Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Cymryd Rhan mewn Digwyddiad Adeiladu-Tîm y Llynges Frenhinol

Mynychodd myfyrwyr o adran Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Llandrillo ddiwrnod adeiladu-tim gyda chynrychiolwyr o'r Llynges Frenhinol, lle cymerasant ran mewn ystod o ymarferion ymarferol a rhai wedi eu lleoli yn yr ystafell ddosbarth.

Nod y digwyddiad oedd dangos i fyfyrwyr mai cyfathrebu ardderchog yw'r gonglfaen ar gyfer rheoli ac effeithlonrwydd cyffredinol mewn unrhyw sefyllfa.

Bu'n rhaid i'r myfyrwyr Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Gwasanaethau Amddiffynnol weithio fel tîm, gan drafod, cyfathrebu a blaenoriaethu yn rheolaidd, er mwyn cwblhau'r heriau yn llwyddiannus. Gall y sgiliau trosglwyddadwy a ddysgwyd ar y diwrnod gael eu cymhwyso i unrhyw swydd neu yrfa.

Mae'r cwrs Gwasanaethau Amddiffynnol yn archwilio amrywiol agweddau o'r gwasanaethau cyhoeddus lifrog, gan herio gallu corfforol a meddyliol, ac wedi ei gynllunio i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y lluoedd arfog, heddlu, gwasanaeth ambiwlans, gwasanaeth tan, gwasanaeth carchar a sefydliadau eraill cysylltiedig â'r gymuned a'r gwasanaeth argyfwng.

Siaradodd yr ymwelwyr â champws Llandrillo-yn-rhos ynglŷn â'r ystod o rolau gweithredol o fewn y Llynges Frenhinol, a hefyd y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael.

Rhoesant ddau sesiwn ymarferol yn cynnwys ymarferion adeiladu-tîm a senarios arweinyddiaeth, a oedd yn herio pob dysgwr.

Un o'r sefyllfaoedd oedd "tro ar sgis", lle roedd timau o bedwar myfyriwr - a oedd ar yr un set o sgis - yn gorfod dibynnu ar eu harweinwyr unigol i ddefnyddio ei sgiliau arweinyddiaeth ef neu hi ei hun mewn ymgais i arwain y grwp i fuddugoliaeth.

Dywedodd Ian Marshall, cydlynydd cwrs Gwasanaethau Amddiffynnol Lefel 3: "Cafodd y dysgwyr a'r staff ddiwrnod ardderchog gyda thîm y Llynges Frenhinol. Diddanwyd y myfyrwyr gyda sawl sefyllfa o arweinyddiaeth a gwaith tîm ymarferol a fydd yn trosglwyddo i'w modiwlau gwaith tîm ac arweinyddiaeth. Rhoddodd Andy ac Edmund olwg realistig i'r myfyrwyr o’r hyn mae'r Llynges Frenhinol ynglŷn ag ef, drwy storïau bywyd go-iawn a chyflwyniadau wedi eu saernio yn dda iawn. "

Roedd yr adborth a gafwyd ar y diwrnod yn gadarnhaol iawn: "Roedd yn addysgiadol iawn ac yn hwyl hefyd", "diddorol iawn ac yn rhoi mewnwelediad", "pynciau diddorol" ac "roedd llawer i'w ddysgu o'r sesiynau".

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk