Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo yn Dathlu Myfyrwyr Rhagorol 2024/25

Y coleg yn cynnal ei Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr blynyddol yn Venue Cymru i gydnabod dysgwyr sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn academaidd

Mae Coleg Llandrillo wedi bod yn dathlu myfyrwyr rhagorol 2024/25 mewn Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr blynyddol yn Venue Cymru.

Enwyd Isla Middleton yn 'Gyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn', ar ôl cael ei derbyn i astudio cwrs Meddygaeth Sylfaen ym Mhrifysgol Lerpwl yn dilyn “taith academaidd anhygoel” yn y Coleg.

Roedd hi'n un o 20 o fyfyrwyr addysg bellach a gafodd gydnabyddiaeth yn y seremoni am ragori yn eu pynciau (gweler y rhestr lawn o enillwyr isod).

Mwynhaodd yr enillwyr araith gan y cogydd enwog Bryn Williams, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant gyda theulu a ffrindiau yn Llandudno.

Bob blwyddyn, mae darlithwyr yn enwebu myfyrwyr am wobr, a phennaeth yr adran berthnasol wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer pob maes rhaglen. Cyflwynir tlws i bob enillydd yn y seremoni, cyn cyhoeddi enw Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn ar ddiwedd y noson.

Cofrestrodd enillydd cyffredinol eleni, Isla, ar y cwrs Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddoniaeth) flwyddyn yn ôl, gan obeithio, i ddechrau, i ddod yn barafeddyg.

Yn y seremoni ddydd Mawrth, dywedodd Pennaeth Coleg Llandrillo, Paul Flanagan, fod hyder Isla wedi tyfu cymaint wrth astudio fel ei bod hi bellach yn cymryd camau tuag at ei breuddwyd o ddod yn feddyg.

Dywedodd: “Fel llawer o’n myfyrwyr Mynediad, mae’r dysgwr hwn wedi bod ar daith academaidd anhygoel.

“Gan ymuno â’r cwrs yn wreiddiol i ddod yn barafeddyg, mae hyder cynyddol a llwyddiant academaidd y dysgwr hwn wedi ysbrydoli uchelgais newydd - i ddilyn gyrfa mewn meddygaeth, llwybr a oedd hi unwaith yn ystyried oedd y tu hwnt i'w chyrraedd.

“Rydym yn hynod falch bod y dysgwr hwn wedi cael ei derbyn i astudio Meddygaeth Sylfaen ym Mhrifysgol Lerpwl. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei hastudiaethau ac wrth gyflawni ei nod o ddod yn feddyg yn y GIG.”

Cyflwynwyd tlws Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn i Isla, ynghyd â thaleb gwerth £200 gan Brif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Aled Jones-Griffith.

Myfyrwraig arall sy'n mynd ymlaen i astudio meddygaeth yw Charlotte Smith, a enillodd Wobr Cyflawnwr Lefel A y Flwyddyn.

Mae Charlotte wedi cyflawni'r graddau uchaf yn gyson yn ei harholiadau Lefel A wrth wirfoddoli mewn ysbytai lleol a gweithio 16 awr yr wythnos mewn cartref gofal. Mae hi wedi derbyn cynigion gan brifysgolion blaenllaw.

Hefyd ymhlith yr enillwyr roedd y fyfyrwraig Trin Gwallt Lefel 3, Heather Wynne. Cyrhaeddodd Heather rownd derfynol genedlaethol cystadleuaeth WorldSkills y DU y llynedd ac enillodd le ar Ysgoloriaeth Calligraphy Cut - a hynny i gyd wrth redeg busnes llwyddiannus a magu ei dau o blant.

Enillydd arall oedd dysgwr Chwaraeon Lefel 3, Garmon Edwards-Jones, sydd ar y trywydd iawn i ennill tair gradd ragoriaeth ac a gafodd ganmoliaeth am ei waith yn hyfforddi myfyrwyr ag anawsterau dysgu dwys.

Gwnaed cyflwyniadau hefyd yn ystod y seremoni i fyfyrwyr a enillodd fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, yn ogystal â'r rhai a gynrychiolodd Cymru yn y maes chwaraeon. Y myfyrwyr a dderbyniodd gapiau am eu cyflawniadau chwaraeon oedd: Phoebe Griffiths (pêl-droed), Cara Mercier (rygbi) ac Elis Jones (traws gwlad).

Yn ystod y seremoni, rhoddodd Bryn Williams araith yn olrhain ei daith o astudio yng Ngholeg Llandrillo i ddod yn gogydd o fri rhyngwladol. Mae Bryn, perchennog bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias a Phrif Gogydd y Cambrian yn Alpau'r Swistir, yn gweithio gyda Choleg Llandrillo ar hyn o bryd i ddatblygu Rhaglen Llysgenhadon, gan gefnogi datblygiad sgiliau myfyrwyr mewn lletygarwch a chelfyddydau coginio.

Wrth ddod â'r seremoni i ben, dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Wel am noson arbennig! Yn sicr, mae wedi bod yn brofiad gwych i'r enillwyr ac yn noson i'w chofio i'w teuluoedd a'u ffrindiau.

"Mae gennym dros 30,000 o ddysgwyr ac rydym yn cael rhai o'r canlyniadau a'r cyfraddau llwyddo gorau yng Nghymru. Gall y rhai hynny ohonoch sydd wedi ennill gwobrau heno deimlo'n falch iawn eich bod wedi cael eich enwebu. Rydw i'n sicr y cewch chi i gyd ddyfodol llwyddiannus."

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Coleg Llandrillo 2024/25:

Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn / Mynediad i AU: Isla Middleton

Sgiliau Bywyd a Gwaith Ryan Wilson

Lefel A: Charlotte Smith

Celf a Dylunio⁠: Jodie Roberts

Busnes: Lily Scott-Jones

⁠Gofal Plant : Morgan Gavin

Cyfrifiadura: Osian Gerallt

Adeiladu: Kieran Taylor-Morgan

Peirianneg: Zack Arnold

⁠Gwallt a Harddwch: Heather Wynne

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Emily Hatton-Hunter

Lletygarwch ac Arlwyo: Isaac Williams

⁠Cyfryngau: Finlay Jones

Cerbydau Modur: Rhys Whitmore

Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio: Reuben Neary

Gwasanaethau Cyhoeddus: Liam Parson

⁠Chwaraeon: Garmon Edwards-Jones

Teithio a Thwristiaeth: Ellie Safhill

Gallai Dysgu Oedolion yn y Gymuned: Ann Lynchill

Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn: Bethan James

Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau addysgol a chyrsiau hyfforddi yng ngogledd Cymru, o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau i gyrsiau Lefel A, graddau a chymwysterau proffesiynol.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date