Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdEng) mewn Peirianneg Sifil

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    2-4 blynedd

  • Cod UCAS:
    H200
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdEng) mewn Peirianneg Sifil

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gychwyn gyrfa lwyddiannus a llawn boddhad mewn peirianneg? Ydych chi'n gweithio mewn proffesiwn cysylltiedig yn barod, ond am ennill y sgiliau a'r cymhwyster fel y gallwch symud ymlaen? Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gweithio ym meysydd peirianneg sifil, amgylcheddol a strwythurol. Mae hefyd yn rhoi cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector.

Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei gymeradwyo fel un sy'n llawn fodloni'n gofynion addysgol ar gyfer Technegydd Peirianneg.


Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau
  • Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
  • Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig
  • Sgiliau Ymchwilio ac Astudio
  • Tirfesur Safleoedd
  • Gweithrediadau ar Safleoedd Peirianneg Sifil
  • Dadansoddi Adeileddau
  • Daeareg

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Technoleg Peirianneg Sifil
  • Technegau Tirfesur
  • Datblygu'r Amgylchedd Adeiledig )
  • Mathemateg a Gwyddoniaeth ym maes Peirianneg
  • Geodechneg
  • Hydroleg a Deinameg Hylifau
  • Gweithdrefnau Rheoli
  • Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM)

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

  • o leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, yn cynnwys gradd llwyddo, neu radd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth.

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.

Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol.

Mae enghreifftiau o ofynion mynediad derbynion yn cynnwys:

  • Dwy lefel A, gyda gradd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc A2 perthnasol. Graddau D yw'r isafswm a dderbynnir. Mae'r enghreifftiau o bynciau Lefel A sy'n addas ar gyfer y cwrs yn cynnwys: Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Economeg, Busnes.
  • Neu Ddiploma Estynedig BTEC neu gymhwyster cyfwerth (T, Ll, Ll neu uwch).
  • Neu Ddiploma BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T, T) gyda dwy flynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu Ddiploma Atodol BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T neu uwch) gyda thair blynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu bum mlynedd neu ragor o brofiad mewn diwydiant sy'n dangos arbenigedd a gallu i reoli.

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Bydd dilyniant uniongyrchol i lefel 5 y Radd Sylfaen mewn Adeiladu neu Beirianneg Sifil yn GLlM yn cael ei ystyried yn achos y myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r Dystysgrif Addysg Uwch briodol, neu 120 o gredydau o Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn pwnc perthnasol.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Tystysgrif Addysg Uwch, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai
  • Sesiynau tiwtorial
  • Modiwlau seiliedig ar gyflogaeth
  • Siaradwyr gwadd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen:

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 ddiwrnod yr wythnos ( fel arfer 9am-5pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am-5pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol:

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Deunyddiau ar gyfer astudio'n annibynnol, fel gliniadur neu gyfrifiadur pen desg
  • Gwerslyfrau sy'n cael eu hystyried yn ddarllen hanfodol
  • Ymweliadau allanol megis safleoedd adeiladu, canol dinasoedd, henebion, stadia, amgueddfeydd / orielau / arddangosfeydd.
  • Meddalwedd i allu gweithio gartref
  • Offer Amddiffyn Personol (PPE), amcangyfrif cyllideb £30 - £150
  • Cyfrifiannell Gwyddonol
  • Apiau sydd am ddim yn gyffredinol ond sydd â chostau ar gyfer fersiynau wedi'u huwchraddio

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Gwybodaeth am fodiwlau

Mae gwybodaeth fanylach ar fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Campws Ychwanegol / Gwybodaeth am y Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Dave Roberto (Rhaglen Arweinydd): robert1d@gllm.ac.uk

Grace Gregson (Gweinyddiaeth): gregso1g@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau (unigol a grŵp)
  • Asesiadau amser-benodol (llyfr agored a chaeedig)

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn cynnig ystod o opsiynau gwaith ac addysg ichi.

Mae'r Gradd Sylfaen (FdEng) mewn Peirianneg Sifil yn eich galluogi i symud ymlaen i radd lawn Lefel 6. Bydd graddedigion eraill yn cychwyn ar eu gyrfaoedd peirianneg neu'n ymgeisio am rôl uwch yn eu sefydliad presennol. Mae graddedigion blaenorol y cwrs hwn wedi symud ymlaen i weithio fel Syrfewyr Meintiau, Technegwyr Pensaernol a Pheirianyddol, Swyddogion Rheoli Adeiladu a Swyddogion Gwasanaethau Amgylcheddol, ymhlith rolau eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r Radd Sylfaen hon wedi'i dyfeisio i ganolbwyntio ar addysg a hyfforddiant i Beirianwyr Sifil ar gyfer amrywiaeth o rolau technegol.

Amcan y cwrs yw diwallu angen y diwydiant peirianneg am staff cymwysedig priodol drwy roi'r arbenigedd a'r cyflogadwyedd angenrheidiol ichi. Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio ystod o gysyniadau ac arferion peirianneg, wedi eu hangori gan hanfodion gwyddoniaeth a mathemateg.

Byddwch yn dod i wybod am y datblygiadau presennol mewn peirianneg sifil tra'n gwella eich dealltwriaeth o brosesau rheoli. Yn ogystal â dysgu am yr agweddau theoretig ar beirianneg, byddwch yn dod i ddeall sut i'w cymhwyso i sefyllfaoedd ymarferol yn y gweithle.

Byddwch yn edrych ar ddatrys problemau a delio gyda sefyllfa annisgwyl mewn cyd-destun peirianneg, ac yn dod yn fwy abl i ysgwyddo cyfrifoldeb fel rheolwr. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddeall egwyddorion peirianneg a sut iddynt ddatblygu.

Bydd hefyd yn gwella eich sgiliau dadansoddi gwybodaeth, cyfathrebu dadleuon clir a gweithio'n annibynnol.

Gwybodaeth Uned

Ar gyfer pob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Dysgu gyda Chyflogwr (10 credyd, gorfodol)
Mae newidiadau mewn technoleg, deunyddiau, prosesau, deddfwriaethau ac arferion yn golygu bod y diwydiant adeiladu'n newid yn gyson hefyd. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i adfyfyrio a rhoi'r hyn a ddysgant o weithio yn y diwydiant mewn cyd-destun er mwyn asesu eu hanghenion dysgu unigol a chynllunio at y dyfodol. (Portffolio 100%)

Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau (20 credyd, gorfodol)
Mae'r uned hon yn cefnogi'r myfyrwyr i ddewis a gwerthuso'r deunyddiau maent yn eu defnyddio i gyflawni briff. Trwy hyn gallant weld a yw deunyddiau'n addas i bwrpas ar sail safonau a nodweddion profi, ac a ydynt yn bodloni'r gofynion o ran cyfforddusrwydd. Byddant yn dysgu am gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol deunyddiau, ac am y gofynion iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. (Cyflwyniad / cynnig / poster 40%, Astudiaeth achos 60%)

Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) (10 credyd, gorfodol))
Mae hwn yn un o'r modiwlau Dysgu gyda Chyflogwr. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin eu dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeiladau domestig isel trwy gyfrwng y sgiliau braslunio â llaw a braslunio technegol sy'n addas ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid ar y safle yn ystod camau 0 i 1 Cynllun Gwaith RIBA. (Cyflwyniad / cynnig / poster 100%)

Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw codi hyder y myfyrwyr ym maes rhifedd a mathemateg trwy adolygu ac atgyfnerthu sgiliau rhifedd sylfaenol fel y gallant ddefnyddio algebra a graffiau i drosi a datrys hafaliaid. (Arholiad 40%, Arholiad 60%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)
Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, ac i roi amrediad o ddulliau ymchwil ar waith i chwilio am wybodaeth. (Portffolio 100%)

Tirfesur Safleoedd (10 credyd, gorfodol)
Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Gweithrediadau ar Safleoedd Peirianneg Sifil
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i hanfodion datblygu a gweithredu prosiect peirianneg sifil mawr. Edrychir ar dechnegau adeiladu modern ac ar y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r broses adeiladu o ran iechyd a diogelwch, lles a'r amgylchedd. (Adroddiad 75%, Cyflwyno cynnig 25%)

Dadansoddi Adeileddau (10 credyd, gorfodol)
Edrychir ar egwyddorion adeileddol megis mecaneg a ffiseg adeileddau. Dadansoddir ymddygiad adeileddau a bydd hyn yn cynnwys cyfrifo momentau plygu, croesrymoedd, dirdroeon ac allwyriadau mewn amrywiaeth o adeileddau syml. (Portffolio x 2 100%)

Daeareg (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn dysgu gwahaniaethu rhwng ffurfiannau mathau cyffredin o gerrig, eu dosbarthiad, eu mwynoleg a'u dosraniad daearegol. (Adroddiad 100%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Technoleg Peirianneg Sifil (20 credyd, craidd):
Mae'r modiwl hwn yn eich cyflwyno i'r agweddau sylfaenol ar weithrediadau peirianneg sifil mawr, arbenigol fel adeiladu priffyrdd, gwaith twnelu a strwythurau morol. (Portffolio 100%)

Technegau Tirfesur (10 credyd, gorfodol)
Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Datblygu'r Amgylchedd Adeiledig (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw rhoi i'r myfyrwyr ddealltwriaeth o'r amgylchedd adeiledig, ei ddatblygiad hanesyddol a'r cyd-destun yn y gymdeithas gyfoes. (Cyflwyniad 50%, Traethawd 50%)

Mathemateg a Gwyddoniaeth ym maes Peirianneg (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw atgyfnerthu a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o'r egwyddorion mathemategol sy'n sail i beirianneg. (Exam 40%, Exam 60%)

Geodechneg (10 credydd, gorfodol):
Mae hwn yn cyflwyno'r agweddau sylfaenol ar Ddaeareg a'r deunyddiau Daearyddol a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladwaith. Byddwch yn dysgu technegau ymchwil ddaearol ac yn dehongli data o brofion pridd. (Adroddiad 60%, Adroddiad 40%)

Hydroleg a Deinameg Hylifau (10 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar hydrostateg ac yn egluro pynciau fel cineteg hylifau a strwythurau hydrolig. Byddwch yn gwneud arbrofion i roi'r syniadau hyn ar waith. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Prosiect Grŵp (20 credyd, craidd):
Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyriwr i greu cynllun datblygu personol cynhwysfawr a pherthnasol drwy nodi amrediad o anghenion datblygu academaidd ac arbenigol. (Cyflwyniad grŵp 50%, Traethawd 50%)

Gweithdrefnau Rheoli (10 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar drefniadaeth fewnol sefydliadau ac ar effaith eu penderfyniadau strategol ar eu safle yn y farchnad. (Adroddiad 100%)

Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) (10 credyd, gorfodol)
Bydd y myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd BIM i greu model llawn data y gellir ei ddefnyddio i lunio dogfennau adeiladu safonol a chael gwybodaeth am y rhaglen waith. (Adroddiad 30%, Cyflwyniad 70%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio 2 (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw cadarnhau, datblygu ymhellach ac ymestyn gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn briodol yn nisgyblaeth yr Amgylchedd Adeiledig. (Portffolio 100%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser