Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn cael blas ar yrfaoedd y Fyddin mewn gwersyll hyfforddi

Ymwelodd dysgwyr y cwrs BTEC Lefel 3 Gwasanaethau Diogelu Lifrog yng Ngholeg Llandrillo â gwersyll milwrol Capel Curig, lle rhoddodd milwyr y profiad o weithio yn y Fyddin iddynt

Cafodd dysgwyr Coleg Llandrillo gipolwg ar weithio yn y lluoedd arfog pan aethon nhw i wersyll milwrol Capel Curig.

Treuliodd y myfyrwyr, sy'n dilyn cwrs BTEC Lefel 3 Gwasanaethau Diogelu Lifrog ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, y diwrnod gyda milwyr gwrywaidd a benywaidd o Gorfflu Cudd-wybodaeth y Fyddin, y Gwarchodlu Cymreig, y Corfflu Logisteg Brenhinol a'r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol.

Cafodd y myfyrwyr weld rhai o offer y fyddin megis dillad safonol personol a phecynnau dogn maes, yn ogystal â gweld sut i ddefnyddio cuddliw a sut i chwilio'n ddiogel am wrthrychau sydd wedi'u cuddio mewn isdyfiant. Cafwyd cyflwyniad hefyd ar y gwahanol swyddogaethau o fewn y Fyddin.

Cymerodd dysgwyr ran mewn gweithgareddau gwaith tîm ac arweinyddiaeth, a chawsant gyfle i ymarfer prawf y Corfflu Cudd-wybodaeth, a oedd yn cynnwys cynllunio gweithgaredd cudd-wybodaeth.

Rhoddodd swyddog o'r Fyddin gipolwg i'r dysgwyr ar y broses ymgeisio i ddod yn swyddog cadét hefyd.

Dywedodd y darlithydd Dewi Roberts: “Rhoddodd personél y Fyddin adborth cadarnhaol iawn ar ymgysylltiad y myfyrwyr yn ystod y dydd.

“O safbwynt tiwtoriaid, ar ôl dychwelyd i’r coleg roedd y myfyrwyr yn canmol y cyfle a roddwyd iddynt ac yn awyddus i edrych ar fwy o gyfleoedd gyrfa wrth iddynt symud ymlaen drwy’r cwrs.

“Fel rhan o’r cwrs, nid yn unig mae gennym ni ddarpariaeth ystafell ddosbarth ar gyfer y myfyrwyr, mae gennym ni fynediad at y fyddin - y Fyddin Brydeinig, y Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol a’r Môr-filwyr - i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd o ran gyrfa sydd gan ein myfyrwyr.

“Rydym hefyd yn ymgysylltu â’r heddlu, y gwasanaethau tân ac ambiwlans a sefydliadau eraill yng Ngogledd Cymru fel bod myfyrwyr yn gwbl ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael wrth iddynt ystyried eu gyrfaoedd yn y gwasanaethau cyhoeddus.

“Rydym hefyd yn cael siaradwyr gwadd i mewn i’r coleg, ac mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau a chwilio am gyfleoedd yn y gwasanaeth cyhoeddus.

“Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y cwrs ymweld â’n noson agored ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddydd Llun, Tachwedd 13.”

Dywedodd y myfyriwr Ben Jones: “Roedd cyfarfod â’r Fyddin yng Nghapel Curig a chael trosolwg o’u gwahanol rolau a chyfleoedd gyrfa yn werthfawr iawn. Wrth i ni symud ymlaen ar y cwrs mae’n bwysig cael y profiad hwnnw yn y dosbarth ac yn ystod ymweliadau.”

Meddai Angel Owen sy'n gyd-fyfyriwr: “Roedd yn gyfle gwych i gyfathrebu a meithrin perthynas gyda fy nghyd-ddisgyblion wrth gwblhau’r gwaith tîm ac ymarferion eraill.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Bydd nosweithiau agored yn cael eu cynnal ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ystod mis Tachwedd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.