Partneriaeth newydd rhwng Rondo Media a Choleg Menai yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalentau creadigol yng ngogledd Cymru
Mae RONDO Media wedi lansio ysgoloriaeth arbennig i ddysgwyr sy'n astudio'r celfyddydau creadigol yng Ngholeg Menai.
Mae ‘Ysgoloriaeth Huw Geth’ yn cael ei lansio eleni er cof am y diweddar Huw Gethin Jones, ac fe'i sefydlwyd ar y cyd gan ei wraig, Teleri a Rondo Media. Cyn ei farwolaeth yn 2021 yn sgil cymhlethdodau gyda Covid, roedd Huw yn gweithio fel golygydd i'r cwmni teledu.
Mae cyfle i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau Teledu a Ffilm, Cyfryngau, Cerddoriaeth, a Chelfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai wneud cais am yr ysgoloriaeth sy'n werth £1,000. Bwriad yr ysgoloriaeth yw cefnogi datblygiad gyrfa'r dysgwyr, a bydd hefyd yn cynnwys cyfleoedd mentora pwrpasol gan weithwyr profiadol yn Rondo Media.
Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei chynnal am ddeng mlynedd ac mae'n rhan o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng y ddau sefydliad. Mae'r memorandwm yn nodi'r trefniadau ar gyfer darparu cefnogaeth a phrofiadau gwerthfawr i ddysgwyr celfyddydau creadigol a chyfryngau Coleg Menai.
Mae'r cyrsiau Celfyddydau Creadigol sy'n cael eu cynnig ar gampws newydd Bangor ym Mharc Menai yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio cyfleusterau o'r un safon ag a geir yn y diwydiant. Mae'r rhain yn cynnwys camerâu fideo proffesiynol, stiwdio sgrin werdd ac ystafell reoli, stiwdio gerdd sy'n cynnwys yr offer a'r dechnoleg ddiweddaraf, theatr, a sawl stiwdio ddawns.
Bydd y bartneriaeth â Rondo Media yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i'r dysgwyr, gan gynnwys profiad gwaith ymarferol ar set y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd. Bydd y dysgwyr yn cael profiadau ymarferol o flaen y camera a thu ôl i'r llenni.
Drwy gydol y flwyddyn academaidd bydd staff Rondo Media yn cyflwyno darlithoedd, dosbarthiadau meistr, a gweithdai i ddysgwyr Coleg Menai.
Yn ogystal, yn sgil y memorandwm bydd Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig hyfforddiant pwrpasol a chyrsiau datblygiad proffesiynol i staff Rondo Media.
Meddai Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai:
“Rydyn ni'n falch iawn o gael ymuno â Rondo Media i gynnig yr ysgoloriaeth hon. Yn ogystal â'r gwaith cydweithredol ehangach a amlinellir yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, bydd yn rhoi cyfleoedd anhygoel i'n dysgwyr ddatblygu'r sgiliau a'r profiadau a fydd yn eu helpu i wneud argraff yn y sector Ffilm a Theledu.”
“Mae ein dysgwyr celfyddydau creadigol eisoes yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol sydd i'w cael ar gampws newydd Bangor, ac yn awr bydd y bartneriaeth gyffrous hon â Rondo Media yn gwella eu cyfleoedd gyrfa drwy ddod â nhw i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol a rhoi profiadau go iawn iddyn nhw yn y diwydiant.”
Meddai Bedwyr Rees, Cyfarwyddwr Rondo Media ac Uwch Gynhyrchydd,
“Mae'r bartneriaeth hon â Grŵp Llandrillo Menai yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygiad diwydiant creadigol cynaliadwy a llewyrchus yng Nghymru. Mae'r diwydiant ffilm a theledu yn ddibynnol ar greadigrwydd, gweledigaeth ac egni.
“Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn rhoi sylfaen i ni ar gyfer adnabod a meithrin pobl ifanc dalentog a brwdfrydig a'u helpu i gael dyfodol llwyddiannus.
“Roedd Huw Gethin Jones yn aelod amryddawn o staff Rondo ac rydyn ni'n cofio'n annwyl iawn amdano. Fel gŵr a oedd yn meddwl y byd o'i deulu, mae'n gwbl addas bod Ysgoloriaeth Huw Geth yn mynd tuag at gefnogi pobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu gyrfa yn y celfyddydau creadigol.”
Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C,
“Roeddwn i'n darlithio i Huw Gethin ym mhrifysgol Bangor ac roedd yn fyfyriwr brwdfrydig, ymroddgar ac aeddfed a oedd wedi rhoi ei fryd ar weithio yn y cyfryngau. Trefnodd nifer o gyfnodau profiad gwaith iddo'i hun gan feistroli'r grefft o olygu a llwyddo i gael swydd.
“Treuliodd ei yrfa yn golygu rhaglenni ar gyfer S4C ac fe gollwyd gŵr talentog a hoffus yn llawer rhy gynnar. Mae’n wych fod cwmni Rondo am gefnogi dysgwyr y dyfodol gyda'u hastudiaethau er cof am Huw – fedra i ddim meddwl am neb gwell i’w hysbrydoli.