Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diwrnod Gwobrwyo Blynyddol yn Dathlu Llwyddiannau Myfyrwyr Glynllifon

Cynhaliwyd y seremoni ar y campws diwydiannau tir i gydnabod cyflawniadau’r dysgwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25

Yn ddiweddar, dathlwyd cyflawniadau myfyrwyr Glynllifon yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25 mewn Diwrnod Gwobrwyo Blynyddol.

Cydnabuwyd enillwyr gwobrau am bob cwrs ar y campws diwydiannau tir (rhestr lawn o'r enillwyr isod), cyn cyhoeddwyd enw Myfyriwr y Flwyddyn ar ddiwedd y seremoni.

Enwyd Winston Evans yn Fyfyriwr y Flwyddyn Glynllifon, gan ennill Cwpan Goffa John Tudor CBE, ar ôl ennill y wobr hefyd am ei gwrs, Amaethyddiaeth Lefel 2.

Wrth gyhoeddi’r enillwyr, dywedodd y Rheolwr Fferm, Coedwigaeth ac Arloesi, Rhodri Owen, fod Winston wedi dangos “ymroddiad a brwdfrydedd llwyr… yn rhagori ym mhob maes gwaith” a bod ganddo “botensial cryf i lwyddo yn y dyfodol”.

Ychwanegodd Rhodri: “Mae’n unigolyn sy’n barod i weithio ym mhob tywydd, ac mae staff y fferm yn ddiolchgar iawn am y gwaith caled y mae wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Mae Winston yn bwriadu dychwelyd i’r Coleg ym mis Medi i astudio Amaethyddiaeth Lefel 3.

Hefyd ymhlith yr enillwyr roedd Will Aaron Lloyd, a dderbyniodd Gwpan Cyn-fyfyrwyr Madryn a Glynllifon am 'Gyfraniad Arbennig', a Mark Webster, a enwyd yn Ddysgwr y Flwyddyn Bagloriaeth Cymru.

Roedd cyflwyniad arbennig i dîm rygbi Glynllifon, a enillodd Gwpan dan-18 Gogledd Cymru, ar ôl curo Coleg Meirion-Dwyfor 38-7 yn y rownd derfynol.

Cyflwynwyd y gwpan i’r Capten, Huw Watkins, ar ran y tîm, a ddaeth hefyd yn ail yng nghystadleuaeth gyntaf Colegau Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth yn gynharach yn y tymor.

Cyflwynwyd gwobrau hefyd i gneifwyr y flwyddyn, tra cafodd pob dysgwr o’r Coleg dystysgrif ar ddiwedd y seremoni.

Glyn Roberts, cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, a oedd yn siaradwr gwadd ar y diwrnod a gyflwynodd y gwobrau i’r dysgwyr.

OBR Construction oedd prif noddwr y Diwrnod Gwobrau. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Rhys Jones: “Rydym wrth ein bodd i barhau â’n partneriaeth â Choleg Glynllifon a Grŵp Llandrillo Menai ac wedi mwynhau bod yn rhan o’r dathliadau.

“Mae’n wych gweld cymaint o ddysgwyr yn mynd yn eu blaenau i astudio ymhellach neu’n symud ymlaen i'r byd gwaith. Fel cyflogwr rhanbarthol mae'n hyfryd cael cyfle i ddathlu dysgwyr sydd wedi ennill sgiliau a chymwysterau newydd!”

I wneud cais am un o gyrsiau Coedwigaeth, Amaethyddiaeth, Peirianneg Amaethyddol neu Ofal Anifeiliaid yng Nglynllifon o fis Medi ymlaen, cliciwch yma.

Mae’r rhestr lawn o enillwyr y gwobrau fel a ganlyn:

Myfyriwr y Flwyddyn Glynllifon (Cwpan Goffa John Tudor CBE): Winston Evans

Cyfraniad Arbennig (Cwpan Cyn-fyfyrwyr Madryn a Glynllifon): Will Aaron Lloyd

Dysgwr y Flwyddyn Bagloriaeth Cymru: Mark Webster

Dysgwr y Flwyddyn Amaethyddiaeth Lefel 3 (Cwpan Goffa George Edwards): Glesni Wyn Jones

Dysgwr Ymarferol y Flwyddyn Amaethyddiaeth Lefel 3: Osian Pierce

Dysgwr y Flwyddyn Amaethyddiaeth Lefel 2: Winston Evans

⁠Cneifiwr y Flwyddyn (Tlws Elfed Jackson a’r Teulu): Owain Jones

Cneifiwr â Pheiriant y Flwyddyn (Cwpan Goffa Elgan Williams): Osian Pierce

Cneifiwr â Pheiriant y Flwyddyn: Teagan Cairns

Dysgwr y Flwyddyn Peirianwaith Amaethyddol Lefel 3 (Cwpan Jones a'i Feibion): Deio Llwyd Edwards

Dysgwr Ymarferol y Flwyddyn Peirianwaith Amaethyddiaeth Lefel 3: Iestyn Jarman

Prosiect Peirianneg y Flwyddyn: Twm Jôs Hughes

Peirianneg Lefel 2 (Cwpan Goffa Ieuan Ifor Williams): Cynan Parry

Coedwigwr y Flwyddyn ⁠Coedwigaeth a Choedyddiaeth Lefel 3 (Gwobr Goffa Gerallt Edwards): Misha Fox-Maderson

Dysgwr Ymarferol y Flwyddyn Coedwigaeth a Choedyddiaeth Lefel 3: Mark Webster

⁠Dysgwyr a Wnaeth y Cynnydd Mwyaf ⁠Coedwigaeth a Choedyddiaeth Lefel 3: Sarah Williams

Dysgwr y Flwyddyn Coedwigaeth Lefel 2: Tristan Jones (Enillodd Tristan wobr Myfyriwr y Flwyddyn y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol (RFS) hefyd)

⁠Dysgwyr a Wnaeth y Cynnydd Mwyaf Coedwigaeth a Choedyddiaeth Lefel 2: Rhys Pearce

Dysgwr y Flwyddyn Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3 (Blwyddyn 2): Joshua Michael Roberts-Higgins

Dysgwr y Flwyddyn Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3 (Blwyddyn 1): Lois Chapman

Dysgwr y Flwyddyn Gofal Anifeiliaid Lefel 2: Louise Wilkinson

Dysgwr y Flwyddyn Gofal Anifeiliaid Lefel 1: Zara Lewis Jones

Dysgwr y Flwyddyn Sgiliau Bywyd a Gwaith (Cwpan Anwen Harman): Jamie Williams

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date