Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 3 blynedd (1 diwrnod yr wythnos). Hefyd ar gael fel modiwlau a thrwy ddysgu o bell.

    Dydd Mawrth, 9.30am - 3.30pm

Cofrestru
×

Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi swydd broffesiynol mewn llyfrgell neu wasanaeth gwybodaeth? Ydych chi am ddatblygu eich cyfleoedd a'ch arbenigedd yn y maes hwn?

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at staff sy'n gweithio ym mhob maes o fewn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth. Mae'n datblygu eich gwybodaeth broffesiynol ac yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o lyfrgellwyr ar draws Cymru.

Caiff y cwrs hwn ei achredu gan CILIP (Chartered Institute of Library and Information Professionals): Mae achrediad darparwyr dysgu CILIP wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddewis rhaglenni ym maes gwybodaeth, llyfrgelloedd ac archifau sy'n cwmpasu sgiliau a gwybodaeth hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd, ac sydd wedi cael eu hasesu'n drylwyr.

Mae'r modiwlau'n cynnwys:

LEFEL 4:

  • Y Gymdeithas Wybodaeth
  • Ffynonellau Gwybodaeth
  • Cyflwyniad i Ymarfer Proffesiynol
  • Technoleg Ddigidol mewn Llyfrgelloedd 1
  • Marchnata ac Eiriolaeth mewn Gwasanaethau Llyfrgell
  • Llythrennedd Gwybodaeth a Datblygu Darllenwyr
  • Sgiliau Ymchwilio ac Astudio

⁠LEFEL 5:

  • Rheoli Casgliadau
  • Rhoi Trefn ar Wybodaeth
  • Ymddygiad a Diwylliant Sefydliadol
  • Hyfforddiant a Chefnogaeth yng Nghyd-destun Llyfrgelloedd
  • Technoleg Ddigidol mewn Llyfrgelloedd 2
  • Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio
  • Adfyfyrio Proffesiynol a Datblygiad Personol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd

  • Ac eithrio'r gallu i weithio ar lefel AU, nid oes gofynion mynediad academaidd ffurfiol ar gyfer y cwrs. Mae cymwysterau blaenorol ym maes llyfrgellyddiaeth, e.e. Tystysgrif neu Ddiploma mewn Gwasanaethau Llyfrgell, Archifau neu Wybodaeth yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
  • Disgwylir bod myfyrwyr eisoes yn gweithio yn y sector (yn gyflogedig neu'n wirfoddol) a bod eu cyflogwr wedi rhoi caniatâd iddynt ymgymryd â gweithgareddau perthnasol yn rhan o'r rhaglen yn y gweithle
  • Bydd myfyrwyr sydd â Phrentisiaeth Uwch mewn Rheoli ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol yn cael ei gymhwyso ar gyfer y modiwlau Ffynonellau Gwybodaeth a Rheoli Casgliadau.

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi cael eu haddysgu a’u hasesu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Tiwtorialau
  • Seminarau
  • Cyflwyniadau
  • Astudiaethau achos
  • Trafodaethau grŵp
  • Tasgau dan arweiniad
  • Siaradwyr gwadd
  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Moodle)
  • Sgiliau Adfyfyrio

Ar ben eu hamser cyswllt yn y coleg, ar Lefel 4 a 5 mae'r rhaglen yn cynnwys o leiaf 75 awr o ddysgu seiliedig ar waith a wneir gan y myfyriwr mewn sector galwedigaethol perthnasol.

Disgwylir bod myfyrwyr eisoes yn gweithio yn y sector (yn gyflogedig neu'n wirfoddol) a bod eu cyflogwr wedi rhoi caniatâd iddynt ymgymryd â gweithgareddau perthnasol yn rhan o'r rhaglen yn y gweithle. Asesir y gweithgareddau a wneir yn y gweithle fel rhan o'r deilliannau dysgu.

Adborth

Rhan-amser: 3 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.30 am - 3.30 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Disgwylir bod gan y myfyrwyr gyfrifiadur personol/gliniadur/dyfais symudol y gallant ei ddefnyddio sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, yn ogystal â chlustffonau a chamera ar gyfer y sesiynau fideo gynadledda.
  • Mae disgwyl i fyfyrwyr ymaelodi â CILIP er mwyn cael mynediad i'r adnoddau gwerthfawr sydd ganddynt ar-lein.

Dyddiad cychwyn

Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Ceri Powell (Rhaglen Arweinydd): c.powell@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Adroddiadau
  • Cynllunio adroddiadau
  • Traethodau
  • Portffolios
  • Profion
  • Gwefannau
  • Cyflwyniadau
  • Adroddiadau adfyfyriol
  • Astudiaethau achos
  • ⁠Cynlluniau gwersi
  • Archwiliad sgiliau

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gan fod y cwrs yn un amlddisgyblaethol, bydd y graddedigion yn gallu mynd ymlaen i amrywiaeth o amgylcheddau gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys llyfrgelloedd, lleoliadau rheoli gwybodaeth a lleoliadau rheoli cofnodion.⁠

Gall y sawl sy'n graddio o'r cwrs hwn fanteisio ar y cyfleoedd proffesiynol a ddarperir ganddo. Gallant ofyn am ragor o gyfrifoldebau a statws yn eu sefydliadau presennol, neu chwilio am swydd arall yn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth.

Mae dilyniant academaidd ar gael ar ffurf y radd BA Anrhydedd mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth neu gallwch fynd ymlaen i wneud cymhwyster proffesiynol trwy CILIP.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

DISGRIFIAD CWRS:

Mae'r Radd Sylfaen hon yn cynnig amrywiaeth crwn o fodiwlau, sy'n astudio ystod o bynciau allweddol. Mae'n rhoi cyfle ichi ennill cymhwyster academaidd cydnabyddedig, tra'n datblygu eich sgiliau llyfrgell a gwybodaeth ar yr un pryd.

Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio i'ch gwneud yn fwy cyflogadwy ac i'ch paratoi ar gyfer cyfrifoldebau proffesiynol ychwanegol. Y nod yw datblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth yn chwilio'n frwd amdanynt, gan gynnwys sgiliau arwain a rheoli, darparu gwasanaeth cwsmer, a TGCh yn ymwneud yn benodol â llyfrgelloedd.

Byddwch yn dysgu am theorïau a dulliau cyfoes yn ymwneud â'r sector llyfrgelloedd a gwybodaeth. Cyfunir y deunydd theoretig hwn gyda gwaith ymarferol a galwedigaethol, sy'n rhoi eich dysgu ar waith ac yn adeiladu ar y profiad sydd gennych yn barod.

Mae'r rhaglen wedi'i chreu ar gyfer staff llyfrgelloedd ysgol, academaidd, iechyd neu lyfrgelloedd arbenigol eraill, yn ogystal â gweithwyr mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Cyflawnir hyn yn rhannol drwy siaradwyr gwadd, a fydd yn rhannu eu harbenigedd a'u profiad gyda chi.

Pa bynnag faes o'r sector llyfrgelloedd a gwybodaeth yr ydych yn gweithio ynddo, mae'r cwrs hwn yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen gyda'ch gyrfa.

GWYBODAETH UNED

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

LEFEL 4:

Y Gymdeithas Wybodaeth (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r Gymdeithas Wybodaeth, gan edrych ar ei datblygiad, ei heffaith gymdeithasol, a sut mae rôl llyfrgelloedd yn datblygu a newid. Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o gymunedau llyfrgelloedd amrywiol a'u hanghenion gwybodaeth unigryw yn yr amgylchedd deinamig presennol. (Traethawd 50%, Adroddiad 50%)

Ffynonellau Gwybodaeth (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sy'n angenrheidiol i nodi a dethol ffynonellau gwybodaeth cynaliadwy a chynhwysol, i chwilio am wybodaeth a'i hadalw o amryfal ffynonellau, i ddisgrifio ac egluro'r egwyddorion sy'n gysylltiedig â dewis stoc ac i ddangos dealltwriaeth o hawliau mewn perthynas ag eiddo deallusol (yn cynnwys hawlfraint, nodau masnach, cynlluniau a phatentau). (Adroddiad 60%, Traethawd 40%)

Cyflwyniad i Ymarfer Proffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i brif elfennau ymarfer proffesiynol cyfoes ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth. Mae'n edrych ar y ffynonellau cymorth ac arweiniad sy'n hanfodol i weithwyr proffesiynol ym maes gwybodaeth, ynghyd ag ar ystyriaethau cyfreithiol a moesegol allweddol, yn enwedig o ran diogelu data a rhyddid gwybodaeth. (Adroddiad 55%, Prawf 45%)

Technoleg Ddigidol mewn Llyfrgelloedd 1 (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrywiaeth o offer a thechnolegau digidol mewn llyfrgelloedd. Byddant yn dysgu sut i ystyried anghenion digidol dysgwyr amrywiol, manteision e-ddysgu a'i ffynonellau a sut i ddefnyddio offer digidol yn ddiogel. Agwedd bwysig ar y modiwl fydd defnyddio technolegau digidol i gefnogi cyfathrebu a chydweithio, yn ogystal â'r angen i ystyried sut gall AI eu cefnogi hwy a'u cleientiaid yn ddiogel ac yn foesegol. (Adroddiad 50%, Gwefan 40%, Adfyfyrio 10%)

Marchnata ac Eiriolaeth mewn Gwasanaethau Llyfrgell (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau cyfathrebu strategol a marchnata digidol i allu hyrwyddo gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yn effeithiol, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac AI cynhyrchiol yn foesegol. Mae hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau eirioli personol a sefydliadol er mwyn gwella rhagolygon gyrfa a thynnu sylw at gryfderau unigol a sefydliadol. (Cynllun adroddiad 20%, Adroddiad 80%)

Llythrennedd Gwybodaeth a Datblygu Darllenwyr (20 credyd, gorfodol)
Modiwl dysgu seiliedig ar waith yw hwn a'i nod yw galluogi myfyrwyr i gyflawni nifer o dasgau wrth roi damcaniaethau a chysyniadau'n ymwneud â Llythrennedd Gwybodaeth a Datblygu Darllenwyr ar waith ym maes llyfrgellyddiaeth a gwybodaeth. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr hyrwyddo'r gweithgareddau hyn gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu trefnu gan gyflogwyr/cynrychiolwyr o'r diwydiant a staff y Grŵp ar y cyd. (Datganiad gwerthuso 20%, Adfyfyrio 80%)

Sgiliau Astudio ac Ymchwilio (10 credyd, gorfodol)
Mae pwyslais y modiwl hwn ar roi i'r myfyrwyr y sgiliau astudio sy'n hanfodol yn yr amgylchedd academaidd cyfoes. Bydd y myfyrwyr yn dysgu ysgrifennu'n academaidd i safon uchel, yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meistroli technegau yng nghyd-destun gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth. Mae'r modiwl hefyd yn trafod confensiynau academaidd, adalw gwybodaeth yn effeithiol, hunan-adfyfyrio, a rheoli gwaith yn effeithlon. ⁠Elfen bwysig fydd datblygu'r gallu i wneud defnydd moesegol da o ddeallusrwydd artiffisial i wella dysgu. (Cyflwyniad 40%, Adfyfyrio 20%, Cynllun adroddiad 40%)

LEFEL 5:

Rheoli Casgliadau (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau i reoli'n effeithiol wasanaethau gwybodaeth a chasgliadau, yn cynnwys rheoli casgliadau ac asedau digidol. Bydd y dysgwyr yn dysgu sut i roi egwyddorion rheoli gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yn strategol ar waith, yn dadansoddi perfformiad llyfrgelloedd a'u cymharu â meincnodau'r diwydiant ac yn nodi amrediad o faterion yn ymwneud â chynllunio llyfrgelloedd i greu amgylcheddau effeithiol ac ymatebol sy'n rhoi pwyslais amlwg ar brofiadau defnyddwyr. (Adroddiad 50%, Astudiaeth achos)

Rhoi Trefn ar Wybodaeth (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw rhoi sgiliau a gwybodaeth hanfodol i fyfyrwyr i drefnu a chanfod gwybodaeth yn effeithiol mewn oes ddigidol. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i roi egwyddorion cyfoes pensaernïaeth gwybodaeth, metadata disgrifiadol, systemau dosbarthu a safonau catalogio ar waith yn ogystal â dod yn fedrus wrth ddefnyddio systemau rheoli llyfrgelloedd a chanfod gwybodaeth. (Adroddiad 60%, Traethawd 40%)

Ymddygiad a Diwylliant Sefydliadol (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i werthuso ymddygiad a diwylliant sefydliadol yng nghyd-destun y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth gan roi pwyslais ar drawsnewid digidol, ymgysylltiad cymunedol, a llesiant staff a'r angen am weithlu sy'n fwy parod i newid ac yn fwy llythrennog yn ddigidol. Byddwn hefyd yn astudio rôl rheoli newid ac arweinyddiaeth yn y prosesau hyn. (Traethawd 50%, Adfyfyrio 50%)

Hyfforddiant a Chefnogaeth yng Nghyd-destun Llyfrgelloedd (10)
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau hanfodol o ran addysgeg, hwyluso, hyfforddi, a mentora, gan roi pwyslais ar lythrennedd digidol a dysgu moesegol yng nghyd-destun gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth. (Traethawd 50%, Adfyfyrio 50%)

Technoleg Ddigidol mewn Llyfrgelloedd 2 (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i archwilio'r holl ddatblygiadau diweddar ym maes technolegau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol a'r effaith mae'r rhain wedi'u cael ar y modd y darperir gwasanaethau gwybodaeth. Bydd y modiwl hwn yn galluogi datblygu cymunedau ymarfer, gwella dulliau cydweithredu er mwyn cefnogi grwpiau o randdeiliaid, tynnu sylw at yr arferion gorau o ran cydweithio ar-lein, a hwyluso'r broses o roi gwybodaeth ar waith yng nghyd-destun llyfrgelloedd. (Adfyfyrio 50%, Cynllun gwers 50%)

Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth, a'r gallu i roi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar lunio dadleuon sy'n argyhoeddi drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso dilys. (Traethawd 50%, Cyflwyniad 50%)

Adfyfyrio a Datblygiad Personol Proffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Modiwl dysgu seiliedig ar waith yw hwn sy'n cynorthwyo'r myfyrwyr i ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn amgylchedd gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth. Bydd y myfyrwyr yn adfyfyrio ar sut y mae eu dysgu wedi gwella'n uniongyrchol eu gwybodaeth, eu sgiliau llyfrgell a digidol, eu cyflogadwyedd a'u hyder proffesiynol gan loywi eu perfformiad yn y gwaith. Cyflawni cynllun datblygu personol a phroffesiynol: (Proforma Gwybodaeth a Sgiliau Proffesiynol Sylfaenol, Portffolio 80%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs rhan amser