Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.

  • Cod UCAS:
    6T49
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa heriol yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol? Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn animeiddio?

Erbyn hyn mae gemau cyfrifiadurol yn ddiwydiant byd-eang sy'n werth biliynau o bunnoedd. I ymdopi â'r galw cynyddol hwn, mae ar y diwydiant angen mwyfwy o ddatblygwyr gemau.

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i fod yn un o'r arbenigwyr hynny, a bydd yn fodd i chi ymgymryd â nifer o swyddi yn y sector amrywiol hwn. Yn ystod y cwrs, byddwch yn elwa ar amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf, y dechnoleg ddiweddaraf, cyfleusterau cyfrifiadurol mynediad agored a chefnogaeth wych gan diwtoriaid.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr i swyddi ym maes datblygu gemau ac animeiddio, maes creadigol sy'n newid yn gyflym, a chewch feithrin gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn amrediad o feysydd. Os ydych wedi dilyn cwrs Lefel 3 (neu gymhwyster cyfatebol) ac os hoffech fynd ymlaen i ddysgu rhagor am feysydd eraill, gan gynnwys rhaglennu, datblygu'r we a datblygu meddalwedd, mae'r cwrs hwn yn addas i chi.

Ar y cwrs, cewch ddealltwriaeth gadarn o sawl maes craidd ym maes datblygu gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys modelu ac animeiddio 3D, sain, rhaglennu a dylunio rhyngwynebau defnyddwyr.

Yn ogystal â'r wybodaeth sylfaenol, cewch feithrin sgiliau proffesiynol, fel gweithio mewn tîm a datrys problemau, sy'n hanfodol o ran datblygu'ch gyrfa. Byddwch yn datblygu dull arloesol a hyblyg o weithio, gan ddefnyddio llawer o sgiliau, yn ogystal â meithrin arbenigedd technegol helaeth.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n aelod o Raglen Academaidd PlayStation®First sy'n cael ei rhedeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE). Mae'r rhaglen hon yn golygu bod gan staff a myfyrwyr fynediad at adnoddau caledwedd a meddalwedd datblygu proffesiynol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Rhaglennu Sylfaenol
  • Sgiliau Astudio ym maes Gemau
  • Diwydiant a Chyflogadwyedd
  • Cyflwyniad i Fodelu ac Animeiddio 3D
  • Cyflwyniad i Fodelu Cymeriadau
  • Creu Lefelau
  • Mecaneg Lefelau
  • Rhyngwyneb a Phrofiad Defnyddwyr

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Modelu ac Animeiddio Cymeriadau
  • Datblygu Gemau
  • Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Gemau
  • Technegau Goleuo a Rendro
  • Prosiect Seiliedig ar Fethodoleg
  • Datblygu Realaeth Gymysg
  • Profi ac Optimeiddio
  • Dylunio a Defnyddio Gwead

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr fod wedi ennill 72 o bwyntiau UCAS lle mae 56 pwynt yn dod o gwrs cyfrifiadurol neu lefel 3 sy'n gysylltiedig â chyfrifiaduron, neu bynciau A2 tebyg
  • TGAU gradd C/4 neu uwch (neu gymhwyster Sgil Allweddol) mewn Mathemateg, Cymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Os nad oes gennych y cymwysterau uchod, efallai y gallwn eich ystyried ar sail unigolion cymwys os gallwch ddangos profiad perthnasol, potensial a chymhelliad
  • Bydd myfyrwyr gyda chymwysterau tramor cyfwerth perthnasol yn cael eu hystyried
  • Gall ymarferwyr profiadol ddilyn y rhaglen os oes ganddynt gymwysterau NVQ3.

Gofynion Iaith:

  • Yn rhugl yn y Gymraeg/Saesneg, gyda chymhwyster cyfwerth â TGAU gradd C/4 neu'n uwch
  • Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Gweithdai ymarferol
  • Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
  • Siaradwyr Gwadd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
  • Tiwtorial ar-lein
  • Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol.
  • Mae'n bosibl hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Jordan Edwards (Rhaglen Arweinydd): edward2j@gllm.ac.uk

Diane Roberts (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau ymarferol a theoretig
  • Adroddiadau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Gwaith prosiect
  • Portffolios
  • Asesiad seiliedig ar waith
  • Aseiniadau grŵp / tîm
  • Llyfrau log a gwaith dyddiadur dysgu

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig datblygiad personol parhaus i unigolion sydd am gael gwaith perthnasol yn y sector neu sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd Anrhydedd ar Lefel 6. Bydd yn eich paratoi i weithio yn y diwydiant gemau ar eich liwt eich hun neu'n rhan o sefydliad mwy.

"Mae diwydiant gemau'r Deyrnas Unedig yn cyflogi dros 9,000 o ddatblygwyr hynod fedrus a chyflogir 80% o'r rhain y tu allan i Lundain. Mae gan 80% o'r rhai sy'n gweithio mewn stiwdios fel Climax, Jagex, Kuju Entertainment, Rebellion ac Ubisoft Reflections radd neu gymhwyster uwch" (Tiga, 2013).

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

Lefel 4

Rhaglennu Sylfaenol (20 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r dysgwyr i'r cysyniadau sylfaenol a ddefnyddir mewn ieithoedd rhaglennu nodweddiadol. Bydd disgwyl i'r dysgwyr ddefnyddio ystod o dechnegau safonol i greu rhaglenni sylfaenol a seilir ar resymeg. Er mai bach yw rhychwant y rhaglenni, disgwylir i gonfensiynau cywir gael eu defnyddio yn y prosiectau, o'r syniad cychwynnol i'r cynnyrch gorffenedig.

Sgiliau Astudio ym maes Gemau (10 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio’r dysgwyr drwy gyfrwng eu maes pwnc dewisol, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi’r dysgwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith.

Diwydiant a Chyflogadwyedd (20 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno gwybodaeth ehangach am y diwydiant gemau a sut i fod yn rhan ohono, tra hefyd yn edrych at sut i wella a datblygu sgiliau meddal y dysgwyr. Bydd y modiwl yn trafod materion yn ymwneud â chyflogadwyedd yn ogystal â datblygiad y sector annibynnol a manteision bod yn hunangyflogedig.

Bydd y modiwl yn edrych ar brosiectau sy'n datblygu yn y diwydiant fel Tranzfuser, UK Games Fund, Grads in Games, a Global Game Jams, sut maent yn cefnogi dysgwyr a beth yw eu manteision. Byddwn yn edrych ar effaith economaidd y diwydiant a sut y bydd gemau'n llunio'r wlad/byd.

Cyflwyniad i Fodelu ac Animeiddio 3D (20 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r dysgwyr i egwyddorion a thechnegau sylfaenol ym maes modelu ac animeiddio 3D a ddefnyddir i greu asedau ar gyfer gemau. Bydd y dysgwyr yn cael eu tywys drwy'r broses o ddatblygu syniad am fodel ac animeiddiad i'w defnyddio mewn gêm gyfrifiadur. Byddant yn cael cyfle i ddatblygu'r model a'r animeiddiad gan ddefnyddio meddalwedd priodol fel Autodesk Maya a Mudbox.

Cyflwyniad i Fodelu Cymeriadau (10 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r dysgwyr i egwyddorion a thechnegau sylfaenol ym maes modelu cymeriadau 3D. Bydd y dysgwyr yn cael eu tywys drwy'r broses o ddatblygu syniad am gymeriad i'w ddefnyddio mewn gêm gyfrifiadur. Byddant yn cael cyfle i ddatblygu'r cymeriad gan ddefnyddio meddalwedd priodol fel Autodesk Maya a Mudbox.

Creu Lefelau (10 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r dysgwyr i hanfodion dylunio lefelau sy'n nodwedd gyffredin o'r diwydiant gemau. Bydd y dysgwyr yn cael eu tywys drwy broses dulliau amrywiol o ddylunio lefel, a fydd yna'n cael ei modelu gan ddefnyddio technegau a meddalwedd o safon diwydiant.

Mecaneg Lefelau (10 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r dysgwyr i amgylcheddau rhyngweithiol drwy ddefnyddio injan gêm. Bydd y dysgwyr yn dod i ddeall y broses o greu gemau, gan gynnwys prif amcan lefel, a'r elfennau atodol y gall amgylchedd eu cynnwys. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon byddant yn dysgu sut i greu amcanion i'r lefelau, ac i gefnogi rhyngweithioldeb drwy ddefnyddio ieithoedd rhaglennu safonol y diwydiant.

Rhyngwyneb a Phrofiad Defnyddwyr (20 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol dylunio rhyngweithiol ar gyfer cyfryngau. Bydd y dysgwyr hefyd yn dod i ddeall gwerth Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI) ym maes dylunio rhyngwynebau, a sut i ymgorffori hyn mewn gemau. Yn ogystal, bydd y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o'r theorïau a'r egwyddorion sylfaenol sy'n ymwneud â chynhyrchu sain, gan gynnwys dealltwriaeth o egwyddorion recordio digidol a sut i gipio, golygu ac ymgorffori eu sain mewn rhaglen. Defnyddir y sain i gefnogi dyluniadau UI craidd, yn ogystal â gwella elfennau chwarae gêm rhaglenni sylfaenol.

Lefel 5

Modelu ac Animeiddio Cymeriadau (20 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin ymhellach allu'r dysgwr i weithio gyda modelau ac animeiddiadau 3D. Yn y modiwl hwn, bydd y dysgwyr yn edrych ar y camau sy'n angenrheidiol i greu cymeriadau sy'n barod i'w defnyddio mewn gemau cyfrifiadurol ac i baratoi'r cymeriadau hynny i ryngweithio gyda gwrthrychau mewn gemau cyfrifiadurol.

Datblygu Gemau (20 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn ymestyn gwybodaeth bresennol y dysgwyr o ddylunio a datblygu gemau. Gan adeiladu ar y ddwy ddisgyblaeth hyn, bydd dysgwyr yn gallu datblygu gemau gwreiddiol sy'n amrywio o ran cymhlethdod. Bydd y dysgwyr yn dysgu sut i baratoi amlinelliad o brosiect, a sut i gynllunio, creu a phrofi'r prosiectau terfynol i gam datblygu beta o leiaf.

Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Gemau (20 Credyd)
Nod y modiwl yw galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio amrediad o sgiliau ymchwilio priodol i astudio'r diwydiannau creadigol yn gyffredinol a datblygu gemau'n benodol. Drwy gyfrwng prosiect ymarferol estynedig, bydd y modiwl yn eu paratoi i astudio ymhellach ar Lefel 6, neu i gael gyrfa mewn maes sy'n gysylltiedig â'r ymchwil.

Technegau Goleuo a Rendro (10 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i oleuo, rendro a chyflwyno’u gwaith i safon broffesiynol. Bydd y dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth bellach o'r broses oleuo ar gyfer canlyniadau amrywiol, a'r broses rendro sy'n caniatáu iddynt gael eu gweld.

Prosiect Seiliedig ar Fethodoleg (20 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi profiad ymarferol i'r dysgwyr o gynllunio a gweithredu prosiect gemau wrth ddilyn methodoleg a ddewiswyd ganddynt. Bydd y dysgwyr yn dysgu am amrywiaeth o ddulliau gweithio cyfredol a bydd disgwyl iddynt wneud dewis gwybodus ar ba fethodoleg a fyddai'n gweddu i brosiect eu grŵp. Bydd gweithio mewn grŵp yn caniatáu i brosiect mwy gael ei gyflawni nag a fyddai'n ymarferol wrth weithio'n unigol. Bydd unigolion yn cyfrannu at ddyluniad cychwynnol y prosiect ac yna'n cyflawni tasgau y cytunwyd arnynt i gwblhau'r cynnyrch. Mae'r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd cael cynllun prosiect cydlynol, adolygu cynnydd yn rheolaidd a gweithio mewn grŵp yn effeithiol.

Datblygu Realaeth Gymysg (10 Credyd)
Yn y modiwl hwn, bydd y dysgwyr yn datblygu cynnwys ar gyfer parthau realaeth gymysg. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y farchnad bresennol o raglenni realaeth gymysg, ac ar strategaeth weithredu bosibl ar gyfer cais a gynllunnir. Bydd y dysgwyr yn gwerthfawrogi'r platfform targed wrth gynhyrchu dogfennau cynllunio ar gyfer eu rhaglen, tra hefyd yn dysgu sut i ystyried gofod a graddfa mewn perthynas â realaeth gymysg. Bydd y dysgwyr yn dysgu sut i fynd ati'n gywir i ddatblygu cynnwys ar gyfer realaeth gymysg a pha lyfrgelloedd rhaglennu fydd angen iddynt eu defnyddio.

Profi ac Optimeiddio (10 Credyd)
Ar y rhaglen bydd y dysgwyr yn datblygu ystod o raglenni a fydd yn amrywio o ran math, maint a chymhlethdod. Fodd bynnag, er mwyn datblygu prosiectau mewn modd proffesiynol, dylai technegau a safonau penodol fod ar waith i sicrhau bod prosiect yn gallu tyfu neu gael ei ddefnyddio'n effeithlon ar ystod o lwyfannau gan gynnwys datblygu effeithlon, a strategaethau profi cywir.

Dylunio a Defnyddio Gwead (10 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin ymhellach allu'r dysgwyr i greu gweadau a deunyddiau y gallant eu cymhwyso i fodelau presennol. Bydd y dysgwyr yn dod i ddeall y prosesau o greu deunyddiau a gweadau PBR o'r dechrau, ac yn defnyddio meddalwedd diwydiant safonol a pherthnasol i gynorthwyo'r broses.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser