Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Trefnu Cynhadledd Yrfaoedd ym maes Teithio a Thwristiaeth

Trefnodd myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Coleg Llandrillo gynhadledd yrfaoedd yn cynnwys seminarau, arddangosfeydd, gweithdai a stondinau rhyngweithiol gan amrywiaeth eang o sefydliadau teithio a thwristiaeth adnabyddus... a'r cwbl o dan gyfyngiadau caeth COVID-19.

Treuliodd y myfyrwyr Lefel 3 o gampws Llandrillo-yn-Rhos, fisoedd yn paratoi, hyrwyddo a marchnata'r digwyddiad deinamig.


Yn ystod y gynhadledd cynigiwyd gwybodaeth am ddewisiadau gyrfaoedd gan rai sy’n gweithio yn y diwydiant, a chyfleoedd i ddysgu am gyfleoedd i gael profiad gwaith..

Cyflwyniad gan fyfyrwyr agorodd y digwyddiad, gydag anerchiad gan Bennaeth y coleg, Lawrance Wood, ac yna rhoddwyd cyfle i'r rhai oedd yn bresennol fynd i weld y cyfleusterau yn yr adran Teithio a Thwristiaeth. Estynnwyd gwahoddiad i gyflogwyr aros am bryd o fwyd wedi'i baratoi a'i weini gan fyfyrwyr sy'n dilyn y cwrs Lefel 2 mewn Lletygarwch.

Llwyddodd y trefnwyr i ddenu cynrychiolwyr o ystod eang o fusnesau o faes Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau: Adventure Parc Snowdonia, Hilton Garden Inn and Spa, Digwyddiadau Camu i'r Copa, Alpine Coaches, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Venue Cymru, Y Sw Fynydd Cymreig, The White House, Rhuallt, Parc Cenedlaethol Eryri a Great Orme Mines.

Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, a'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt.

Dywedodd un myfyriwr:
"Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i fyfyrwyr ryngweithio gyda chyflogwyr lleol, a chael gwell dealltwriaeth o’r gyrfaoedd fydd ar gael yn yr ardal. Roedd yn fy ngalluogi i gael mwy o wybodaeth am y diwydiant digwyddiadau yng Ngogledd Cymru."

Dyma ddywedodd y tiwtor, Caroline Lewis: Roedd y digwyddiad twristiaeth yn llwyddiant ysgubol. Gweithiodd myfyrwyr yn galed iawn i greu a threfnu popeth. Roedd hyn nid yn unig yn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o'r diwydiant trefnu digwyddiadau, ond hefyd yn rhoi cyfle iddynt feithrin cysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol ym maes twristiaeth.

"Rydym ni fel adran yn ceisio rhoi cyfle i'n myfyrwyr ryngweithio ag amrywiaeth o sectorau yn y diwydiant twristiaeth, ac rydyn yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn dangos y gyrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw yn lleol.

"Roedd y digwyddiad yn galluogi myfyrwyr a chyflogwyr ledled Gogledd Cymru i gwrdd, a thrafod, ac yn dilyn llwyddiant y gynhadledd rydym yn gobeithio y gallwn barhau i feithrin y berthynas hon a dangos pa mor gyflogadwy ydi myfyrwyr twristiaeth Coleg Llandrillo."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ym maes Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Web: www.gllm.ac.uk

Email: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk