Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyrsiau Prifysgol mewn Celfyddydau Coginio

Hoffech chi ddilyn gyrfa gyffroes yn y Celfyddydau Coginio?? Does dim angen i chi edrych ymhellach! Mae gan Grŵp Llandrillo Menai'r dewis mwyaf o gyrsiau gradd arbenigol a chyrsiau lefel prifysgol yng Nghymru.

Eleni rydym yn nodi 50 mlynedd ers i Goleg Llandrillo gynnig cwrs addysg uwch yn LLandrillo-yn-Rhos am y tro cyntaf: HND mewn Lletygarwch

Yn ôl ystadegau, mae'r nifer sy'n dilyn cyrsiau lefel prifysgol wedi cynyddu'n rheolaidd flwyddyn wrth flwyddyn. Erbyn heddiw, mae oddeutu 1,200 o fyfyrwyr Addysg Uwch yn astudio ar 50 o gyrsiau gradd yn nhri choleg Grŵp Llandrillo Menai: Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae dros 400 o fyfyrwyr yn graddio bob blwyddyn yn seremoni arbennig y Grŵp yn Llandudno, a nifer o'r rheiny yn derbyn graddau dosbarth cyntaf.

Un sector sy'n ffynnu ar hyn o bryd yw'r sector Celfyddydau Coginio. . Mae cwrs Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Coginio'r coleg yn rhaglen israddedig dwy neu dair blynedd o hyd, yn ddibynnol ar astudio yn llawn amser neu'n rhan amser - a gallwch ddewis dilyn blwyddyn arall yn y coleg er mwyn ennill gradd BA llawn mewn Celfyddydau Coginio. Mae'r rhaglenni arbenigol hyn yn cyflwyno arbenigedd i chi, cymhwyster cydnabyddedig a'r cyfle i gael mynediad i sefydliadau coginio a gastronomic arloesol.

Grŵp Llandrillo Menai ydy unig ddarparwr achrededig y cyrsiau hyn yng Nghymru, ac un o ddim ond llond llaw o sefydliadau yn y DU i gyd! Mae'r ystadegau'n dangos bod y mwyafrif o raddedigion y cyrsiau hyn yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau llawn amser neu i agor eu busnesau eu hunain.

Yn ddiweddar, cafodd adrannau Lletygarwch y coleg radd 'Rhagorol' gan Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Canmolodd yr arolygwyr y cyfleoedd arloesol a roddir i ddysgwyr "gyfranogi mewn ystod o brosiectau medrau a chyflogadwyedd rhyngwladol" ac "i gael profiad gwerthfawr iawn yn gysylltiedig â gwaith mewn amgylchedd proffesiynol".

Y maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo yw’r unig un yng Nghymru sy’n darparu cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, mewn Celfyddydau Coginio a Rheoli ym maes Lletygarwch. Ac yn ogystal â hyn, mae gan adran Lletygarwch a Rheoli Coleg Llandrillo ystod eang o offer o safon y diwydiant, ac fe gyflwynir y cyrsiau gan dîm arbenigol o diwtoriaid profiadol... ac mae rhai ohonynt yn gyn-fyfyrwyr Coleg Llandrillo.

Dilyswyd a dyfernir y cyrsiau gan Brifysgol Bangor, ac maen nhw'n canolbwyntio ar gynnig amrywiaeth o sgiliau ym maes y celfyddydau coginio fydd yn eich paratoi ar gyfer byd modern lletygarwch a rheoli.

Mae ymarferwyr y Celfyddydau Coginio yn gweithio mewn gwestai, bwytai, tafarndai, canolfannau cynadledda, canolfannau chwaraeon a chanolfannau corfforaethol, busnesau arlwyo a sefydliadau eraill ym maes coginio a lletygarwch.

Mae diwydiant lletygarwch y DU, y trydydd diwydiant mwyaf yn nhermau cyflogaeth, yn cyflogi 10% o'r gweithlu sef 3.2 miliwn o bobl yn uniongyrchol.*

Dywedodd Mike Garner, Darlithydd yn y Celfyddydau Coginio yng Ngholeg Llandrillo: “Mae'r coleg, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, ac fel un o ddim ond llond llaw o sefydliadau sy'n cynnig gradd mewn Celfyddydau Coginio, yn falch iawn o'r graddedigion a'u cyflawniadau. Ein teimlad yw ein bod wedi cyrraedd croesffordd yn y diwydiant lletygarwch ac rydym yn barod i gynorthwyo'r genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol ym maes coginio a lletygarwch i lywio'r diwydiant tuag at y dyfodol. Mae'n fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o ddatblygiad unigryw'r myfyrwyr.”

Meddai Danny White-Meir, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo a pherchennog Enoch's Fish and Chips (siop Pysgod a Sglodion ffasiynol yng Nghyffordd Llandudno): "Mae'n amlwg i mi fod y coleg yn benderfynol o gwrdd â disgwyliadau myfyrwyr a gofynion y diwydiant lletygarwch. Mae agwedd broffesiynol ac arddull feddylgar darlithwyr tuag at y dysgu yn amlwg a gallwch weld effaith hynny ar safon arbennig myfyrwyr wrth iddynt fynd ymlaen i'r diwydiant ac arddangos y sgiliau hanfodol, a'r wybodaeth fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach."

Os hoffech ragor o wybodaeth am gyrsiau gradd mewn Celfyddydau Coginio gyda Grŵp Llandrillo Menai, ewch i'r wefan www.gllm.ac.uk, anfonwch e-bost at gereralenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 542 338. <mailto:generalenquiries@gllm.ac.uk>

* ITProPortal