Tystysgrif Addysg Uwch mewn Perfformio ar gyfer Llwyfan a Sgrin (yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser - un flwyddyn. Rhan-amser - dwy flynedd
Dydd Llun a dydd Mawrth, 9am - 5pm
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Perfformio ar gyfer Llwyfan a Sgrin (yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth)Graddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cynlluniwyd y cwrs i ddenu unrhyw un sy'n dymuno datblygu eu sgiliau perfformio. Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau perfformio ar y llwyfan a chyfryngau eraill. Bydd y cwrs dwys hwn (am flwyddyn i'r rhai llawn amser) yn cwmpasu pob agwedd o'r diwydiant actio i'w nodi fel dechrau eu CV perfformiwr, ac yna gallent ei ddefnyddio i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch eraill neu'r diwydiant. Bydd myfyrwyr yn cael y wybodaeth a'r sgiliau i hybu eu hunain er mwyn cael gwaith yn ogystal â chael y cyfle drwy gydol y cwrs i ddatblygu eu technegau clyweliad.
Nod y rhaglen yw:
- Datblygu sgiliau perfformio mewn actio, symud a llais
- Paratoi myfyrwyr ar gyfer clyweliadau i golegau drama, cyrsiau Addysg Uwch neu'r diwydiant
- Cynorthwyo myfyrwyr i greu eu proffil ar-lein eu hunain i hyrwyddo eu gwaith
- Datblygu sgiliau myfyrwyr i gynllunio, ymarfer a pherfformio eu perfformiad eu hunain
Bwriad nodweddion penodol y rhaglen yw:
- Cwrs paratoi dwys i baratoi i fynd i goleg drama, Addysg Uwch neu'r diwydiant
- Siaradwyr gwadd ac arbenigwyr o'r diwydiant
- Ymweliadau â theatrau a stiwdios teledu
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Mae'n bosibl y bydd taith i o leiaf ddau berfformiad proffesiynol ym mhob blwyddyn academaidd, felly bydd gofyn i'r myfyriwr dalu am docynnau.
- Rhaid gwisgo dillad proffesiynol (crys T du, trowsus loncian du ac esgidiau/trenyrs du) ym mhob sesiwn
- Dylid ystyried neilltuo oddeutu £200 ar gyfer teithiau allanol.
Gwybodaeth am fodiwlau
Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs.'
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd
- Isafswm o 72 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, fel arfer wedi llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, Diploma Estynedig UAL, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
- Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol
NEU
Gellid defnyddio clyweliad a gweithdy llwyddiannus i gael mynediad i'r cwrs yn lle cyflawniad academaidd.
Gofynion Ieithyddol
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
Bydd y dysgu wedi’i amserlennu a’r gweithgareddau dan arweiniad yn cael eu cyflwyno trwy gyfres o weithgareddau dysgu cyfunol (wyneb yn wyneb ac ar-lein) ar y we, darlithoedd rhyngweithiol, seminarau, gweithdai, siaradwyr gwadd a gweithgareddau unigol a grŵp. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan arbenigwyr ym maes actio, symud a llais, sydd â phrofiad o weithio yn y diwydiant, sy’n hyddysg â’r pwnc ac yn gyfarwydd â’r gweithiau amrywiol a berfformir heddiw.
Mae'r rhaglen yn benodol ar gyfer datblygu dulliau actio a drama felly bydd myfyrwyr yn edrych ar amrywiaeth o ymarferwyr penodol yn ystod y rhaglen, gan ddefnyddio hyn mewn nifer o'r modiwlau. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio mewn theatr bwrpasol a stiwdio bocs du llai. Byddant yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant ac yn defnyddio lleoliadau fel Theatr Clwyd, stiwdios Aria a Pontio.
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Mae cyfle i fyfyrwyr ymweld ag o leiaf ddau berfformiad theatr ym mhob blwyddyn academaidd, a bydd y myfyriwr yn talu am y gost hon. Gallent hefyd fod yn rhan o daith flynyddol yr adran i Lundain.
- Rhaid gwisgo dillad proffesiynol, top a throwsus du ac esgidiau addas, ym mhob sesiwn. Bydd y rhan fwyaf o gyflenwyr dillad y stryd fawr yn ddefnyddiol, er efallai y bydd cyfranogwyr yn dymuno defnyddio cyflenwyr dillad dawns.
- Angen cyllideb o tua £300 i dalu costau teithiau posibl.
Profiad gwaith:
Fel rhan o'r dystysgrif addysg uwch bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag o leiaf 75 awr o brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen ar lefel 4, mewn sector galwedigaethol perthnasol. Bydd hyn yn cael ei asesu trwy ddatblygu cofnod sy'n adfyfyrio ar unrhyw brofiad gwaith a wneir yn ystod y cwrs sy'n cyfrannu at y 75 awr.
Amserlen
- Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 ddiwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5pm)
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Emma Bailey (Rhaglen Arweinydd): bailey1e@gllm.ac.uk
Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
- Traethawd
- Gwerthusiad/myfyrdodau
- Cyflwyniad/Viva Voce
- Fideos ymarferol
- Portffolio proffesiynol
- Blog
- Gwefan
- Cofnod Profiad Gwaith
- Rîl perfformio
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen gref i chi ym maes Actio ac yn eich paratoi ar gyfer un ai clyweliadau i golegau drama achrededig neu astudiaethau lefel gradd mewn prifysgol, neu i symud ymlaen i brentisiaeth neu swydd yn y diwydiant.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Arddangosiad Proffesiynol (20 credyd, Gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn archwilio parodrwydd myfyrwyr ar gyfer y diwydiant. Yn y modiwl bydd cyfres o weithiau'n cael eu datblygu a fyddai'n addas i'w cyflwyno mewn arddangosfa i ddarpar asiantau, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd y gwaith paratoi a chynllunio ar gyfer y digwyddiad yn cael ei wneud fel tîm, mewn lleoliad allanol o ddewis y grŵp. (Portffolio Cynllunio (45%) / Ymarfer Ymarferol ac Arddangosfa (45%) / Gwerthusiad (10%) / Profiad Gwaith (Llwyddo/Methu))
Materion Cyfoes (20 credyd, craidd)
Mae'r diwydiant adloniant yn esblygu'n barhaus i ymdrin â themâu economaidd a chymdeithasol helaeth ein cymdeithas. Mae'n hollbwysig ystyried materion cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol, diwylliannol a thechnolegol cyfredol sy'n berthnasol i'n diwydiant. Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cynnal ymchwiliad i thema o'u dewis nhw sy'n cael effaith ar y diwydiant. (Gwefan (60%) / Viva Voce (40%))
Technegau Perfformio - Actio (10 credyd, gorfodol)
Byddwch yn astudio hanfodion hyfforddi actorion. Byddwch yn gweithio ar ddeunyddiau clyweliad yn barod ar gyfer eich clyweliadau Conservatoire, diwydiant neu brifysgol. Byddwch yn astudio technegau actio ar y cyd ag astudio ymarferwyr fel Constantin Stanislavski, Uta Hagen ac ati. (Fideo ymarfer a pherfformiad (60%) / Cyflwyno Ffolder Cynhyrchu Perfformiad (40%))
Technegau Perfformio - Symud (10 credyd, gorfodol)
Byddwch yn astudio hanfodion a tharddiad symud, yn arbennig arddulliau megis Jazz lle byddwch yn ymchwilio i amrywiaeth o ymarferwyr byd-eang. Gallai arddulliau eraill a astudir gynnwys theatr gorfforol a brwydro ar y llwyfan. Byddwch yn deall pwysigrwydd ffitrwydd a stamina trwy ddull cynhesu trylwyr. Byddwch yn datblygu hanfodion techneg sylfaenol yn ogystal ag integreiddio'r dechneg symud i arferion a chyfuniadau a ddefnyddir ar gyfer arddangosiadau trwy gydol y flwyddyn. (Sesiwn Ymarferol wedi'i recordio Asesu yn y dosbarth (50%) / Ffolder Cynhyrchu gan gynnwys adfyfyrio (50%))
Technegau Perfformio - Llais (10 credyd, gorfodol)
Byddwch yn astudio sut i ddatblygu llais iach i'r perfformiwr a sut i ddefnyddio'ch llais i wella perfformiad. Byddwch yn astudio technegau a fydd yn cynnwys hyfforddiant lleisiol Estill. (Llyfr gwaith anatomeg lleisiol, gan gynnwys adfyfyrio (50%) / Cymhwyso technegau lleisiol yn ymarferol (50%))
Perfformio ar gyfer y Cyfryngau (20 credyd, craidd)
Dyma gyfle i ddatblygu eich sgiliau perfformio o flaen y camera. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai a fydd yn arwain at gynhyrchu drama deledu. Byddwch hefyd yn astudio sut i berfformio ar y radio neu ar-lein. (Ffilm Drama Deledu (60%) / Portffolio Gwerthuso ac Ymchwil (40%))
Mynd am glyweliad (10 credyd, craidd)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn gweithrediadau aml-gamera a chynyrchiadau, i weithio i gynllunio a chynhyrchu cynhyrchiad aml-gamera i friff penodol. Bydd y modiwl hwn yn ymdrin ag agweddau ymarferol ar gynhyrchiad stiwdio, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol brotocolau fideo ac AV-IP, terminoleg ac arferion y diwydiant. (Portffolio Ffolder Cyn Cynhyrchu (50%) / Cynhyrchiad aml-gamera (50%))
Actio Clasurol (10 credyd, craidd)
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn dod yn fwy ymwybodol o'r personél yn y diwydiant. Bydd hyn, ynghyd â deall sut i gael cyflogaeth gan gynnwys rîl arddangos a phroffil ar-lein, yn cefnogi cyflogaeth bosibl yn y dyfodol. Mae gwaith yn y diwydiant hwn yn gystadleuol a gall herio lles pobl; mae datblygu technegau a sut i gynnal agwedd feddyliol gadarnhaol yn hollbwysig. (Traethawd ar Rolau Swyddi (60%) / Portffolio o dystiolaeth (40%))
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Celfyddydau Perfformio
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/aCelfyddydau Perfformio
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: