Gradd Sylfaen (FdA) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
-
Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
-
Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd.
Dydd Llun a Dydd Mawrth, 9am-5pm
-
Cod UCAS:WP63
Gradd Sylfaen (FdA) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau
Cyrsiau Lefel Prifysgol
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y cwrs yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau creadigol, technegol a phroffesiynol sy'n angenrheidiol i ragori yn niwydiant deinamig a chystadleuol y cyfryngau. Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn yn cyfuno'r grefft o adrodd stori â thechnoleg fodern gan feithrin dyfeisgarwch a'r gallu i feddwl yn feirniadol mewn meysydd sy'n allweddol i gynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Mae'r cwrs yn cynnig cyfuniad unigryw o ryddid creadigol, meistrolaeth dechnegol a gwybodaeth entrepreneuriaid, gan alluogi myfyrwyr i ffynnu ym maes cyfnewidiol y diwydiant cyfryngau.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Astudiaethau Cyd-destunol
- Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1
- Sgiliau Technegol Hanfodol
- Cyflwyniad i Olygu a Chynhyrchu Sain
- Cyflwyniad i Olygu Fideos
- Cynhyrchu Aml-gamera
- Prosiect Fideo
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Technolegau Clywedol a Dylunio Sain
- Dylunio Digidol a Graffig
- Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2
- Newyddiaduriaeth ac Astudiaethau Diwylliannol
- Prosiect Mawr
- Prosiect Ymchwil yn Gysylltiedig â'r Diwydiant Cyfryngau
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion ieithyddol:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Gofynion academaidd:
- o leiaf 70 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
- Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol
- Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno portffolio i gefnogi eu cais
Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Cyflwyniadau
- Gwaith grwp
- Sesiynau ymarferol
- Seminarau
- Darlithoedd
- Traethodau fideo
Mae'r dysgu yn broses gyfranogol, anffurfiol ac yn llawn o gyfleoedd i'r unigolyn ymchwilio a bod yn greadigol. Gallai lleoliad yn y diwydiant hefyd fod yn rhan o'r cwrs.
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen
- Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
- Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau Ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- deunyddiau i astudio'n annibynnol
- ymweliadau allanol, e.e. ag amgueddfeydd neu arddangosfeydd
- meddalwedd i allu gweithio gartref
- mynediad at ddeunyddiau i'w gwerthuso a'u dadansoddi
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Chris Bainbridge (Rhaglen Arweinydd): bainbr1c@gllm.ac.uk
David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Asesir y cwrs trwy waith cwrs. Nid oes arholiadau.
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Gall myfyrwyr symud ymlaen ar y BA (Anrh) Cyfryngau Creadigol a Darlledu.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r Radd Sylfaen mewn Cyfryngau Creadigol a Darlledu yn radd dan arweiniad ymarferol yn bennaf, gan ganolbwyntio ar sgiliau diwydiant perthnasol a gofynnol. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant cyfryngau.
Gwybodaeth uned
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Astudiaethau Cyd-destunol
Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i'r prif ddamcaniaethau sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a'u perthnasedd i astudio'r cyfryngau a chynhyrchu. Mae'r modiwl yn sefydlu sgiliau academaidd sylfaenol fel ymchwilio, cyfeirnodi ac ysgrifennu academaidd gan baratoi'r myfyrwyr ar gyfer astudiaethau pellach a gwaith proffesiynol.
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1
Bwriad y modiwl yw gwella cyflogadwyedd y myfyrwyr drwy feithrin eu sgiliau creadigol a thechnegol wrth iddynt weithio ar brosiectau cynhyrchu fideos i fusnesau lleol. Mae'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant, rhoi technegau cynhyrchu fideos ar waith, ac ystyried eu twf proffesiynol eu hunain. Bydd y myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol wrth adeiladu portffolio o waith i'w ddangos i ddarpar gyflogwyr.
Sgiliau Technegol Hanfodol
Mae'r modiwl hwn yn rhoi i'r myfyrwyr y sgiliau technegol hanfodol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu a rheoli digwyddiadau'n broffesiynol ym maes y cyfryngau. Mae'n canolbwyntio ar waith ymarferol, gan ddatblygu hyfedredd ym maes goleuo, sain, a defnyddio camerâu. Yn ogystal, mae'n datblygu dealltwriaeth o foeseg, cyfathrebu a chydweithio yn y gweithle, gan alluogi'r myfyrwyr i gynhyrchu cynnwys a digwyddiadau byw safonol.
Cyflwyniad i Olygu a Chynhyrchu Sain
Bwriad y modiwl yw rhoi gwybodaeth a sgiliau ymarferol sylfaenol i'r myfyrwyr ym maes cynhyrchu a golygu sain. Drwy waith theori a gwaith ymarferol bydd y myfyrwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol am theori sain, recordio, cymysgu, ac ôl-gynhyrchu. Bydd y myfyrwyr yn datblygu'u gallu technegol drwy ddefnyddio DAWs (Digital Audio Workstations) ac offer sain, ac yn adfyfyrio'n feirniadol ar eu prosesau cynhyrchu.
Cyflwyniad i Olygu Fideos
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth o'r broses olygu a sut y caiff ei defnyddio yn y diwydiant cyfryngau.
Cynhyrchu Aml-gamera
Bydd y modiwl yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud gwaith aml-gamera, ac i weithio'n unol â chynllun ar gynhyrchiad aml-gamera sy'n bodloni briff penodol. Bydd y modiwl yn ymdrin ag agweddau ymarferol ar gynhyrchiad stiwdio, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol brotocolau fideo ac AV-IP, a therminoleg ac arferion y diwydiant.
Prosiect Fideo
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr greu syniad, a chynllunio, datblygu a chwblhau prosiect fideo drwy gyfuno'r grefft o adrodd stori â gallu technegol a phrosesau creadigol. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o waith cyn-gynhyrchu, cynhyrchu, ac ôl-gynhyrchu, gan eu galluogi i greu cynnyrch proffesiynol.
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Technolegau Clywedol a Dylunio Sain
Bwriad y modiwl yw dyfnhau dealltwriaeth y myfyrwyr o dechnolegau clywedol a dylunio sain, gan adeiladu ar eu gwybodaeth sylfaenol o gynhyrchu sain. Bydd y myfyrwyr yn archwilio technegau creadigol a thechnegol ar gyfer trin sain, dylunio sain ymgolli, a llif gwaith ôl-gynhyrchu uwch. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar swyddogaeth sain mewn amrywiol gyd-destunau, fel ffilm, teledu, gemau, cerddoriaeth a chyfryngau ymgolli.
Dylunio Digidol a Graffig
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i egwyddorion ac arferion dylunio digidol a graffig, gan roi pwyslais ar ddylunio fel cyfrwng ar gyfer cyfathrebu clir ac effeithiol. Bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau i ddefnyddio meddalwedd, teipograffeg a brandio'n greadigol gan ddefnyddio cyfarpar o safon ddiwydiannol a fframweithiau damcaniaethol i greu datrysiadau gweledol apelgar sy'n ategu cyfathrebu effeithiol ar draws cyfryngau digidol a phrint.
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2
Bwriad y modiwl yw galluogi'r myfyrwyr i feithrin sgiliau a datblygu fframweithiau i adfyfyrio'n feirniadol ar eu dysgu a'u profiadau seiliedig ar waith. Drwy fynd ar brofiad gwaith a chofnodi hynny, bydd myfyrwyr yn gwella'u cyflogadwyedd drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol a hunanymwybyddiaeth.
Prosiect Mawr
Mae'r modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i ddefnyddio eu profiadau academaidd, technegol a chreadigol i gyflwyno prosiect sylweddol mewn maes o ddiddordeb iddynt sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau. Drwy weithio ar y cyd ac yn annibynnol bydd y myfyrwyr yn datblygu ac yn arddangos arbenigedd yn y maes y maent wedi dewis canolbwyntio arno tra hefyd yn gwella eu sgiliau proffesiynol wrth reoli prosiect, cydweithio, ac ymwneud â'r diwydiant. Bydd y modiwl yn paratoi'r myfyrwyr ar gyfer astudiaethau lefel uwch neu fynediad i'r diwydiant cyfryngau, gyda phwyslais ar gyflwyno prosiect sy'n cyd-fynd â safonau proffesiynol ac yn arddangos eu gallu unigol a chyfunol.
Newyddiaduriaeth ac Astudiaethau Diwylliannol
Bwriad y modiwl hwn yw archwilio'r cysylltiadau rhwng newyddiaduraeth ac astudiaethau diwylliannol, gan edrych ar ddatblygiad hanesyddol newyddiaduraeth, ei swyddogaeth wrth lunio trafodaeth gyhoeddus, a'i pherthynas â chynhyrchu diwylliannol. Gan astudio natur gyfnewidiol newyddiaduriaeth, bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau dadansoddol ac adfyfyriol sy'n hanfodol ar gyfer deall arferion cyfoes yn y cyfryngau.
Prosiect Ymchwil yn Gysylltiedig â'r Diwydiant Cyfryngau
Nod y modiwl hwn yw creu platfform i'r myfyrwyr archwilio a mireinio sgìl benodol ym maes y cyfryngau creadigol. Disgwylir i'r myfyrwyr nodi, archwilio, a chwblhau prosiect sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau creadigol a fydd yn eu cefnogi eu hamcanion ar gyfer y dyfodol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/a
Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sefydliad dyfarnu
