Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diwydiant Twristiaeth Llandudno yn elwa o Hwb Ariannol

Bydd busnesau ym maes twristiaeth yn Llandudno yn elwa o fuddsoddiad werth £825,000 gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth Prydain (UKCRF) diolch i Hwb Arloesi Twristiaeth Llandudno.

Bydd amrywiaeth o fentrau a chymhellion ariannol ar gael i fusnesau ym maes twristiaeth i geisio hybu twf busnes ac annog arloesedd yn y dref sydd eisoes yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr.

Bydd Busnes@LlandrilloMenai yn arwain y prosiect a fydd yn rhedeg o fis Ionawr tan fis Mehefin 2022. Bydd yn adeiladu ar boblogrwydd y dref fel cyrchfan gwyliau, yn helpu gyda'r gwaith o adfer a gwella yn dilyn Covid-19 ac yn mynd i'r afael â'r prif heriau sy'n wynebu'r diwydiant, yn arbennig denu talent ar gyfer y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi cael ei groesawu'n lleol. Dywedodd Chris Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Alpine, Gogledd Cymru:

"Does dim dwywaith fod poblogrwydd 'gwyliau gartref' 2020/21 wedi sicrhau lle haeddiannol i Landudno ymhlith cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Prydain.

Os ydym ni fel cyrchfan, am wneud y mwyaf a manteisio ar y poblogrwydd a'r cyhoeddusrwydd hwn, rhaid sicrhau bod gan y dref a'i busnesau y sgiliau angenrheidiol. Rwyf wrth fy modd clywed bod y bid hwn wedi bod yn llwyddiannus ac mae gennym gyfle nawr i ddod â'n breuddwyd yn wir."

Bydd Busnes@LlandrilloMenai yn cyflwyno'r prosiect ar y cyd â Mostyn Estates a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Dywedodd Edward Hiller, Cyfarwyddwr Mostyn Estates:

"Prin yw'r heriau y mae diwydiant lletygarwch Llandudno wedi gorfod eu hwynebu sy'n debyg i'r heriau presennol a heriau sydd i ddod yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae pobl yn meddwl bod gweithio yn y diwydiant hwn yn golygu gweithio oriau hir, gwaith tymhorol a diffyg cyfleoedd i ddatblygu. Mae hyn i gyd wedi effeithio ar recriwtio.

Mae Gogledd Cymru yn fwy poblogaidd nag erioed, felly mae'n rhaid canolbwyntio ar feithrin sgiliau'r rhai sy'n rhan o'r diwydiant a datblygu datrysiadau arloesol, er mwyn i'r dref allu arwain y ffordd fel cyrchfan wyliau o'r radd flaenaf. Rwyf wrth fy modd clywed bod y bid hwn wedi bod yn llwyddiannus ac y gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith yn syth."

Nod y prosiect yw darparu: -

Hwb Arloesi - gofod cyd-weithio yng nghanol y dref i fusnesau ddod at ei gilydd i arloesi.

Rhaglen Arloesi - Gweithgareddau sy'n mynd i'r afael â themâu newydd yn y sector, yn cynnwys adfywio trefi drwy gyfrwng twristiaeth, twristiaeth sero net, meithrin talent ar gyfer y dyfodol ac ymestyn y tymor.

Dal gafael i arloesi - Cymhorthdal cyflog unigryw i ddal gafael ar staff tymhorol y tu allan i'r tymor gwyliau. Bydd cyflogwyr yn ymrwymo i gymryd rhan mewn gweithgaredd arloesol sy'n gysylltiedig â'u busnes. Bydd sesiynau gwybodaeth ar-lein am Ddal gafael i arloesi, yn cael eu cynnal 14/12/2021 a XX/01/2022 ceir gwybodaeth archebu yma: dolen.

Eiddo Dros dro 'Pop-up' - Ar y cyd â Mostyn Estates - bydd eiddo busnes newydd ar gael, yn cynnwys unedau siopau i brofi cynhyrchion newydd ar y farchnad a mentrau busnes.

Creu Rhwydwaith Talent - Gweithgareddau i dynnu sylw darparwyr allweddol ym maes twristiaeth. Gweithio ar y cyd i greu rhaglenni hyfforddi a datblygu sgiliau i fynd i'r afael â'r her recriwtio a sicrhau bod y diwydiant yn apelio at fwy o bobl o ran gyrfa.

Hwb Arloesi Twristiaeth Llandudno, £825,000 gan Lywodraeth Prydain drwy gyfrwng Cronfa Adfywio Cymunedol Prydain.

Os hoffech wybod rhagor yna ffoniwch 08445 460 460, neu anfonwch neges e-bost athomas@gllm.ac.uk

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i
www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus