Nyrs yn achub bywyd Cara mewn digwyddiad llesiant
Yn dilyn sgwrs gyda nyrs atal strôc ar gampws y Rhyl, cafodd Cara Baker, darlithydd Gwasanaeth Cyhoeddus, ddiagnosis o glefyd difrifol ar ei harennau
Mae Cara Baker, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo wedi diolch i'r nyrs a achubodd ei bywyd mewn digwyddiad llesiant yn y coleg.
Cafodd Cara wybod bod ganddi glefyd ar ei harennau ar ôl cael prawf pwysedd gwaed yn y digwyddiad a gweld o hwnnw bod y canlyniadau'n beryglus o uchel.
Roedd hi wedi mynd am y prawf hwnnw ar ôl sgwrs gydag Emma Davies, nyrs gymunedol atal strôc oedd wedi dod i ddigwyddiad llesiant ar gampws y Rhyl llynedd.
Cytunodd Cara Baker, darlithydd ac arweinydd rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus i eistedd ar gyfer gwiriad iechyd - a dyna'r pwynt ble newidiodd popeth.
Meddai: "Roeddwn i'n teimlo'n iawn - braidd yn flinedig efallai ac o dan bwysau. Mi ddefnyddiodd y nyrs y peiriant ar gyfer tri darlleniad a gwneud y pedwerydd â llaw. Gofynnodd oeddwn i wedi dioddef cur pen yn ddiweddar neu drafferth gyda fy ngolwg, ac mi oeddwn i."
O glywed hyn roedd Emma'n bryderus ac mi ofynnodd i Cara fynd ar unwaith i'r uned frys. Ffoniodd Cara ei meddyg teulu am gyngor. Cadarnhaodd y meddyg bod hwn yn fater brys a bod angen iddi fynd ar unwaith i'r ysbyty.
"Dw i'n cofio'r hyn ddigwyddodd mor glir," dywedodd Emma. "Roedd ei darlleniad pwysedd gwaed yn 228/147. Bu'n rhaid i mi wirio hyn nifer o weithiau, roedd mor uchel. Dydych chi ddim yn disgwyl gweld ffigyrau tebyg i'r rhain ar unigolyn sy'n ifanc, heini ac iach yr olwg.
Doedd dim symptomau amlwg i'w gweld ar wahân i flinder, ond roedd y darlleniad yn dangos bod rhywbeth mawr yn bod. Roeddwn i'n gwybod bod angen gofal arni, ar frys."
Cafodd Cara brofion amrywiol dros nifer o ddiwrnodau a derbyniodd ddiagnosis o glefyd ar ei harennau o ganlyniad i bwysedd gwaed uchel oedd heb ei ganfod.
"Mi ges i wybod, pe na bawn i'n derbyn triniaeth ar frys, bod siawns uchel iawn y gallwn farw o fewn y flwyddyn," meddai Cara.
"Roeddwn i'n syfrdan. Doedd gen i ddim syniad bod fy mhwysedd gwaed mor uchel. Mi wnaeth y nyrs achub fy mywyd.
Pan welais i'r un nyrs yn yr un digwyddiad llesiant eleni, roedd yn brofiad emosiynol iawn. Roeddwn i eisiau gadael iddi wybod bod y gwiriad pum munud o hyd wedi arwaith at ddiagnosis, at driniaeth ac yn bwysicaf oll, at ail gyfle."
Mae rhaglen estyn allan y Nyrs Atal Strôc yn rhan o raglen ehangach i addysgu a chodi ymwybyddiaeth a gyflwynir yng ngogledd Cymru. Mae'r rhaglen yn targedu gweithleoedd, colegau a lleoliadau cymunedol, gan gynnig gwiriadau iechyd, asesiadau risg mewn perthynas â strôc a gwybodaeth a all achub bywydau.
Ychwanegodd Janet Michell, rheolwr prosiect: Gelwir pwysedd gwaed uchel yn llofrudd cudd, oherwydd dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn teimlo'n sâl. Mae'r stori hon yn dangos pam bod mynd allan i gwrdd â phobl mewn lleoliadau gwahanol mor bwysig. Gall gwiriad syml fel hwn achub bywydau.
Nid codi ofn ydy'r bwriad, rydym yma i gynnig gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i warchod eu hiechyd. Mae ymyrraeth gynnar yn gwneud gwahaniaeth."
Ffeithiau pwysig:
- Mae pwysedd gwaed uchel yn un o'r prif bethau sy'n achosi strôc, methiant y galon a chlefyd ar yr arennau.
- Yn aml iawn does dim symptomau - ond pan fydd symptomau amlwg maen nhw'n cynnwys cur pen, blinder neu broblemau golwg.
- Mae darlleniad pwysedd gwaed normal o gwmpas 120/80 mm Hg
- Gall gwiriadau cyson a thriniaeth atal cyflyrau sy'n peryglu bywyd.