Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh.) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn (2 prynhawn hwyr / noson yr wythnos) NEU Rhan-amser: 2 flynedd (1 prynhawn hwyr / noson yr wythnos). Ar gael ar yn fodiwlaidd hefyd.

  • Cod UCAS:
    L510
Gwnewch gais
×

BA (Anrh.) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gweithio gyda phlant, neu'n awyddus i wneud hynny, ac am ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth? A allai gradd mewn Astudiaethau Plentyndod fod o gymorth i roi hwb i'ch gyrfa?

Os oes gennych Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod a Chymorth Dysgu (neu gymhwyster cyfwerth), mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Mae'r cwrs yn addas i'r sawl sy'n gweithio neu sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae'r rhaglen yn arbennig o addas i'r oedolion hynny sydd ar hyn o bryd yn gweithio neu'n bwriadu gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 1, 2 neu 3 mewn ysgolion lleol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Astudiaethau Cymharol ym maes Gofal ac Addysg yn ystod Plentyndod Cynnar
  • Partneriaethau Teulu a Phroffesiynol
  • Anghydraddoldeb, Tlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol
  • Cyflogadwyedd a Datblygiad Ymarferwyr
  • Cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

Bydd gofyn i'r ymgeisydd fynychu cyfweliad er mwyn sicrhau bod y ddau barti yn deall yr ymrwymiad gofynnol, lefel astudio ac addasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh.) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn GLlM yn dilyn cyrhaeddiad llwyddiannus mewn 240 credyd pwnc penodol: 120 credyd AU Lefel 4 a 120 credyd AU Lefel 5 yn y maes pwnc perthnasol.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Bydd mynediad arall i lefel 6 yn cael ei ystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM o ran trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu drwy gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisi GLlM.

Ceisiadau Hyfforddiant Athrawon: Bydd angen i'r rhai sy'n bwriadu mynd ymlaen i fod yn athrawon ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod feddu ar y cymwysterau TGAU perthnasol.

Gofynion Iaith:

  • Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5 neu uwch: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Sesiynau tiwtorial
  • Siaradwyr gwadd
  • Trafodaeth grŵp
  • Ymchwil annibynnol
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

Cyflwynir y cwrs hwn mewn dull cyfunol sydd fel arfer yn golygu cynnal sesiynau bob yn ail ar y campws ac ar-lein ddwywaith yr wythnos, gyda phwysau cyfartal yn cael eu rhoi i'r ddau.

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 prynhawn hwyr / noson yr wythnos (fel arfer 4.00 pm - 9.00 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 prynhawn hwyr / noson yr wythnos (fel arfer 4.00 pm - 9.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Gofyniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn cael ei hamlinellu yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac yn cael ei hesbonio i chi yn eich cyfweliad.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Sarah Harris (Rhaglen Arweinydd): harris2s@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethodau
  • Portffolio sgiliau
  • Traethawd estynedig
  • Cyflwyniadau poster
  • Cyflwyniadau llafar unigol
  • Myfyrdodau
  • Dadansoddi astudiaethau achos

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi cyfle ichi ddatblygu yn eich gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd plentyndod a chymorth dysgu. Byddwch yn barod am ddyrchafiad, mwy o gyfrifoldeb yn eich swydd bresennol neu am newid gyrfa. Gallwch hefyd ddewis symud ymlaen at astudiaeth broffesiynol neu is-raddedig bellach.

Addysgu (cynradd, uwchradd, ac Addysg Bellach) – nid yw'r rhaglen yn arwain at Statws Athro Cymwysedig ond gall fod yn gyfle i raddedigion fynd ymlaen i gael Statws Athro Cymwysedig drwy'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion neu gymhwyster addysgu arall.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i adeiladu ar eich profiad a'ch cymwysterau ym maes Astudiaethau Plentyndod. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys traethawd hir ar bwnc arbenigol ac yn arwain at ennill gradd Anrhydedd.

Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr a fydd yn dilyn y rhaglen hon yn gweithio yn y maes ac mae'r rhaglen wedi'i strwythuro a'i hamserlennu i ganiatáu i rai sy'n gweithio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, ac sydd ag ymrwymiadau personol a phroffesiynol, ei dilyn.

Mae'r cwrs yn cynnig cyfle arbennig i feithrin a chyfuno dealltwriaeth a gwybodaeth hyd at lefel myfyriwr israddedig ynghyd ag atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd. Mae hyn yn cynorthwyo myfyrwyr i fodloni gofyniad Llywodraeth Cymru am weithlu graddedig, a bydd hyn o fantais iddynt wrth iddynt chwilio am waith. Gall cwblhau'r cwrs hwn hefyd alluogi myfyrwyr i symud ymlaen i astudio cyrsiau proffesiynol neu ôl-raddedig.

Gwybodaeth Uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Anghenion Dysgu Ychwanegol: Damcaniaethau a Dadleuon (20 credyd gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r materion allweddol canlynol: Achoseg Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), safbwyntiau damcaniaethol yn gysylltiedig ag ADY a'u heffaith bosibl ar y ddarpariaeth addysgol. Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanylach ar achoseg a damcaniaethau'n gysylltiedig ag ADY, gan roi sylw i'r ffordd mae newidiadau deddfwriaethol yn cael eu gweithredu. (Traethawd 50%, Adfyfyrio Llafar 50%)

Celf ym maes Addysg (10 credyd gorfodol)
Bwriad y modiwl hwn yw ystyried sut mae plant yn dysgu mewn cyd-destunau creadigol, gan ddefnyddio dulliau cyfoes a damcaniaethau allweddol ynghylch natur a phwrpas y celfyddydau. Astudir dulliau o ddefnyddio celf yng nghwricwlwm y myfyrwyr eu hunain gan roi ystyriaeth gyson i werth y celfyddydau mewn addysg. (Darn neu Adnodd Creadigol a Thraethawd Cefnogol 100%)

Plant, Teuluoedd a Chymunedau (20 credyd gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn ystyried y dywediad ‘mae'n cymryd pentref cyfan i fagu plentyn’ a'r syniad ymarferol o gefnogaeth, dysgu a datblygu yn y gymuned. Bydd yn edrych ar y problemau lluosog y gall teuluoedd eu hwynebu mewn cysylltiad â phlentyndod a strwythurau teuluol cyn symud ymlaen i ganolbwyntio ar sut y gellir rhoi egwyddorion 'magwraeth gan bentref' ar waith yn ymarferol. (Astudiaeth Achos 70%, Cynnig ar gyfer Prosiect Grŵp Cymunedol 30%)

Dadleuon Allweddol ym maes Astudiaethau Plentyndod (20 credyd gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn ystyried syniadau ynghylch plentyndod a datblygiad plant ac yn cynnig cyfleoedd i ddadansoddi ac archwilio dadleuon a syniadau newydd am blant a phobl ifanc mewn perthynas â materion allweddol fel polisi cymdeithasol, y cyfryngau, iechyd a lles, gwleidyddiaeth, ymarfer proffesiynol ac addysg. (Cyflwyniad ar Boster 40%, Traethawd 60%)

Cyflogadwyedd a Datblygiad Ymarferwyr (10 credyd gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn cyfuno sgiliau o ddysgu blaenorol a chyfredol, ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer datblygu eu gyrfaoedd ac astudio ôl-raddedig. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i weithio'n annibynnol i ganfod cyfleoedd posibl yn y sector swyddi a ddewiswyd, a pharatoi CV a chynnwys perthnasol cyn cymryd rhan mewn ffug gyfweliad. (Portffolio 100%)

Prosiect Ymchwil y Flwyddyn Olaf – Traethawd Estynedig (40 credyd gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn ddilyniant i'r modiwl Lefel 5 Dulliau Ymchwilio ac mae'n cefnogi myfyrwyr i feithrin eu sgiliau a'u gwybodaeth wrth fynd ati i ymchwilio. ⁠Bydd y modiwl hwn yn paratoi ac yn cynorthwyo myfyrwyr i ysgrifennu darn o waith estynedig ar bwnc o'u dewis sy'n ymwneud â'u maes proffesiynol, gyda chefnogaeth goruchwylydd profiadol.

Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddangos hyd a lled eu gwybodaeth mewn maes pwnc penodol sydd o ddiddordeb proffesiynol iddynt. Bydd y traethawd estynedig yn dangos gallu academaidd y myfyriwr yn gyffredinol. Gall myfyrwyr naill ai ymgymryd ag ymchwil gynradd neu eilaidd a byddant yn cael eu goruchwylio a'u harwain. (Cyflwyniad ar boster 25%, Traethawd ymchwil 75%)

Cyfleoedd o ran gyrfa:

  • ⁠Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Addysgu
  • Therapydd Chwarae
  • Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
  • Mentor Dysgu
  • Athro Ysgol Gynradd
  • Athro Ysgol Uwchradd
  • Athro Anghenion Addysgol Arbennig
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Cynorthwyydd Addysgu
  • Gweithiwr Ieuenctid
  • Seicotherapydd Plant
  • Nyrs Plant
  • Gweithiwr Datblygu Cymunedol
  • Cwnselydd
  • Seicolegydd Addysgol
  • Therapydd Iaith a Lleferydd
  • Gofal Plant
  • Gweithiwr Meithrinfa

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Datblygiad ac Addysg Plant

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Datblygiad ac Addysg Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Datblygiad ac Addysg Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu