Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bryn a Geraint, ein harbenigwyr EuroSkills, yn paratoi ar gyfer WorldSkills 2026

Roedd y darlithwyr Coleg Menai yn feirniaid yng nghystadleuaeth sgiliau fwyaf mawreddog Ewrop yn ddiweddar, a byddant yn ail-ymddangos yn eu rolau yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' y flwyddyn nesaf

Yn dilyn eu profiad fel beirniaid yn EuroSkills, mae darlithwyr peirianneg Coleg Menai, Geraint Rowlands a Bryn Jones, yn paratoi ar gyfer cystadlaethau WorldSkills Shanghai 2026.

Y flwyddyn nesaf bydd Geraint a Bryn yn mynd i Tsieina yn eu rolau fel Rheolwyr Hyfforddiant Worldskills UK ar gyfer y categorïau Electroneg Ddiwydiannol a Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen!

Dros y misoedd nesaf byddant yn hyfforddi ac yn asesu'r ymgeiswyr yn eu disgyblaethau priodol, cyn iddynt ddewis un cystadleuydd bob un i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' (Medi 22 i 27).

Yn Shanghai, bydd Geraint a Bryn yn arbenigwyr ar y paneli beirniadu ar gyfer eu disgyblaethau hefyd, ar ôl gwneud yr un peth yng nghystadleuaeth Euroskills 2025 yn Nenmarc y mis hwn.

Cystadlodd tua 600 o bobl ifanc o bob cwr o Ewrop ar draws 38 o sgiliau yn Herning, ac roedd 103,000 o ymwelwyr yn gwylio - gan gynnwys gweinidog sgiliau'r DU, Jacqui Smith, a hyd yn oed Brenin Denmarc.

“Mae o wir fel y Gemau Olympaidd,” meddai Bryn, a oedd hefyd yn arbenigwr yng nghystadleuaeth WorldSkills yn Lyon y llynedd. “Mae’n awyrgylch lle mae pawb yn cydweithio - yr holl wledydd yn gweithio gyda’i gilydd er lles y gystadleuaeth. Mi allwch chi weld yr ethos hwnnw yn y seremoni agoriadol a'r seremoni gloi - a'r neges mai Ewrop ydan ni, a dyma sy'n ein huno ni.”

Er nad oedd cystadleuaeth gweithgynhyrchu haen-ar-haen yn Herning, derbyniodd Bryn alwad funud olaf i helpu i feirniadu'r gystadleuaeth peirianneg fecanyddol (dylunio â chymorth cyfrifiadur).

Roedd Geraint yn un o'r beirniaid ar gyfer creu prototeip electroneg, lle'r oedd myfyriwr o Goleg Menai, ac un sy'n gobeithio cyrraedd WorldSkills, Evan Klimaszewski, yn cystadlu. Yn erbyn cystadleuwyr â llawer mwy o brofiad, wnaeth Evan ddim ennill medal, ond serch hynny cyflawnodd sgôr uwch nag a gafodd mewn unrhyw gystadleuaeth neu dasg hyfforddi flaenorol.

Dywedodd Geraint: “Mi wnaeth Evan yn well na chystadleuydd o Sbaen a gystadlodd yn WorldSkills y llynedd. Mi ddaeth allan yn bownsio ac yn dweud ‘Rydw i eisiau mynd adref a mynd yn syth yn ôl i hyfforddi a gwella fy sgiliau er mwyn i mi allu gwneud yn well y tro nesaf’.”

Yn ogystal â chynorthwyo gyda rhedeg cystadleuaeth sgiliau fwyaf Ewrop, cafodd Geraint a Bryn syniadau i lywio eu haddysgu, gan eu cadw ar flaen y gad ym maes addysg sgiliau.

Dywedodd Geraint: “Roedden ni’n gweithio ochr yn ochr â chyd-arbenigwyr yn ein disgyblaethau o wledydd eraill ledled Ewrop. Felly roedd yn gyfle da i ddod o hyd i syniadau a dulliau newydd, a meddwl am sut y gallwn ni eu hintegreiddio i'n haddysgu yn y coleg neu i'n hyfforddiant ar gyfer cystadlaethau sgiliau, gyda'r nod o roi'r paratoad gorau posibl i'n myfyrwyr ar gyfer gwaith, ac adeiladu eu sgiliau gymaint â phosibl.”

Dywedodd Bryn: “Mae sgiliau’n esblygu fel unrhyw grefft. Yn amlwg, mae'r safon yn parhau i godi drwy gydol y gystadleuaeth, a phan fyddwch chi ar ddiwedd cystadleuaeth rydych chi'n trafod gyda'r arbenigwyr eraill pa newidiadau y dylid eu gwneud i'r ddisgyblaeth honno.

“Felly rydych chi’n llythrennol ar flaen y gad o ran sut mae’r sgiliau’n esblygu. Er enghraifft, gallem drafod deallusrwydd artiffisial, be ydy goblygiadau hynny i wahanol sgiliau, sut y gellir ei integreiddio ac yn y blaen.

“Mi allai’r newidiadau hynny effeithio ar addysg ymhen tair blynedd. Ond rydyn ni ar flaen y newidiadau hynny, felly mi allwn ni gyfleu'r neges yn gynnar i'n myfyrwyr - bodloni gofynion presennol y cwricwlwm yn amlwg, ond mynd y tu hwnt iddo hefyd.”

I Evan, EuroSkills oedd ei brofiad cyntaf o gystadleuaeth ryngwladol wrth iddo ymdrechu i gyrraedd tîm y DU ar gyfer WorldSkills 2026. Dewiswyd y myfyriwr peirianneg HNC yn ei ail flwyddyn ar ôl iddo ennill y fedal aur yn rowndiau terfynol WorldSkills UK y llynedd, ac mae'n un o ddau ymgeisydd electroneg sy'n cystadlu am le ar yr awyren i Tsieina.

Bydd WorldSkills yn gam arall ymlaen, gyda llawer o wledydd yn hyfforddi cystadleuwyr yn llawn amser ar gyfer y gystadleuaeth sy'n cael ei chynnal pob dwy flynedd.

Dywedodd Geraint: “Mae WorldSkills yn gystadleuaeth llawer mwy llym oherwydd bod rhai gwledydd yn recriwtio pobl yn syth o'r ysgol uwchradd i dreulio pum mlynedd yn gweithio’n llawn amser ac yn hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills yn y dyfodol, tra ein bod ni yn ei wneud fel ychwanegiad at eu haddysg gyffredin.

“Mae Evan yn rhoi ei ben i lawr ac yn sicrhau ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu i gael ei ddewis. Mae ganddo ei fryd ar Shanghai ar hyn o bryd.”

Dywed Bryn y gall cyfranogiad Evan yn EuroSkills ysbrydoli ei gyd-fyfyrwyr hefyd, ychwanegodd: “Rydw i wedi bod yn dangos lluniau o Evan yn cystadlu i fy myfyrwyr, oherwydd roedd o yn eu sefyllfa nhw ychydig flynyddoedd yn ôl. Felly maen nhw'n deall ei fod yn bosibilrwydd, y gallai o fod yn nhw, a bod yn rhaid i chi fanteisio ar gyfle.”

Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau o Lefel 1 hyd at Brentisiaethau Uwch. Darllenwch ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date