n gysylltiedig â rheoli cofnodion ac archifau yng nghyd-destun data mawr, amgylcheddau cwmwl a thirlun rheoleiddiol sy'n datblygu'n gyson. (Cynllun adroddiad 20%, Adroddiad 80%)

Profiad Defnyddwyr o Lyfrgelloedd a Gwasanaethau Gwybodaeth (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i amrediad o dechnegau ymchwilio seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio i ddeall ymddygiad defnyddwyr yn well, gyda'r bwriad o wella llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth er budd y defnyddwyr. (Cynllun adroddiad 20%, Adroddiad 80%)

Traethawd Estynedig (40 credyd, gorfodol)
Bwriad y modiwl hwn yw datblygu a gwella amrediad o sgiliau uwch mewn perthynas ag ymchwilio'n annibynnol, dadlau'n feirniadol, a defnyddio methodoleg resymegol yng nghyd-destun y maes rheoli llyfrgelloedd a gwybodaeth cyfoes. Bydd y myfyrwyr yn ymchwilio'r systematig i bwnc sy'n berthnasol i wyddor llyfrgeloedd neu wybodaeth, gan ddefnyddio egwyddorion trefnu data, methodoleg ymchwilio digidol, ac offer a thechnegau rheoli gwybodaeth.Trwy draethawd estynedig, bydd y myfyrwyr yn dangos eu gallu i gyfuno a threfnu gwybodaeth ac ar sail tystiolaeth yn dod i gasgaliadau ac yn gwneud argymhellion. (Cynnig ar gyfer Traethawd Estynedig 20%, Traethawd Estynedig 80%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur

Sefydliad dyfarnu