Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Peirianneg Sifil

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser a Rhan-amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 ddiwrnod yr wythnos am 1 flwyddyn neu ran-amser: 1 diwrnod yr wythnos am 2 flynedd. Dim nosweithiau.

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Peirianneg Sifil

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn addas i ymgeiswyr sy'n gweithio yn y Diwydiant Peirianneg Sifil.

Fel rheol, bydd sgiliau'r rhai sy'n cwblhau'r cymhwyster yn cael eu cydnabod yn ffurfiol. Mae hefyd yn debygol eu bod yn awyddus i symud ymlaen i swyddi uwch sy'n gofyn am sgiliau goruchwylio neu reoli ychwanegol.

Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei gymeradwyo fel un sy'n llawn fodloni'n gofynion addysgol ar gyfer Technegydd Peirianneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol:

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Deunyddiau ar gyfer astudio'n annibynnol, fel gliniadur neu gyfrifiadur pen desg
  • Gwerslyfrau sy'n cael eu hystyried yn ddarllen hanfodol
  • Ymweliadau allanol megis safleoedd adeiladu, canol dinasoedd, henebion, stadia, amgueddfeydd / orielau / arddangosfeydd
  • Meddalwedd i allu gweithio gartref
  • Offer Amddiffyn Personol (PPE), amcangyfrif cyllideb £30 - £150
  • Cyfrifiannell Gwyddonol
  • Apiau sydd am ddim yn gyffredinol ond sydd â chostau ar gyfer fersiynau wedi'u huwchraddio

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Gwybodaeth am fodiwlau

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd

  • o leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, yn cynnwys gradd llwyddo, neu radd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Mae enghreifftiau o ofynion mynediad derbynion yn cynnwys:

  • Dwy lefel A, gyda gradd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc A2 perthnasol. Graddau D yw'r isafswm a dderbynnir. Mae'r enghreifftiau o bynciau Lefel A sy'n addas ar gyfer y cwrs yn cynnwys: Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Economeg, Busnes
  • Neu Ddiploma Estynedig BTEC neu gymhwyster cyfwerth (T, Ll, Ll neu uwch).
  • Neu Ddiploma BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T, T) gyda dwy flynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu Ddiploma Atodol BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T neu uwch) gyda thair blynedd o brofiad mewn diwydiant.
  • Neu bum mlynedd neu ragor o brofiad mewn diwydiant sy'n dangos arbenigedd a gallu i reoli.

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Rhyddau am y dydd
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Tiwtorialau
  • Gwaith grŵp
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
  • Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig (RWE)

Amserlen:

  • 2 flynedd (1 dydd a noson yr wythnos)

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Dwynwen Parry (Rhaglen Arweinydd): parry4d@gllm.ac.uk

Karen Price (Gweinyddiaeth): price1k@gllm.ac.uk

Dave Roberto (Rhaglen Arweinydd): robert1d@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): eckers1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Arholiad ysgrifenedig ffurfiol
  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r Dystysgrif yn llwyddiannus, gall ymgeiswyr fynd ymlaen i astudio cwrs Addysg Uwch pellach yn yr un pwnc neu mewn pwnc perthnasol.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig amrywiaeth o ddewisiadau, neu gall ymgeiswyr wneud cais i astudio mewn sefydliad arall.

Gwybodaeth campws Llangefni

Bydd y dyfarniad hwn yn galluogi dysgwyr sy'n gweithio yn y diwydiant i ehangu eu sylfaen sgiliau y tu hwnt i orwelion eu cyflogaeth bresennol ac felly wella eu rhagolygon gyrfaol ym mhedwar prif faes peirianneg sifil - trawsgludiaeth, dŵr, strwythurau ac adeiladwaith.

Mae'r cwrs hwn yn gweddu'n berffaith i'r rhai sydd yn dymuno gweithio fel Technegwyr Peirianneg Sifil. Wedi cwblhau'r cwrs, gall dysgwyr sydd â chymwysterau addas fynd ymlaen i gwrs gradd.

Bydd y dyfarniad hefyd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ennill statws Peiriannydd Corfforedig ac yn ofyniad ar gyfer ennill statws technegydd yn y diwydiant.

Gwybodaeth Uned

Ar gyfer pob 9 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Cwblheir cyfanswm o 9 uned yn ystod y 2 flynedd, mae'r rhain yn gysylltiedig â phynciau adeiladu, cynllunio a pheirianneg sifil a fydd yn paratoi ymgeiswyr tuag at ddatblygiad gyrfaol pellach.

Lefel 4:

Dysgu gyda Chyflogwr (10 credyd, gorfodol)

Mae newidiadau mewn technoleg, deunyddiau, prosesau, deddfwriaethau ac arferion yn golygu bod y diwydiant adeiladu'n newid yn gyson hefyd. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i adfyfyrio a rhoi'r hyn a ddysgant o weithio yn y diwydiant mewn cyd-destun er mwyn asesu eu hanghenion dysgu unigol a chynllunio at y dyfodol. (Portffolio 100%)

Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau (20 credyd, gorfodol)

Mae'r uned hon yn cefnogi'r myfyrwyr i ddewis a gwerthuso'r deunyddiau maent yn eu defnyddio i gyflawni briff. Trwy hyn gallant weld a yw deunyddiau yn addas i bwrpas ar sail safonau a nodweddion profi, ac a ydynt yn bodloni'r gofynion o ran cyfforddusrwydd. Byddant yn dysgu am gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol deunyddiau, ac am y gofynion iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. (Adroddiad / cynnig / poster 40%, Astudiaeth achos 60%)

Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i feithrin eu dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeiladau domestig isel trwy gyfrwng y sgiliau braslunio â llaw a braslunio technegol sy'n addas ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid ar y safle yn ystod camau 0 i 1 Cynllun Gwaith RIBA. (Cyflwyniad / cynnig / poster 100%)

Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd, craidd)

Nod y modiwl hwn yw codi hyder y myfyrwyr ym maes rhifedd a mathemateg trwy adolygu ac atgyfnerthu sgiliau rhifedd sylfaenol fel y gallant ddefnyddio algebra a graffiau i drosi a datrys hafaliaid. (Arholiad 40%, Arholiad 60%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)

Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, ac i roi amrediad o ddulliau ymchwil ar waith i chwilio am wybodaeth. (Portffolio 100%)

Tirfesur Safleoedd (10 credyd, gorfodol)

Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Gweithrediadau ar Safleoedd Peirianneg Sifil

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i hanfodion datblygu a gweithredu prosiect peirianneg sifil mawr. Edrychir ar dechnegau adeiladu modern ac ar y deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r broses adeiladu o ran iechyd a diogelwch, lles a'r amgylchedd. (Adroddiad 75%, Cyflwyno cynnig 25%)

Dadansoddi Adeileddau (10 credyd, gorfodol)

Edrychir ar egwyddorion adeileddol megis mecaneg a ffiseg adeileddau. Dadansoddir ymddygiad adeileddau a bydd hyn yn cynnwys cyfrifo momentau plygu, croesrymoedd, dirdroeon ac allwyriadau mewn amrywiaeth o adeileddau syml. (Portffolio x 2 100%)

Daeareg (10 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn dysgu gwahaniaethu rhwng ffurfiannau mathau cyffredin o gerrig, eu dosbarthiad, eu mwynoleg a'u dosraniad daearegol. (Adroddiad 100%)

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Bydd y dyfarniad hwn yn galluogi dysgwyr sy'n gweithio yn y diwydiant i ehangu eu sylfaen sgiliau y tu hwnt i orwelion eu cyflogaeth bresennol ac felly wella eu rhagolygon gyrfaol ym mhedwar prif faes peirianneg sifil - trawsgludiaeth, dŵr, strwythurau ac adeiladwaith.

Mae'r cwrs hwn yn gweddu'n berffaith i'r rhai sydd yn dymuno gweithio fel Technegwyr Peirianneg Sifil.

Wedi cwblhau'r cwrs, gall dysgwyr sydd â chymwysterau addas fynd ymlaen i gwrs gradd. Bydd y dyfarniad hefyd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ennill statws Peiriannydd Corfforedig ac yn ofyniad ar gyfer ennill statws technegydd yn y diwydiant.

Gwybodaeth Uned

Ar gyfer pob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Cwblheir cyfanswm o 9 uned yn ystod y 2 flynedd, mae'r rhain yn gysylltiedig â phynciau adeiladu, cynllunio a pheirianneg sifil a fydd yn paratoi ymgeiswyr tuag at ddatblygiad gyrfaol pellach.

Lefel 4:

Dysgu gyda Chyflogwr (10 credyd, gorfodol)

Mae newidiadau mewn technoleg, deunyddiau, prosesau, deddfwriaethau ac arferion yn golygu bod y diwydiant adeiladu'n newid yn gyson hefyd. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i adfyfyrio a rhoi'r hyn a ddysgant o weithio yn y diwydiant mewn cyd-destun er mwyn asesu eu hanghenion dysgu unigol a chynllunio at y dyfodol. (Portffolio 100%)

Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau (20 credyd, gorfodol)

Mae'r uned hon yn cefnogi'r myfyrwyr i ddewis a gwerthuso'r deunyddiau maent yn eu defnyddio i gyflawni briff. Trwy hyn gallant weld a yw deunyddiau yn addas i bwrpas ar sail safonau a nodweddion profi, ac a ydynt yn bodloni'r gofynion o ran cyfforddusrwydd. Byddant yn dysgu am gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol deunyddiau, ac am y gofynion iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. (Adroddiad / cynnig / poster 40%, Astudiaeth achos 60%)

Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i feithrin eu dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeiladau domestig isel trwy gyfrwng y sgiliau braslunio â llaw a braslunio technegol sy'n addas ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid ar y safle yn ystod camau 0 i 1 Cynllun Gwaith RIBA. (Cyflwyniad / cynnig / poster 100%)

Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd, craidd)

Nod y modiwl hwn yw codi hyder y myfyrwyr ym maes rhifedd a mathemateg trwy adolygu ac atgyfnerthu sgiliau rhifedd sylfaenol fel y gallant ddefnyddio algebra a graffiau i drosi a datrys hafaliaid. (Arholiad 40%, Arholiad 60%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)

Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, ac i roi amrediad o ddulliau ymchwil ar waith i chwilio am wybodaeth. (Portffolio 100%)

Tirfesur Safleoedd (10 credyd, gorfodol)

Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)

Gweithrediadau ar Safleoedd Peirianneg Sifil

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i hanfodion datblygu a gweithredu prosiect peirianneg sifil mawr. Edrychir ar dechnegau adeiladu modern ac ar y deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r broses adeiladu o ran iechyd a diogelwch, lles a'r amgylchedd. (Adroddiad 75%, Cyflwyno cynnig 25%)

Dadansoddi Adeileddau (10 credyd, gorfodol)

Edrychir ar egwyddorion adeileddol megis mecaneg a ffiseg adeileddau. Dadansoddir ymddygiad adeileddau a bydd hyn yn cynnwys cyfrifo momentau plygu, croesrymoedd, dirdroeon ac allwyriadau mewn amrywiaeth o adeileddau syml. (Portffolio x 2 100%)

Daeareg (10 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn dysgu gwahaniaethu rhwng ffurfiannau mathau cyffredin o gerrig, eu dosbarthiad, eu mwynoleg a'u dosraniad daearegol. (Adroddiad 100%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'

Sefydliad dyfarnu