Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr CMD o Ddolgellau wedi ei dewis ar gyfer Origins Creatives 2022

Mae Ffion Pugh, sy'n astudio ar gyfer Diploma L3 UAL mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, wedi ei dewis allan o 500 o ymgeiswyr o golegau ledled y wlad i arddangos ei gwaith yn Origins Creatives yn Llundain. Roedd posteri “Lockdown” Ffion yn wirioneddol yn sefyll allan, ar unig waith dwyieithog yn yr arddangosfa.

Ar ôl cyfnod hir o stasis ac unigedd oherwydd y pandemig, mae angen cyfleoedd ar bobl o bob oed a chefndir i ail gysylltu â dysgu a rhannu eu syniadau a’u profiadau â chynulleidfaoedd ehangach. Mae Arddangosfa UAL ORIGINS CREATIVES yn cynnig cyfle o’r fath, gan gynnig cyfle i dros 150 o fyfyrwyr o bob rhan o’r wlad gyflwyno eu gwaith yn gyhoeddus.

meddai Martin Evans, pennaeth yr Adran Celf a Dylunio yn Nolgellau

“Roedd yn noson wych iawn ym Mragdy Truman yn Shoreditch, Llundain, ar 21 Gorffennaf. Mor braf bod yn rhan o rywbeth mor llawen i ddathlu creadigrwydd artistiaid a dylunwyr ifanc.

Cyflwynwyd yr holl waith creadigol mor broffesiynol, a chafwyd geiriau calonogol hefyd gan siaradwyr gwadd o’r diwydiannau creadigol, yn enwedig Grayson Perry.”

Gellir gweld gwaith Ffion ymhlith ystod amrywiol o beintio, ffotograffiaeth, lluniadu, cerflunwaith, ffasiwn, graffeg a mwy ar oriel ar-lein Origins Creatives yn:

https://www.arts.ac.uk/partner...

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y celfyddydau creadigol ac yr hoffech astudio Celf a Dylunio, yna bydd ein cyrsiau yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn eich paratoi ar gyfer cam nesaf eich taith greadigol.

Mae cyrsiau yn cynnwys:

Diploma L2 mewn Celf a Dylunio

Diploma L3 mewn Celf a Dylunio

Diploma Estynedig L3 mewn Celf a Dylunio

Cwrs Sylfaen L3/L4 mewn Celf a Dylunio

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais - https://www.gllm.ac.uk/why-cho...