Dysgwyr Coleg Menai yn Cael Profiad Gwaith Gwerthfawr gyda Chyngor Sir Ynys Môn
Mae myfyrwyr o raglen Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith Coleg Menai wedi cwblhau wythnos werthfawr o brofiad gwaith, diolch i gyfleoedd newydd a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Lleolwyd y myfyrwyr mewn amrywiaeth o adrannau o fewn yr awdurdod lleol, gan gynnwys Tai, Addysg, Busnes, a Rheoli Gwastraff, fel rhan o'r cynllun 'Paratoi at Weithio'. Nod y fenter hon, sydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ydy helpu'r dysgwyr i ddatblygu sgiliau allweddol fel gwaith tîm, hyder, cyfathrebu a threfnu - sgiliau sy'n hanfodol wrth iddynt baratoi at ymuno â'r gweithlu.
Y cynllun Paratoi at Weithio ydy'r garreg filltir ddiweddaraf yn y bartneriaeth gynyddol rhwng Grŵp Llandrillo Menai a Chyngor Sir Ynys Môn. Mae'r ddau sefydliad wedi gweithio gyda'i gilydd ers sawl blwyddyn i wella datblygu sgiliau, a chreu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ledled Ynys Môn.
Yn 2023, ffurfiolodd y ddau sefydliad eu partneriaeth gyda Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy'n canolbwyntio ar dri maes craidd: hyrwyddo addysg a sgiliau ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru, meithrin datblygiad economaidd ar yr ynys, a chryfhau partneriaethau corfforaethol.
Yn ogystal â'r lleoliadau a ddarperir i ddysgwyr Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith, mae Adran Iechyd a Gofal Coleg Menai hefyd yn gweithredu cynllun lleoliadau gwaith llwyddiannus mewn cydweithrediad â'r awdurdod lleol. Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gysgodi staff gwasanaethau cymdeithasol, gan roi dealltwriaeth amhrisiadwy o'r sector.
Cynigiwyd y lleoliadau hyn i fyfyrwyr Coleg Menai'n unig, ac roedd yn rhaid iddynt wneud cais drwy ddilyn proses recriwtio strwythuredig. Neilltuwyd mentor i bob myfyriwr o fewn eu hadran, a darparwyd adnoddau pwrpasol iddynt i gefnogi eu twf.
Esboniodd Helen Parry, Dirprwy Reolwr Maes Rhaglen Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith yng Ngholeg Menai,
“Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg Menai a Chyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn allweddol wrth roi profiad byd go iawn i’n dysgwyr ar draws gwahanol sectorau, gan eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol”
Ychwanegodd, “Mae cefnogaeth y cyngor, ochr yn ochr â’r arweiniad gan ein tiwtoriaid, yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu ein myfyrwyr i feithrin yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth iddynt baratoi i ymuno â’r farchnad swyddi.”
Dywedodd deiliad portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Rydw i wrth fy modd bod y myfyrwyr wedi mwynhau eu profiad gwaith gyda gwahanol wasanaethau’r Cyngor. Mae'r Cyngor yn gyflogwr rhagorol ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous. Diolch yn fawr iawn i bawb a oedd ynghlwm â threfnu'r profiad gwerthfawr hwn, rydw i'n edrych ymlaen at fwy o gydweithio â Choleg Menai yn y dyfodol.”