Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 flynedd; Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.

  • Cod UCAS:
    NNHT
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Gan fod y cyrsiau hyn yn y broses o gael eu datblygu maent yn amodol ar ddilysiad a chymeradwyaeth ar gyfer mis Medi 2024. Gall y cynnwys a'r modiwlau newid.

Mae'r Radd Sylfaen hon mewn Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau rheoli busnes hanfodol a'r arbenigedd ymarferol y mae cyflogwyr blaenllaw yn y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau byd-eang yn chwilio amdanynt.

Mae natur ymdrochol y cwrs yn sicrhau eich bod yn datblygu'r theori a'r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen i ragori yn y sectorau deinamig hyn.

Wedi'n lleoli yng ngogledd Cymru, cyrchfan dwristiaid sy’n enwog yn fyd-eang, mae ein lleoliad yn darparu amgylchedd dysgu unigryw. Gydag amrywiaeth o sefydliadau lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau yn agos, bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd i ymgysylltu, ymweld â distyllfeydd, ymweld ag atyniadau amrywiol a phrofiad gwaith posibl. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i'r rhai hynny sydd â diddordeb dechrau gweithio yn y sector, neu sydd am wella eu cyfleoedd am ddyrchafiad a gwaith rheoli yn y sector.

Mae'r modiwlau'n cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Cyd-destun Digwyddiadau
  • Agweddau Byd-eang ar Dwristiaeth
  • Cyllid Busnes
  • Gweithrediadau Bwyd a Diod
  • Marchnata ac Ymddygiad Defnyddwyr

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Rheoli ym maes Bwyd a Diod
  • Naws am Le
  • Twristiaeth Gyfrifol

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg, iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

  • O leiaf 80 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster Lefel 3, gan fod wedi llwyddo fel arfer mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, Diploma Estynedig BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLLM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL). Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 3.30 pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 3.30 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Yn ystod y rhaglen, anogir myfyrwyr i fanteisio ar gyfleoedd i ddod yn aelodau o gyrff proffesiynol eraill, a all arwain at gostau ychwanegol. Fel rhan o'r rhaglen, gellir cynnal ymweliadau allanol hefyd a fyddai'n gofyn am gyfraniad ariannol gan y myfyriwr. Rhoddir yr uchod fel arweiniad, a gallai rhagor o gyfleoedd arwain at gostau pellach.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Modiwlau

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Gwybodaeth am y Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Claire Jones (Rhaglen Arweinydd): jones37c@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs cewch eich asesu drwy ddulliau amrywiol, er enghraifft drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Dyddiaduron adfyfyriol
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol (gan a heb ddefnyddio llyfrau)
  • Gwaith ymarferol
  • Gwaith grŵp

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall gyrfaoedd yn y diwydiant digwyddiadau olygu trefnu digwyddiadau, neu weithio i sefydliadau twristiaeth rhanbarthol, cyfleusterau cynadleddau ac arddangosfeydd, atyniadau twristaidd, y sector awyr agored, canolfannau corfforaethol a chanolfannau hamdden, gwestai neu'r diwydiant arlwyo.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Teithio a Thwristiaeth

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin

Teithio a Thwristiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Teithio a Thwristiaeth

Sefydliad dyfarnu