Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Anrhydeddu Natasha yn Fyfyriwr Plastro Gorau'r DU!

Mae myfyriwr Adeiladu o Goleg Llandrillo sy'n cydbwyso ei hyfforddiant gyda bod yn fam bellach wedi'i chyhoeddi fel y myfyriwr plastro gorau yn y DU!

Cipiodd Natasha Williams o Langernyw, sy’n astudio ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, y wobr mewn seremoni ddisglair yn Llundain.

Cynhelir y gystadleuaeth flynyddol gan The Worshipful Company of Plaisterers, a chaiff myfyrwyr ledled y DU gymryd rhan. Gwobr ‘Myfyriwr y Flwyddyn’ yw gwobr fwyaf mawreddog y DU i fyfyrwyr plastro.

Ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn wreiddiol, gwahoddwyd hi a’r ddau arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol i’r brifddinas ar gyfer y seremoni wobrwyo flynyddol. Roedd y noson yn cynnwys 11 o wobrau, gyda Natasha yn ennill yr un mwyaf mawreddog: 'Myfyriwr y Flwyddyn'.

Cyhoeddwyd yr enillwyr o flaen cynulleidfa orlawn yn Plaisterers’ Hall, a chyflwynwyd y gwobrau gan yr Henadur Syr Charles Bowman o Swyddfa’r Arglwydd Faer. Mae’r gwobrau’n gydweithrediad rhwng FIS a The Worshipful Company of Plaisterers i gydnabod prentisiaid a myfyrwyr rhagorol ac unigolion a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad parhaol i hyfforddiant a datblygiad ym maes plastro a chrefftau mewnol.

Dywedodd Natasha: “Pan ofynnodd fy nhiwtor yn gyntaf a oedd a fyddwn i'n hapus iddo fy enwebu i ar gyfer y gystadleuaeth hon, ni feddyliais lawer fwy am y peth. Doeddwn i ddim meddwl fy mod i'n ddigon da, ond eto mae gen i barch aruthrol at fy nhiwtoriaid a gwelais gyfle o bosib i roi rhywbeth yn ôl iddynt.

"Roedd cael fy nghynnwys yn y tri uchaf a mynd i'r seremoni wobrwyo yn Llundain yn swreal. Y cyfan y gallwn i feddwl amdano oedd nad oeddwn i eisiau siomi fy nhiwtoriaid na fy ngholeg. Roedd ennill a sefyll ar y llwyfan yn cynrychioli fy ngholeg a'n nhiwtoriaid anhygoel yn deimlad rhyfeddol.

"Hon fydd fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr llawn amser, ond rydw i'n sicr na fyddai byth yn stopio dysgu. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, rydw i'n gobeithio dod o hyd i brentisiaeth.

"Unwaith y bydd gen i ddigon o brofiad a hyder, rydw i'n edrych ymlaen at ddechrau fy musnes fy hun, lle byddaf yn gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth i'm mhrentisiaid fy hun a'u cefnogi a rhoi arweiniad iddynt. A phwy a ŵyr, efallai y byddai'n dysgu myfyrwyr yn ôl yma yng Ngholeg Llandrillo rhyw ddydd!”

Dywedodd eu tiwtor, Richard Jones: "Rhoddodd Natasha dro ar sawl crefft wahanol cyn penderfynu ar blastro; roedd hi'n arbennig o dda o'r dechrau un. Mae ganddi allu naturiol a pharodrwydd i ddysgu; mae'n bleser ei dysgu. Rydyn ni'n andros o falch o Natasha ac o adran blastro'r coleg... Rydyn ni wedi bod yn ceisio ennill y gystadleuaeth hon ers 20 mlynedd!"

Derbyniodd The Worshipful Company of Plaisterers ei Siarter Frenhinol cyntaf yn 1501, y cwmni yw'r 46ain yn nhrefn blaenoriaeth Cwmnïau Lifrai Dinas Llundain ac mae'n bodoli i annog rhagoriaeth ym mhob agwedd ar blastro.

Meddai Stephen Glibert, Meistr The Worshipful Company of Plaisterers, ar y noson: “Mae’r Cwmni yn falch iawn o fod yn cynnal y gwobrau mawreddog hyn unwaith eto yn ein neuadd odidog. Eleni, mewn symudiad cyffrous ymlaen, rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi ymuno gyda FIS i gydnabod cyflawniadau llawer o fewn y Sector Plastro a Gorffeniadau a Chrefftau Mewnol."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Adeiladu yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk/construction

neu ffoniwch Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.⁠

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk