Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Nifer y Myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai wedi Cynyddu'n Sylweddol ar ôl Cyfnod Covid

“Rydym yn falch iawn o weld bod nifer ein myfyrwyr yn cynyddu i lefelau cyn-Covid ar ôl cyfnod tawel mewn recriwtio oherwydd y pandemig. Mae'n galonogol iawn bod pobl yn awyddus i wella eu dyfodol drwy ymrwymo i gyrsiau addysg bellach ac uwch.

“Mae llawer o’n cyrsiau’n llawn ac mae yna hyd yn oed restr aros ar gyfer rhai ohonynt oherwydd maint y galw.”

Mae hyn yn ôl Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Dafydd Evans, sy'n nodi isod pa gyrsiau yn y coleg allai eich helpu i gael swydd dda yn lleol.

Ymhlith y cyrsiau poblogaidd mae rhai ym maes Lletygarwch ac Arlwyo, sydd â chyn-fyfyrwyr arbennig fel Owen Vaughan a gyrhaeddodd rownd derfynol Masterchef a Dylan Owens sy'n Bennaeth Lletygarwch yng nghlwb pêl-droed Manchester City.

Maes rhaglen arall sy'n boblogaidd yn ein colegau yw Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, a da hynny gan fod y galw am grefftwyr proffesiynol yn uchel iawn wrth i'r diwydiant adeiladu rhanbarthol barhau i dyfu.

Bwriad sylfaenol Grŵp Llandrillo Menai yw cefnogi economi gogledd Cymru drwy roi i bobl leol y sgiliau a'r cymwysterau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol a llwyddiannus.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn aelod o fwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru sydd wedi nodi nifer o sgiliau sydd eu hangen i fodloni'r galw presennol a'r galw a ragwelir am swyddi yn y rhanbarth.

Ymhlith y sgiliau y mae cyflogwyr lleol wedi nodi y bydd eu hangen yn y dyfodol yw rhai ym maes Peirianneg, a disgwylir y bydd digonedd o gyfleoedd cyflogaeth gael eu creu gan y prosiectau ynni ac isadeiledd sydd ar y gweill yng ngogledd Cymru.

Ar hyn o bryd mae canolfan ragoriaeth newydd sbon ym maes Peirianneg yn cael ei datblygu ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, a bydd hon yn agor ym mis Tachwedd. Bydd y cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf: o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeip 3D a pheiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron.

Mewn partneriaeth â'r cwmni RWE Renewables bydd y datblygiad yn cynnwys sefydliad newydd ar gyfer Technoleg Ynni Adnewyddadwy. Nodwedd amlwg o’r adeilad fydd neuadd gwasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt diwydiannol tri llawr o uchder a fydd yn cael ei defnyddio gan weithwyr a phrentisiaid RWE.

Maes sgiliau arall y mae galw mawr amdano yn ein hardal yw Technoleg Gwybodaeth (TG).

Mae angen dadansoddwyr data traws-sector, yn ogystal â pheirianwyr ym maes seiberddiogelwch a meysydd uwch ddigidol eraill. Gall dysgwyr yn ein colegau symud ymlaen i Brentisiaethau Gradd a ddarperir mewn partneriaeth â'r GIG mewn pynciau arbenigol fel Seiberddiogelwch. Mae’r cynnig cyffrous yn fodd i fyfyrwyr ennill cymhwyster Addysg Uwch gan ddechrau gyrfa ac ennill cyflog yr un pryd.

Yn ogystal, mae angen dybryd am weithwyr iechyd a gofal yn yr ardal, o swyddi gofal plant a therapyddion galwedigaethol i swyddi yn y gwasanaeth gofal iechyd. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu llwybrau addysg a hyfforddiant clir i wahanol alwedigaethau, ac yn ddiweddar sefydlwyd partneriaeth gyffrous rhwng Cyngor Sir Ynys Môn ac adran Iechyd a Gofal Coleg Menai sy'n rhoi cyfle i'n myfyrwyr gael profiadau ymarferol gwerthfawr gyda Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol.

Mae llawer o'n dysgwyr Lefel 3 yn mynd ymlaen i gael gwaith yn y GIG ac yn symud ymlaen i gymhwyster Addysg Uwch gyda ni – fel y rhaglen Addysg Uwch i Ymarferwyr Gofal Iechyd. Mae eraill yn mynd ymlaen i Brifysgol i astudio Nyrsio, Bydwreigiaeth ac ati.

Mae'r nifer sy'n cofrestru wedi cynyddu ar draws y Grŵp o gymharu â blynyddoedd diweddar, ond mae yna'n dal le ar rai cyrsiau sy'n hanfodol i lwyddiant economi gogledd Cymru.

Chwiliwch ar-lein drwy'r dewis helaeth o gyrsiau sydd ar gael, neu cysylltwch â ni i drafod eich dewisiadau – bydd tîm cyfeillgar y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gael i'ch helpu i sicrhau eich lle yn y coleg.

- Dafydd Evans

Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai