Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Arferion Gofal Iechyd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser flwyddyn: un diwrnod yr wythnos (9yb-5yh).

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Arferion Gofal Iechyd

Graddau (Addysg Uwch)

Os hoffech wneud ymholiad neu wneud cais am y cwrs hwn, e-bostiwch hcpapplications@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 546 666 est. 1307.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Arferion Gofal Iechyd yn datblygu a gwella sgiliau Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sydd un ai'n gweithio i neu'n fodlon ac yn gallu derbyn lleoliad gwaith gyda Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu gyda chyflogwr clinigol arall a gymeradwywyd. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn cael secondiad gan eu cyflogwr i ddilyn y rhaglen hon. Mae'r rhaglen yn cyfuno profiad ac ymarfer seiliedig ar waith ag astudiaethau academaidd lefel uwch hyd at Lefel 4. Yn ystod neu'n dilyn eu hastudiaethau gall myfyrwyr llwyddiannus yn aml symud ymlaen yn eu gweithle, ac aiff nifer ymlaen i ddilyn gyrfa ym maes nyrsio.

Cost:
Ariennir ffi'r cwrs yn llawn i bob ymgeisydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Fodd bynnag, wrth gynllunio'u hastudiaethau, bydd angen i fyfyrwyr ystyried y costau ychwanegol, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y ffioedd dysgu, y gallent eu hwynebu yn ystod y rhaglen.

Gallai hyn gynnwys costau gofal plant, teithio'n ôl ac ymlaen i'r coleg a lleoliadau profiad gwaith, ymweliadau allanol, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/profiad gwaith, argraffu dros ben y lwfans, cofion bach a chostau deunyddiau swyddfa eraill.

Dyddiad Dechrau:
Byddwn yn derbyn myfyrwyr 23/24 yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 11 Medi 2023 neu'r wythnos sy'n dechrau 5 Chwefror 2024.

I wneud cais:
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yr hoffech chi wneud cais i ddilyn y cwrs, anfonwch neges e-bost i BCU.HCSWTrainingGroup@wales.nhs.uk, os gwelwch yn dda.

Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Fwrdd Iechyd Powys, ac yr hoffech chi wneud cais i ddilyn y cwrs, anfonwch neges e-bost at PowysPEF@wales.nhs.uk, os gwelwch yn dda.

Os nad ydych chi'n cael eich cyflogi gan Fwrdd Iechyd GIG, cliciwch ar 'Gwneud Ymholiad Nawr' ar frig y dudalen hon.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros gyfnod o flwyddyn a derbynnir myfyrwyr ym mis Medi a mis Chwefror ym mhob blwyddyn academaidd. Yn ystod yr wythnosau academaidd, bydd angen i'r myfyrwyr ddilyn y rhaglen am un diwrnod bob wythnos.

Rydym yn cynnig cyrsiau hybrid yn Llandrillo-yn-Rhos a Wrecsam yn ogystal â chwrs ar-lein lle mae'r dysgu i gyd yn digwydd o bell. Mae hyfforddiant sgiliau digidol yn rhan o'n holl raglenni dysgu.

Gofynion mynediad

Mae meini prawf mynediad fel arfer yn gymhwyster galwedigaethol Lefel 3 neu ofynion cyfatebol eich gweithle. Ar gyfer gweithwyr BIPBC, y gofyniad yw'r FfCCh Lefel 3. Mae llythrennedd a rhifedd yn rhan o'r cwrs, felly ni ofynnir am gymwysterau ffurfiol eraill. Yn ogystal, bydd angen i chi fod un ai'n gweithio mewn lleoliad clinigol addas, neu'ch bod yn gallu cael eich cefnogi gan leoliad o'r fath. Mewn rhai achosion, gallwn helpu yn hyn o beth. Mae cyfraddau llwyddiant ein dysgwyr sy'n dilyn y rhaglen addysg uwch hon yn eithriadol o dda. Bob blwyddyn mae'r cyfraddau llwyddiant dros 90% gyda nifer o'r dysgwyr yn cael graddau Rhagoriaeth a Theilyngdod.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein
  • Mae adnoddau ar-lein ar gael drwy MOODLE, amgylchedd dysgu rhithwir y coleg
  • Grwpiau trafod
  • Ymarfer adfyfyriol
  • Sesiynau datrys problemau
  • Gweithgareddau grŵp
  • Siaradwyr gwadd
  • Astudio hunan-gyfeiriedig
  • Dysgu wedi'i seilio ar astudiaethau achos
  • Ymarfer (defnyddio'r theori mewn ymarfer proffesiynol)

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Dogfen Asesiad Ymarferol (sy'n cynnwys isafswm o 767 o oriau ymarfer clinigol yn ystod cyfnod y cwrs)
  • Traethodau
  • Astudiaeth Achos
  • Ffug arholiad ymarferol ar sgiliau clinigol hanfodol (OSCE)
  • Cynllun Gofal
  • Cyflwyniad
  • Poster Academaidd
  • Adfyfyrio
  • Aseiniad unigol
  • Arholiad

Dilyniant

Mae'r rhaglen hon yn caniatáu dilyniant i bob llwybr nyrsio mewn prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt. Yn benodol, mae'r rhaglen yn cyfateb yn llawn i flwyddyn gyntaf y cwrs BN (Anrh.) mewn Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Golyga hyn y gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen yn uniongyrchol i Lefel 5, sef ail flwyddyn rhaglenni Nyrsio er mwyn cwblhau'r rhaglen a dod yn nyrs gofrestredig. Yn ogystal, mae rhai cyflogwyr yn caniatáu dilyniant gyrfa, er enghraifft i swyddi Gweithwyr Gofal Cymorth Iechyd Band 4. Mae'r holl ddysgwyr llwyddiannus yn gwella a datblygu eu hymarfer.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Cwestiynau Cyffredin am Dystysgrif Lefel 4 mewn Addysg Uwch: Arferion Gofal Iechyd (HCP)

Pwy gaiff wneud cais am y cwrs?
Mae cwrs y Dystysgrif AU mewn Arferion Gofal Iechyd (HCP) yn datblygu a gwella sgiliau Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd hyd at lefel 4, sydd un ai'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu'n gallu mynd ar leoliad gyda chyflogwr clinigol arall a gymeradwywyd.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i wneud y cwrs hwn?
Mae meini prawf mynediad fel arfer yn gymhwyster galwedigaethol L3 neu ofynion cyfatebol eich gweithle. Mae Llythrennedd a Rhifedd yn rhan o'r cwrs, felly ni ofynnir am gymwysterau ffurfiol eraill. Yn ogystal, bydd angen i chi fod un ai'n gweithio mewn lleoliad clinigol addas, neu'ch bod yn gallu cael eich cefnogi gan leoliad o'r fath. Mewn rhai achosion, gallwn helpu yn hyn o beth.

Ydw i yn y rôl iawn i wneud y cwrs hwn?
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich gyrfa fel gweithiwr cymorth gofal iechyd ymhellach. Nod y cwrs hwn, yw cynyddu gallu clinigol a meithrin sgiliau trosglwyddadwy fel hunanymwybyddiaeth, dysgu hunangyfeiriedig drwy adfyfyrio, empathi ac ymchwil mewn awyrgylch gefnogol. Mae'r cwrs yn darparu cyfleoedd dysgu i'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau Gofal Iechyd, fel eu bod yn gallu adfyfyrio ar eu perfformiad a'i ddadansoddi'n feirniadol, datblygu arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chael cyfleoedd i ledaenu arfer da.

Sut mae gwneud cais?
Dylai staff y Bwrdd Iechyd wneud cais drwy Adran Hyfforddi'r Bwrdd Iechyd. Dylai staff practis meddyg teulu sy'n gweithio mewn practis a reolir gan BIPBC hefyd wneud cais drwy'r Bwrdd Iechyd. Gall staff yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn gweithio i’r Bwrdd Iechyd, ond sy’n bodloni’r gofynion mynediad, wneud cais yn uniongyrchol i’r coleg.

Faint mae'r cwrs yn ei gostio?
Ariennir ffi'r cwrs yn llawn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Ni chodir tâl ar fyfyrwyr na'u cyflogwyr yn uniongyrchol. Mae costau'n gysylltiedig â'r cwrs megis teithio ac amser posibl wedi eu rhyddhau o'r gwaith nad yw AaGIC na'r coleg yn eu talu.

Pryd mae'r cwrs yn dechrau ac ar ba ddyddiau mae'r cwrs yn rhedeg?
Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros gyfnod o flwyddyn a derbynnir myfyrwyr ym mis Medi a mis Chwefror ym mhob blwyddyn academaidd. Yn ystod yr wythnosau academaidd, bydd angen i'r myfyrwyr ddilyn y rhaglen am un diwrnod bob wythnos. Rydym yn cynnig cyrsiau hybrid yn Llandrillo-yn-Rhos a Wrecsam yn ogystal â chwrs ar-lein lle mae'r dysgu i gyd yn digwydd o bell.

Beth allaf ei wneud ar ôl y cwrs?
Mae'r rhaglen hon yn caniatáu dilyniant i bob llwybr Nyrsio mewn Prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt. Yn benodol, mae'r rhaglen yn cyfateb yn llawn i flwyddyn gyntaf y cwrs BN (Anrh.) mewn Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Golyga hyn y gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen yn uniongyrchol i Lefel 5, sef ail flwyddyn rhaglenni Nyrsio er mwyn cwblhau'r rhaglen a dod yn nyrs gofrestredig. Yn ogystal, mae rhai cyflogwyr yn caniatáu dilyniant gyrfa, er enghraifft i swyddi sgiliau uwch band 4 Gweithwyr Gofal Cymorth Iechyd.

Sut byddaf yn cael fy asesu / pa aseiniadau sydd angen i mi eu gwneud ar y cwrs?
Defnyddir ystod o ddulliau asesu yn ystod y cwrs, yn amrywio o'r Ddogfen Asesu Ymarfer i arholiadau, traethodau, astudiaethau achos, cyflwyniadau a phoster academaidd.

A oes angen unrhyw beth arnaf i wneud y cwrs?
Mae gofynion mynediad ychwanegol ar gyfer y rhaglen hon. Cyn dechrau'r rhaglen, mae gofyn i'r myfyrwyr sicrhau bod ganddynt gefnogaeth Goruchwylydd Ymarfer ac Asesydd Ymarfer sydd wedi'i baratoi'n briodol drwy ymgymryd â chwrs a'r diweddariadau cysylltiedig. Rhaid i'r Aseswyr a'r Goruchwylwyr fod yn Nyrs Gofrestredig ar y rhan briodol o Gofrestr yr NMC i adlewyrchu arbenigedd y gofal sy'n cael ei ddarparu ym maes clinigol penodedig y lleoliad.

Dydw i ddim yn hyderus gyda TGCh neu gyfrifiaduron, ydy hynny'n broblem?
Na. Mae hyfforddiant sgiliau digidol yn rhan o'n holl raglenni dysgu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

Yn dibynnu ar y campws, mae'n bosib y gellir darparu rhai o'r deunyddiau dysgu'n ddwyieithog er mwyn i fyfyrwyr allu dilyn elfennau o'r rhaglen yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cewch fanylion yn y cyfweliad.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu