Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Trigolion y Rhyl yn rhoi hwb i'w sgiliau cyllidebu diolch i brosiect Lluosi

Cyflwynodd y darlithydd Paul Goode o brosiect Lluosi - Rhifedd Byw weithdy 'Cyllidebu am Oes' yng nghanolfan yr elusen gymunedol Dyfodol Disglair yn y Rhyl

Croesawodd yr elusen weithdy rheoli arian a gyflwynwyd gan brosiect Lluosi - Rhifedd Byw⁠⁠, prosiect a arweinir gan Grŵp Llandrillo Menai.

Mae Lluosi yn rhaglen sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac sydd â'r nod o helpu oedolion i fagu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd. Mae'r prosiect yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau rhifedd AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Cynhaliwyd y gweithdy 'Cyllidebu am Oes' gan elusen o’r Rhyl, Dyfodol Disglair, ac roedd AS Dyffryn Clwyd, Dr James Davies, yn bresennol.

Sefydlwyd Dyfodol Disglair yn 2018 mewn ymateb i’r galw cynyddol ar sefydliadau gwirfoddol i gydweithio i leihau arwahanrwydd cymdeithasol, unigrwydd a thlodi yn yr ardal.

Cyflwynwyd y sesiwn gan Paul Goode, darlithydd o brosiect Lluosi, yng nghanolfan yr elusen ar Ffordd Wellington. Roedd yn ymdrin â phynciau fel creu cyllideb, sut i arbed arian ac arfer gorau cyffredinol o ran rheoli arian. Cymerodd y dysgwyr ran mewn tasgau grŵp diddorol i drafod syniadau cyllidebu a chategoreiddio eu mathau o wariant.

Bu Dr James Davies yn cymryd rhan yn y sesiwn hefyd gan siarad â dysgwyr yn ystod y gweithgareddau grŵp.

Yn ogystal â’r rhaglen Cyllidebu am Oes, mae cyrsiau a gynigir gan Lluosi yn cynnwys:

  • Helpu'ch plentyn gyda'i waith cartref mathemateg
  • Rhifau yn y gwaith (hybu rhagolygon cyflogaeth)
  • Rhedeg eich busnes eich hun
  • Hyfforddi'r ymennydd
  • Meithrin hyder gyda rhifau

Gellir creu cyrsiau pwrpasol yn unol ag anghenion unigolyn neu sefydliad.

Gellir darparu tiwtora un-i-un hefyd ar gyfer y rhai sydd am ennill cymhwyster ffurfiol mewn mathemateg, fel TGAU neu Gymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru.

I fod yn gymwys ar gyfer cwrs Lluosi, rhaid i ddysgwyr fod:

  • yn 19 oed neu'n hŷn;
  • heb gael TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg (neu gymhwyster cyfwerth);
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Dywedodd James Davies, AS Dyffryn Clwyd: “Roedd hi'n wych mynd i ddigwyddiad ‘Lluosi’ yn y Rhyl heddiw, a gweld trafodaethau polisi o’r Senedd yn cael eu rhoi ar waith ar lawr gwlad.

“Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar gyllidebu yn y cartref, ac roedd nifer dda yn y sesiwn ddifyr. Mae’n dda gwybod y bydd cyrsiau Lluosi yn cael eu hymestyn ar draws yr ardal a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gall elwa i ddarganfod mwy.”

Dywedodd Steve Johnson, sy'n byw yn y Rhyl: "Dw i'n falch iawn fy mod wedi mynd i'r digwyddiad cyllidebu yma. Roedd yr awgrymiadau’n ddefnyddiol iawn ac fe wnaeth i mi feddwl am syniadau arbed arian doeddwn i heb eu hystyried o’r blaen.”

Dywedodd Alex Carter, Cydlynydd Ymgysylltu Prosiect Lluosi ar gyfer Sir Ddinbych: “Roedd yn wych gweld cymaint o ddysgwyr yn bresennol a chlywed sut mae eu hyder o ran cyllidebu wedi gwella diolch i’r sesiwn ddifyr a arweiniwyd gan Paul.

“Hoffwn ddiolch i Dyfodol Disglair am ein helpu i redeg y cwrs ac i James am ei gefnogaeth a’i help i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phob math o sefydliadau ledled Sir Ddinbych i ddatblygu ystod eang o gyrsiau Lluosi a fydd o fudd i unigolion a busnesau ar draws y sir. Y neges yw 'rydym yma i helpu', felly cysylltwch â ni os hoffech gael gwybod mwy."

Dywedodd Jayne Penney, Cydlynydd Dyfodol Disglair: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan ac rydym wedi cael adborth ardderchog gan yr aelodau. Mi wnaeth y cwrs wir agor eu llygaid a bydd yn siŵr o wella eu sgiliau cyllidebu.”

I gael gwybod rhagor am brosiect Lluosi, ewch i gllm.ac.uk/cy/lluosi ⁠neu cliciwch yma. Cewch ffurflen gofrestru yma.

Os hoffech siarad â rhywun am y prosiect e-bostiwch lluosi@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 542 338